Hafan

Y wefan hon fydd cartref golygiad newydd o farddoniaeth Dafydd ap Gwilym a agorir i’r cyhoedd ym mis Ebrill 2007. Mae’r golygiad yn ffrwyth prosiect pedair blynedd a ariannwyd gan Fwrdd Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau.

Arweinydd y prosiect yw’r Athro Dafydd Johnston o Brifysgol Cymru Abertawe, ac mae’r tîm yn cynnwys aelodau o dair Adran Gymraeg, Dr Huw M. Edwards (PC Aberystwyth), Dr Dylan F. Evans (Prifysgol Caerdydd) a Dr A. Cynfael Lake (PC Abertawe), ynghyd â thri chynorthwy-ydd ymchwil, Dr Sara Elin Roberts (2002–6), Dr Elisa Moras (2003–4) ac Ifor ap Dafydd (2005–7), a swyddog technegol, Alexander Roberts.

Bydd y golygiad yn cynnwys:

  • 170 o gerddi (19 ansicr eu hawduraeth)
  • testun golygedig o bob cerdd
  • aralleiriad Cymraeg
  • cyfieithiad Saesneg
  • nodiadau manwl
  • testunau’r prif gopïau llawysgrif
  • lluniau digidol o’r llawysgrifau cynharaf
  • stema yn dangos perthynas y llawysgrifau
  • darlleniad wedi’i recordio

Yn y Rhagymadrodd trafodir:

  • bywyd a chefndir y bardd
  • y cyd-destun llenyddol yng Nghymru ac Ewrop
  • crefft y cerddi
  • y cyfeiliant cerddorol
  • traddodiad y llawysgrifau
  • egwyddorion golygyddol
  • awduraeth
  • cerddi’r apocryffa

Gellir chwilio’r testunau trwy gyfrwng mynegair cyflawn, a rhestrir cynnwys y llawysgrifau mewn cronfa ddata.

Rhoddir sylw arbennig i’r ddau gywydd o waith Dafydd ap Gwilym sydd ar y maes llafur Safon A, gan gynnwys eglurhad gweledol o bob cynghanedd.

Cynhelir cynhadledd ddeuddydd i lansio’r golygiad ym Mhrifysgol Abertawe, 4– 5 Ebrill 2007.

Yn rhan o’r gynhadledd bydd cyngerdd yng Nghanolfan Dylan Thomas nos Fercher 4 Ebrill lle bydd Dr Sally Harper o Adran Gerddoriaeth Prifysgol Cymru Bangor yn cyflwyno datganiadau o rai o’r cerddi gan Dr Meredydd Evans i gyfeiliant y delynores Bethan Bryn, a pherfformiadau o rai o geinciau telyn llawysgrif Robert ap Huw gan Bill Taylor.

Am fwy o wybodaeth am y prosiect a’r gynhadledd cysyllter ag Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe,
i.ap-dafydd@abertawe.ac.uk, 01792 295193.

I weld rhaglen y gynhadledd cliciwch yma ac i gael ffurflen gofrestru cliciwch yma.

Developed and Maintained by Digital Humanities at Swansea University | Hawlfraint - Prifysgol Abertawe / Copyright - Swansea University | Rhestr Cerddi / Poem List