Dafydd ap Gwilym logo

Hafan

Aelodau'r Tîm

Golygyddion:

Mae Dr Huw Meirion Edwards yn Uwchddarlithydd yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Cymru Aberystwyth. Mae’n gynganeddwr o fri, ac enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2004. Bu’n gyfrifol am olygu 33 o gerddi (rhifau 4, 8, 14, 15, 22, 48, 49, 51, 58, 59, 60, 65, 67, 77, 83, 91, 98, 104, 110, 116, 117, 118, 122, 123, 133, 135, 136, 137, 143, 144, 147, 154, 164), ac am ysgrifennu’r adran ar y cyd-destun llenyddol yn y Rhagymadrodd.

Ei brif gyhoeddiadau perthnasol i’r prosiect hwn yw:
 

 ‘Y Trioedd Serch’, Dwned 1 (1995), 25–39 

Dafydd ap Gwilym: Influences and Analogues (Oxford, 1996)

'Murnio Marwnadau: Golwg ar y Ffug-farwnad yng Nghyfnod y Cywyddwyr', Dwned 5 (1997), 47-70

Gwaith Prydydd Breuan a Cherddi Dychan Eraill o Lyfr Coch Hergest (Aberystwyth, Cyfres Beirdd yr Uchelwyr, 2000)

Gwaith Madog Dwygraig (Aberystwyth, Cyfres Beirdd yr Uchelwyr, 2006)

 

Mae Dr Dylan Foster Evans yn ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd. Mae’n naturiaethwr brwd, ac ef oedd ymgynghorydd naturiaethol y prosiect. Bu’n gyfrifol am olygu 34 o gerddi (rhifau 11, 19, 34, 38, 41, 42, 52, 54, 62, 71, 80, 81, 82, 88, 89, 92, 94, 97, 99, 101, 103, 108, 109, 112, 121, 124, 126, 128, 131, 132, 140, 145,  160, 166), ac am gydysgrifennu’r adran ar fywyd y bardd yn y Rhagymadrodd.

Ei brif gyhoeddiadau perthnasol i’r prosiect hwn yw:

'Goganwr am Gig Ynyd': The Poet as Satirist in Medieval Wales (Aberystwyth, Papurau Ymchwil Rhif 6, 1996)

‘ “Y Carl a'i Trawai o'r Cudd” - Ergyd y Gwn ar y Cywyddwyr’, Dwned 4 (1998), 75-105

Gwaith Hywel Swrdwal a'i Deulu, (Aberystwyth, Cyfres Beirdd yr Uchelwyr, 2000)

 ‘ “Bardd arallwlad”: Dafydd ap Gwilym a Theori Ôl-Drefedigaethol’, yn Owen Thomas (gol.), Llenyddiaeth mewn Theori (Caerdydd, 2006), 39–72

 ‘ “Cyngor y Bioden”: Ecoleg a Llenyddiaeth Gymraeg’, yn Owen Thomas (gol.), Llenyddiaeth mewn Theori I (2006), 41–79

Gwaith Rhys Goch Eryri (Aberystwyth, Cyfres Beirdd yr Uchelwyr, 2007)

 

Mae Dafydd Johnston yn Athro’r Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe. Ef oedd arweinydd y prosiect, a bu’n gyfrifol am olygu 53 o gerddi (rhifau 1, 5, 6, 7, 9, 10, 12, 13, 16, 17, 31, 32, 33, 35, 36, 39, 43, 44, 45, 46, 47, 50, 57, 64, 66, 68, 69, 73, 74, 75, 84, 85, 93, 95, 100, 102, 105, 106, 107, 111, 114, 115, 125, 130, 141, 142, 150, 156, 159, 167, 168, 169, 170), ac am ysgrifennu’r adrannau ‘Egwyddorion y testunau golygedig’, ‘Awduraeth y cerddi’, ‘Yr Apocryffa’, a ‘Traddodiad y llawysgrifau’ yn y Rhagymadrodd.
 

Ei brif gyhoeddiadau perthnasol i’r prosiect hwn yw:
 

'The Serenade and the Image of the House in the Poems of Dafydd ap Gwilym', CMCS 5 (1983), 1-19 

'Cywydd y Gal by Dafydd ap Gwilym', CMCS 9 (1985), 71-99

'Nodiadau ar Waith Dafydd ap Gwilym', B 32 (1985), 79-83

Gwaith Iolo Goch (Caerdydd, 1988)

Blodeugerdd Barddas o’r Bedwaredd Ganrif ar Ddeg (Barddas, 1989)

Canu Maswedd yr Oesoedd Canol / Medieval Welsh Erotic Poetry (Caerdydd, 1991; ail arg. Pen-y-bont ar Ogwr, 1998)

'The Erotic Poetry of the Cywyddwyr', CMCS 22 (1991), 63-94

'Paradwys Dafydd ap Gwilym', yn J E Caerwyn Williams (gol.), Ysgrifau Beirniadol XX (Dinbych, 1995), 114-124

Gwaith Llywelyn Goch ap Meurig Hen (Aberystwyth, Cyfres Beirdd yr Uchelwyr, 1998)

 ‘Early Translations of Dafydd ap Gwilym’, yn  Alyce von Rothkirch and Daniel Williams (gol.), Beyond the Difference: Welsh literature in Comparative Contexts (Cardiff, 2004), 158–72

Llên yr Uchelwyr: Hanes Beirniadol Llenyddiaeth Gymraeg 1300–1525 (Caerdydd, 2005)

Dafydd ap Gwilym Digidol (Darlith Lenyddol Eisteddfod Genedlaethol Abertawe a’r Cylch, 2006)

 

Mae Dr A. Cynfael Lake yn Uwchddarlithydd yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe. Bu’n gyfrifol am olygu 39 o gerddi (rhifau 2, 3, 18, 20, 21, 37, 40, 53, 55, 56, 61, 63, 70, 72, 76, 78, 79, 86, 87, 90, 96, 113, 119, 120, 129,  139, 146, 148, 149, 151, 152, 153, 155, 157, 158, 161, 162, 163, 165), ac am ysgrifennu’r adran ar grefft y cerddi yn y Rhagymadrodd.

Ei brif gyhoeddiadau perthnasol i’r prosiect hwn yw:
 

Gwaith Lewys Daron (Caerdydd, 1994) 

Gwaith Huw ap Dafydd ap Llywelyn ap Madog (Aberystwyth, Cyfres Beirdd yr Uchelwyr, 1995)

Gwaith Siôn Ceri (Aberystwyth, Cyfres Beirdd yr Uchelwyr, 1996)

'Awduraeth Cerddi'r Oesoedd Canol: Rhai Sylwadau', Dwned 3 (1997), 63-71

Gwaith Siôn ap Hywel (Aberystwyth, Cyfres Beirdd yr Uchelwyr, 1999)

Gwaith Mathau Brwmffild (Aberystwyth, Cyfres Beirdd yr Uchelwyr, 2002)

Gwaith Lewys Morgannwg (Aberystwyth, Cyfres Beirdd yr Uchelwyr, 2004)

 

Cynorthwywyr Ymchwil:
 

Mae Ifor ap Dafydd yn ddarlithydd dros dro yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe. Bu’n gynorthwyydd ymchwil ar y prosiect o Ebrill 2005 hyd Ebrill 2007, ac ef oedd yn bennaf gyfrifol am osod yr holl ddeunydd ar y wefan, ac am drefniadau’r gynhadledd.

 

Bu Dr Hannah Dentinger yn gynorthwyydd ymchwil rhan anser ar y prosiect o Hydref 2006 hyd Ebrill 2007. Hi oedd yn gyfrifol am gasglu’r lluniau sydd yn y nodiadau, a bu’n cynorthwyo hefyd gyda threfniadau’r gynhadledd.

 

Mae Dr Elisa Moras yn ddarlithydd yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan. Bu’n gynorthwyydd ymchwil ar y prosiect 2003–4, a golygodd ddwy gerdd (rhifau 134 a 138). Elisa a gychwynnodd y gwaith o baratoi testunau electronig a hefyd y mynegai i waith Dafydd ap Gwilym. Bu hefyd yn trawsysgrifo llawysgrifau.

 

Mae Dr Sara Elin Roberts yn ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Cymru Bangor. Bu’n gynorthwyydd ymchwil ar y prosiect 2002–6, gyda chyfrifoldeb arbennig am gronfeydd data y llawysgrifau, ac am ddrafftio’r stemâu a’r llyfryddiaeth. Hi olygodd gerddi’r ymryson a ‘Gwayw Serch’ (rhifau 23–30 a 127), ac mae’n gydawdur yr adran ar fywyd y bardd yn y Rhagymadrodd. 

Ei phrif gyhoeddiadau perthnasol i’r prosiect hwn yw:

'Cwpled Coll o Waith Dafydd ap Gwilym', Dwned 11 (2005) 

'Dafydd ap Gwilym, ei Ewythr a'r Gyfraith', LlC 28 (2005), 100-114

 

Aelod o'r Pwyllgor Llywio a golygydd cerdd 171:

Mae Dr Ann Parry Owen yn ddarllenydd yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, yn Aberystwyth, ac yn arweinydd tîm ymchwil a fydd yn creu golygiad newydd (ar y we ac mewn print) o waith Guto'r Glyn.

Ei phrif gyhoeddiadau perthnasol i'r prosiect hwn yw:

Gwaith Llywelyn Brydydd Hoddnant (yn cynnwys golygiad o awdl Dafydd ap Gwilym i'r Grog o Gaer) (Aberystwyth, 1996)

Gwaith Gruffudd ap Maredudd, iii, Cerddi Amrywiol (Aberystwyth, 2007)

'Englynion Bardd i'w Wallt': cerdd arall gan Ddafydd ap Gwilym?, Dwned
13 (2007)

 

 

 

 

Developed and Maintained by Digital Humanities at Swansea University | Hawlfraint - Prifysgol Abertawe / Copyright - Swansea University | Rhestr Cerddi / Poem List