Bu crefft Dafydd ap Gwilym yn destun edmygedd i’w gyfoeswyr ac i lu o
feirdd a sylwebyddion a’u dilynodd.
Daw athrylith y crefftwr i’r amlwg mewn sawl ffordd. Cynigir yn y rhan hon
o’r rhagymadrodd amlinelliad o’r elfennau y bu cenedlaethau o feirniaid yn
eu trafod a’u dadansoddi, a rhoddir sylw yn benodol i gynganeddion Dafydd ap
Gwilym.