The Text      

1 I'r Grog o Gaer


Cryf aberth yw nerth, nid yn aer—treiswyr
Eithr mywn trawswyrth
didaer,
Crair mawrglod, croywrym eirglaer,
Crog bedwarban o gan Gaer.


Lluniaf arawl mawl can wyf maer—ar wawd
I'r wiwdeg fygrddelw
glaer,
Lle breisgdwrf llanw llwybr wysgdaer,
Llathr amgylch cyfrestrfylch [Caer].


Llawn iawn fu o ddawn heb fodd aer—na thwrf
Na therfysg brwydr
aglaer,
Ll[ ]lch oleugalch loywgaer,
Lle lleinw heli Dywi daer.


[

]aer —[ ]
O achos y grog glaer,
Llathrgaen faen [ ] brwydrdaer,
Llithr byrdd fyrdd [fylch] lludw cylch
Caer.


Llathrddelw fyw llin Llyw llwybr didaer—[
]claer
Lle daw, cyn treiaw traaer,
Llanw llawndraidd a gyrraidd Gaer.


[ ]dysg
diaer—er urddas
I'r eurddelw loywfyw
glaer,
Cannaid dadl [ ] didaer,
[

]logion Caer.


Cyflawn yw o ddawn, ddinam faer,—ynof
Gan [

]
Celfydd corf dedwydd didaer,
Coelfain cysegrblas cain Caer.


C[
]Crist
yw saer—y grog
Groywgadr wyrth
ffrwythlonglaer,
Creawdr [

]
[Crair]a ddoeth i dref goeth Gaer.


Y grog hon, loywfron lyfr Biblglaer—...
]saer
Eurddelw, drwyadl ddadl ddidaer,
Urddas carueiddblas Caer.


[
] cannaer—aneuog
Lle mae naweirw
dwrddglaer,
D[
]daer
Dwfr dros lennyrch a gyrch Gaer.


Dug llanw gwyll
[
]
Er moliant i'r ddelw
glaer,
Deifr brudd-deml, dwfr ebrwydd-daer,
[

] Caer.


Da fu, drwyadl ddadl ddidaer,—hwyl[
]
H[

]
Dawn mawrglau, dinam, eirglaer,
Dwyn gem a garem i Gaer.


Credadun eiddun addef—yw dyfod
I blith Deifr
Saesnectref,
[

]
Crair croywgain air, crog o nef.


I'w ffloywfrain[
]dwyn
gwawd gysylltgref,
Ei phlas yw Caer, aer wrdd-dref,
[

]


Mae un englyn yn annarllenadwy yma, wedi ei docio
ar frig y ddalen. Mae'n bosibl fod dau englyn arall yma hefyd yn wreiddiol.



Peryf didrist Grist groes dioddef—mygr,
Ni magwyd trafn mal Ef,
Pur, Mur, Amherodr tangnef,
Poen ffyrfgrair ffęr pęr
Nęr nef.


Dug Duw Tad ddelw fad fydr gywair—i Gaer,
Egoriad gwyrth y'i
gwnair;
Dygaf, dogn beraf burair,
Dwygerdd groyw i'm digardd grair.


Gwnaeth hon i'r deillon, heb dwyllair,—ni drem
Fal y dremwalch mudair;
Arwydd na bydd, ffydd Ffyrfbair,
Arab heb nerth Mawrfab Mair.


A bod, gwawl nawsglod, gwael annisglair—grupl,
Grapach feirw, Dwy
eilgair,
Ar osteg, wiwdeg wawdair,
Ar restr yn ffyrf beddestr ffair.


O'i gwyrth prudd a'i budd y byddair—a glyw
Yn gleuwymp ddilestair;
A byw yn llwyrgryf a bair
O beth marw, obaith mawrair.


Gorhoff grair purair Peryf,—aglaerddelw
Eglurddoeth ei gwyrth
cryf,
Gwyr pob gradd, mad nadd neddyf,
Gorau taith er Gwr a'u tyf


Gofwy aur []fawl
deisyf—y grog
O groywGaer galchliw nyf,
Gwedy maddeuaint, braint bryf,
Gwawdaml seilm gwiwdeml Selyf.


Molaf, addolaf ar ddeulin,—[
]atwyf
dafodflin,
Myrdd a fawl, gwehynfawl gwin,
Mawrddelw o fygrdrefn Myrddin.


Egoraf, dodaf, dadl ddeulin,—'y mryd
Ym mrodiau gwyrthefin,
I garu delw ryelw rin,
[
]in


[
]drefn
myrr a gwin,
Cyflawn ddawn ddysg [] rin,
Coeth corf eurddoeth Caer Fyrddin.


[
]—i Gaer,
Ac arwydd Iesu yw,
Croyw gerdd ferwloyw [
]cydfalch grair
balch byw.


[
] —
[ ]edyriaith,
Awduriaid cerdd a'i clyw,
Wawr eurglawr byd a erglyw
Weddawl fawl i'r wiwddelw fyw.


Mynog ball eurog a bell oryw—Deifr

[
]llyw
Lëygrwybr gaer ddilwygryw,
Loegrig foes, i'r loywgrog fyw.


[ ]
ddileddf ddeddf a ddoddyw—i Gaer,
Pibl eirglaer, pybl
erglyw,
O farw, firain Arglwyddlyw,
Eurog ball, a orug byw.


[
eur]ddelw wrddiaith—a gyrchodd
Ag erchyll hydr heb
graith,
Corf
balch[
]eddylfaith,
Caer Fyrddin daer, fawrddawn daith.


[]wrddiaith
—i fawrgaer,
Nid ofergerdd gwawdiaith;
Dyddwyn[
]
Diddig detholedig daith.


[]aith
—ugeinmil
A genmyl eu dawn maith;
Mynnaf na wydiaf wawdiaith,
Mawl hawl hylwydd rheg deg daith.


[]
wyniaith—Usalem
A seilwyd yn Benrhaith,
Cylchwy bedd Crist ddi[
]sg
magwyr fraisg fraith.

2 Englynion yr Anima Christi


Anima Christi, sanctifica me


Enwog trugarog, rhan wyd Tri—ac Un
O annog proffwydi,
Enaid teg, croesteg Cristi,
Fal glain o fewn glanha fi.


Corpus Christi, salva me


Corff Crist, rhydrist gwrhydri—camau,
Cnawd cymin o'i erchi,

Iechyd, pur ysbryd, peri,
Iachâ, Lyw, cadw yn fyw fi.


Sanguis Christi, inebria me


Gwaed Crist rhag yn drist dros deithi—a wna'
Fy neol a'm colli,
Cydfod goleuglod Geli,
Cadw rhag pechod feddwdod fi.


Aqua lateris Christi, lava me


Dwfr o ystlys dilwfr dolur weli —Crist,
Croes newydd cynheilri,

Dwyfawl gyllawl heb golli,
Diwyd gylch fywyd, golch fi.


Passio Christi, conforta me


Dioddef Crist o nef, Naf proffwydi—byd,
Bu ddygn dy bum weli,

Cadarn iawn wiwddawn weddi,
Cadarnha, fawr Wrda, fi.


O bone Iesu, exaudi me


Gwâr Iesu trugar, treigl, dydi,—ataf,
Ateb y goleuni,
Gwawr pob allawr fawr foli,
Gwrando heb feio fyfi


Et ne permittas me separari a te


A gosod, fau fod, fyfi,—Gun urdda',
Gar dy law, Leo mundi,
(Megis perth, wiwnerth weini,
Mawl heb dawl, y molaf di)


Ut cum angelis tuis laudem te


Cyda'th nifer, Nęr, nerth ir—angylion,
Yng ngolau ni chollir;
Yn y ne' y cyweddir,
Nesed bid gwared, boed gwir.


Amen


Poed gwir, neu'n dygir i deg frenhiniaeth—nef
Yn ufudd wrogaeth,
Gwlad uchel, wlad feithrad faeth,
Gwledd ddiwagedd dduwogaeth.

3 Y Drindod


Da fu'r Drindod heb dlodi
A wnaeth nef a byd i ni.
Da fu'r Tad yn anad neb
Roi Anna ddiwair wyneb.
Da fu Anna dwf uniawn
Ddwyn Mair Forwyn ddinam iawn.
Da fu Fair ddiwair eiriawl
Ddwyn Duw i ddiwyno diawl.
Da fu Dduw Iôr, ddioer oroen,
â'i Groes ddwyn pumoes o'u poen.
Da y gwnęl Mab Mair, air addef,
Ein dwyn oll bob dyn i nef.

4 Lluniau Crist a'r Apostolion


Da y lluniwyd, dull iawnwedd,
Dwyfron Mab Duw fry a'n medd.
Rhoed yn lew mewn tabl newydd
Eilun Wawr ar loywon wydd,
Er dangos i'w eurglos Ef
Y deuddeg oll a'r dioddef,
Grasus yw, ar groes y sydd,
Y dioddefai Duw Ddofydd,
A'r Drindod, cymhendod cu,
A'i ras yn un â'r Iesu.


Da y lluniwyd Iesu lwyd Iôn,
O ddysg abl, a'i ddisgyblion,
Tyfiad agwrdd, twf digabl,
Tri ar ddeg, pand teg y tabl?
Duw ei Hun sy'n y canawl,
Delw fwyn, da y dyly fawl,
A'r deuddeg, lawendeg lu,
A iasiwyd ynghylch Iesu.
Chwech o ran ar bob hanner,
Deuan' oll ynghylch Duw Nęr.


Ar yr hanner, muner mwyn,
Deau iddo, Duw addwyn,
Y mae Pedr, da y gwyr edrych,
A Ieuan wiw awen wych;
A Phylib oreuwib ras,
Gwyndroed yw, a gwiw Andras;
Iago hael, wiwgu, hylwydd,
A Sain Simon, rhoddion rhwydd.
Lliw aur, ar y llaw arall
I'r Arglwydd cyfarwydd call
Y mae Pawl weddawl wiwddoeth,
A Thomas gyweithas goeth;
Martho—, ni wnaeth ymwrthod,
—Lamëus, glaer weddus glod;
Mwythus liw, Mathëus lân,
A Iago, rhai diogan;
Sain Sud o fewn sens hoywdeg,
Llyna 'ntwy, llinynnaid teg.
Llawn o rad ynt, bellynt bwyll,
Lle y doded mewn lliw didwyll.


Ystyr doeth ystoria deg
Dydd a gafas y deuddeg
Cerdded y byd gyd ag Ef,
Cain dyddyn, cyn dioddef.
Gwedy'r loes ar groes y grog
A gafas Crist, a'i gyfog,
A'i farw, ni bu oferedd,
Hefyd, ac o'r byd i'r bedd,
Pan gyfodes Duw Iesu,
Ein iawn gâr, o'r ddaear ddu,
Dug yn ei blaid, nid rhaid rhus,
Y deuddeg anrhydeddus,
Gwir Fab Mair, gair o gariad,
I oresgyn tyddyn y Tad.

5 Moliant Llywelyn ap Gwilym


Llyfr dwned Dyfed, dyfyn—ar windai
I randir Llywelyn;
Llannerch, aed annerch pob dyn,
Lle twymlys llu, at Emlyn.


Llyn i barc Emlyn, camlas—hyd Deifi,
A'r tefyrn ymhob plas,
Lluddied gardd, lladded ei gas,
Lle bo'r orddod, llwybr urddas.


Llwybr urddas, bar bras yn bwrw bryn,—eglur
Oglais Lloegr a Phrydyn,
Lle dęl yr holl fyd a dynn,
Llaw hael, ac enw Llywelyn.


Llywelyn a'u myn ym ynni—a grym,
Llawenfab Gwilym, erddrym wrddri,
Llai ymadrawdd cawdd i'n coddi—no chaeth,
Llywodraeth a wnaeth a maeth i mi.
Llafuriawdd, berthawdd i borthi—digeirdd,
Llys ym mryn y beirdd, lle heirdd yw hi,
Lle gnawd cael gwasgawd a gwisgi—ddillad,
Llety anghaead, wastad westi.
Lle cynefin gwin a gweini—heilgyrn,
Lle chwyrn, llwybr tefyrn, lle beirw Teifi.

Lle dichwerw, aserw, o erysi—bryd,
Lle chwery esbyd byd heb oedi.
Lle maith yn llawnwaith llenwi—buelin,
Lle mae ufuddwin llym i feddwi.
Lle o'th nerth, Dduw ferth, ydd af fi—drachefn,
Lle anarlloestrefn, llanw aur llestri.
Llys eurwr, a'i gwnaeth llu seiri—yn falch,
Lliwgaer yn lasgalch, llugyrn losgi.
Llawnaf, dianaf, daioni—mynud,
Lluniaeth ffraeth, ffrwythdud, glud glodfori.
Llwybreiddwlad, gariad Gwri—Wallt Euryn,
Llywelyn drawstyn a â drosti.
Llywiawdr, ymerawdr meiri—Edelffled,
Llyw yw ar Ddyfed, llawer ddofi.
Llorf llwyth, ei dylwyth hyd Wyli—y traidd,
Llariaidd, brawdwriaidd, ail Bryderi.
Llathrlaw ysb euraw, ysberi—gwëyll,
Llid Pyll, arf dridryll, arfod Rodri.
Llinongadr, baladr Beli—yng nghyngaws,
Llwyrnaws, Llyr hoywdraws, llew wrhydri.
Llawen grair, a'n pair yn peri—llwyddfoes,
Llawenydd a roes am oes i mi.
Llywelyn derwyn i dorri—aergad,
Llawfad aur-rhuddiad a wyr rhoddi.
Llwydda, na threia, Un a Thri—rhag llaw,
Llwyddaw dawn iddaw, Duw i'w noddi.

6 Marwnad Llywelyn ap Gwilym


Dyfed a siomed, symud—ei mawrair,
Am eryr bro yr hud;
Doe wiwdymp yn dywedud,
Hyddawn fur, a heddiw´n fud.


Cyn hyn, Lywelyn, olud—tiriogaeth,
Ty rhagof nis caeud;

Agwrdd udd y gerdd oeddud,
Agor i mi, y gwr mud.


Pryd glwys, prudd dadwys prif dud,—praff awdur
Proffwydair, balchsyth,
drud,
Prif dda wawd, prawf ddywedud,
Prydydd, ieithydd, na fydd fud.


Fy ngheinllyw difyw, Deifr helgud,—baham,
Bwhwman deigr neud glud,

Fy nghanllaw y'm gadawud,
Fy nghâr am aur, fy ngharw mud?


Gwawr gwir nef a llawr, llef alltud—oedd hon,
Hyn oedd ddygn nas clywud;

Gwae fi, Geli pob golud,
Gwyl fy nghyflwr am wr mud.


Pendefig, gwledig gwlad hud—is dwfn,
Ys difai y'm dysgud.
Pob meistrolrwydd a wyddud,
Poened fi er pan wyd fud.


Neud dwfn dy alar, neud difud—fy llef
Am fy llyw cadarnddrud,
Nid diboen na'm atebud,
Nid hawdd ymadrawdd â mud.


Gwae fi fod, elw clod, ail Clud—nyw ballodd,
Heb allel dywedud,
Gwn ofal tost gan ofud,
Gawr eiriau mawr am wr mud.


Gwae fi, Grist Celi, caled—o'm rhyfig
A rhyfedd y'm cosbed,
Gwymp oeddem oll cyn colled,
Gwympo crair holl gampau Cred.


Gwae fi, Grist Celi, calon doll—yw´r fau,
Wyf fyfyr am ddygngoll,

Campus eirf, cwmpas arfoll,
Cwympo udd y campau oll.


Gwae fyfi fy Rhi, rhoi i'th ddarpar—Duw,
Dwyn cadarnwalch
cerddgar,
Nid rhodd gwyl, neud rhudd galar,
Nad rhydd ymgerydd am gâr.


Gwae fi ddwyn, ail brwyn, breiniawl gyhoedd—llu,
Llywodraeth y bobloedd;
Lleas taerfalch, lles torfoedd,
Llawen, gwawr awen gwyr oedd.


Gwae fi weled, trwydded drwg,
Neuaddau milwr, twr teg,
Annawn oes, un yn ysig,
A'r llall, do gwall, yn dy gwag.


Gwae'r nai a oerai, a ery—gweled,
Gwaelawd cof a'm deffry,
Y llys fraith yn llaesu fry,
A'r Llystyn yn arlloesty.


Llys gwin ac emys, ddigamoedd—gyllid,
Och golli a'i gwnaddoedd,
Llys naf aur, lles niferoedd,
Llyw lles, pei byw llys pawb oedd.


Os marw fy ewythr, ys mawr—o ryfedd,
Aur Afia Cymru i lawr,
Nad eddwyf, nai a'i diddawr,
Nad af yngwyllt, Duw fy ngwawr!


Gwr oedd Lywelyn, gwir ganu—prudd,
Cyn rhoi pridd i'w ddeutu,
Pwynt rhyfel heb ymgelu,
Penrhaith ar Ddyfed faith fu.


Gwr, nid gwas, a las o loes archoll—dur,
A diriaid fu'r dygngoll,
Gwrawl hawl mewn helm drwydoll,
Gair oer am y gorau oll.


Pwnc truan oerwan am eurwas—yw hyn,
Honni mawr alanas,
Cain arddelw cyfan urddas,
Cyrdd a glyw, cwyn llyw, cyn llas.


Dihareb yw hon, dywirir—ym mro,
A laddo a leddir.
Diben fo, hwn a dybir,
Dibaid gwae, a Duw boed gwir.


Llithr ddagrau bid mau, modd chweg,—och allell
A chyllell faelereg,
Llawer och dost ar osteg,
Llathr erddyrn, lladd tëyrn teg.


Nid diofal, ffyrfdal ffęr,
Y gelyn a wnęl galar;
A laddo dyn â'i loywddur,
I luddias hoedl, a leddir.


Heilbryn flodeuyn diwyd—a dderyw,
Ddeurudd diymoglyd;
Llwyr ydd aeth, gwingaeth gyngyd,
Haearn â chof a barn byd.


A wnęl argae, gwae a gwall—i'r deau,
A gaiff dial cuall;
A wnęl drwg o dreigl anghall
â llaw, arhöed y llall.


Dall fydd byd, dull gwyd gwedy,—ddwyn llygad
Oedd yn Lloegr a Chymru.
Dwg i'th wledd, ni'm gomeddy,
Dôr gwyr, da frëyr, Duw fry.


Cyfiawnder fu ef, cyfundeb—cyrdd aur,
Cerddwriaeth ddoethineb;
Cyweirdant pob cywirdeb,
Corf clod, nid un wybod neb.


Lles bychan buan yw bod—yn rhullfalch,
A'r hollfyd fel ffurf rhod;
Llew syberw lliaws wybod,
Llas ag arf glas gorf y glod.


Llew olwg farchog, Llywelyn,—o'th las
I'th lys deg yn Emlyn,
Llai yw´r dysg, medd llawer dyn,
Llaw i'th ôl llyfr a thelyn.


Och ddwyn Llywelyn, och ddoeth,—a ddodaf,
Och a ddyd ei gyfoeth,
Och rydd a roddaf drannoeth,
Och beunydd, ei ddydd a ddoeth.


Och, och, y Ddôl Goch, ddaly gwyl—barchus
Am dy berchen annwyl;
Och wedy'r ddwyoch ddiwyl,
Och, panad och? Pwy nid wyl?


Wylais lle gwelais lle gwely—f'arglwydd,
Band oedd fawrglod hynny?
Gair ateb, wyf gâr yty,
Gwr da doeth, agor dy dy.


Gwaelfyrn gwawl tefyrn, gweli tafawd,—gwaith
Gwaeth bellach myfyrdawd;
Gwaeg cedyrn, gwag yw ceudawd,
Gwecry gwyr gwedy gwawr gwawd.


Salw a thost am iôr costrith,
Selerwin fyrdd-drin feirdd-dreth,
Campus reddf cwmpas roddfath,
Cwympo i gyd campau byd byth.


Coeth edling, fflowr dling dy lis—oreuraid,
Wared clochdy Paris;
Cymro glew a'n gadewis,
Cymryd un, Cymry neud is.


Truan ac eirian, pawb a garo—dadl,
Aed Landudoch heno;
Doethineb neud aeth yno,
Diwyd grair dan dywod gro.

7 Moliant Ieuan Llwyd ab Ieuan Fwyaf


Neud Mai, neud erfai adarfeirdd traeth,
Neud manwyrdd coedydd, wydd weyddiaeth,
Neud meinwedn gan edn ganiadaeth—anawdd,
Neud mi a'i heurawdd, neud mau hiraeth.


Nid er na chaffwyf, loywnwyf luniaeth,
Newyddion roddion ym Môn a maeth,
Nid eisiau heiliau, hael wasanaeth—byd,
Neud heb anwylyd, tybion alaeth.


Neud temlau, byrddau, beirdd ysgafaeth,
Neud teulu eirian teuluwriaeth,
Na'm bu hyn, Duw gwyn, gweinidogaeth—serch,
Nad am annerch merch, mawrchwant neud gwaeth:


Na welaf Ieuan, ddifan ddofaeth,
Na wyl yntau fi, rhi rhywiogaeth.
Neud af, anwylaf unoliaeth,—ataw,
Nid wyf hy hebddaw, ddifraw ddofraeth.


Gwyllt wyf tra gwelwyf gwaly mabolaeth,
Gwenwynwys ynof gwin wasanaeth,
Gwedy, gwydn y'm try, treftadogaeth—braw,
O gyhoedd wylaw, gywyddoliaeth.


Gwyrddgae yw´r lle mae, mi a'i rhydraeth,
Gwarae o feddiant, gwir ofyddiaeth,
Gwyndir cryf lle tyf tafarnwriaeth—hoed
A gwydr egin coed, gwiw diriogaeth.


Gwelaf yn bennaf ei unbennaeth,
Gwalch o hil Lawdden, gweilch helyddiaeth,
Gwaredfeirdd ydiw, gwirodfaeth—cerddawr,
Gwawr a garodd awr y gerddwriaeth.


Gwas diog fyddaf i'm gwesteiaeth,
Gwastad erbyniad yw´r aur bennaeth;
Gwaenwyn, gwiw ancwyn, ei uncaeth—fyddaf,
Gaeaf, cynhaeaf a haf hyfaeth.


Da cadwai awdur, deg geidwadaeth,
Da a fyn ym gnawd, diofn y'm gwnaeth.
Durgrwydr yw dôr brwydr ar dir breudraeth—môr,
Dôr difraw ragor, Deifr wrogaeth.


Difanol eiriol arial pennaeth,
Difai, medd pob rhai, y rhydd luniaeth.
Dyfodiad, trwsiad, treisiaeth—a gynnail,
Defodau Huail, hail ehelaeth.


Dibwl, difygwl bendefigaeth,
Diball, dyn arall nid un wriaeth,
Difai, dôr erfai, dewr arfaeth—drudchwyrn,
Difan aur dëyrn dwfn wrdaaeth.


Da fygylarf gwyr, Lyr filwriaeth,
Difygylodd fi, da fugeiliaeth.
Dwbled ym, rym rwymedigaeth—llurig
Dyblig, mad edmig, yw´r mau dadmaeth.

8 Moliant Hywel, Deon Bangor


Arglwydd canonswydd, unsud—Mordëyrn
A Dewi yng ngwlad yr hud,
Cybi nefol ei olud,
Cydymddeithion Simon, Sud.


Sain Sud un ffunud ffyniwyd,—o genedl
Y Gwinau Dau Freuddwyd,
Sain Silin, ffrangsens aelwyd,
Salm Saint Elien, gwr llęn llwyd.


Tëyrn, llwyd broffwyd, hil Brân,—mae ungwr
Ym Mangor mewn gown pân,
Ty geirwgalch teg ei organ,
Tant côr heb atynt a'i cân.


Ni chân fy nhafawd wawd wenithaidd,
Ni chair lliniodr wyr yn ochr lluniaidd,
Ni chęl i Hywel hoyw garuaidd—lwybr
O burddawn ewybr barddonďaidd.


Neirthiad a gefais, didrais dwydraidd,
Ni'm gad gamruad, ged Gymroaidd,
Nis erfyn o brudd ac nis arfaidd—draw
Naw, o'r praw lidiaw, iôr preladiaidd.


Neur gaiff yng Ngwynedd hoywfedd hyfaidd,
Neur gâr a'i dyeingl, nęr gwrdaaidd,
Nid byr fawl gwrawl a gyrraidd—ym Môn
Y beirdd, 'y Neon barddonďaidd.


Nid bas cyweithas, wr urddasaidd,
Neud bardd 'y neddair, ffyrfair, ffurfaidd,
Nid barn don yw hon, henw´raidd—ym mryd,
Nid byd heb Wyndyd pryd prydyddaidd.


Nid byw fal fy llyw gloywryw, glewraidd
Nen dan y seren, dawn oes w´raidd,
Nid un gwalch hoywfalch, hyfaidd,—llygeidfyw
Ag yw cyw y dryw, caeau a draidd.


Nid un claer araith dyn clerw´raidd
â llwybr gwr ewybr yn garuaidd,
Nid un bryn mebyn mabaidd—â hynaif,
Nid un gwenithgnaif â hyddaif haidd.


Nid un gwin naddfin â mynyddfaidd,
Nid un y paun, gnu o blu, â blaidd,
Nid fal Bleddyn, dyn diburoraidd—ras,
Y cân eddylwas ferw Cynddelwaidd.


Ni wyr, cymraw llwyr, Cymro llariaidd,
Roddi i eirchiaid yn Rhydderchaidd,
Nwysgel, eithr Hywel, athrawaidd—ganon,
Naf Môn, gloyw Ddeon arglwyddďaidd.

9 Marwnad Angharad



Didyr deigr, difyr adafael, – o'm drem
Am drymed i'm cof gwael
Dodiad hoyw Angharad hael
Dan ddaear, duon ddwyael.


Aele yw nad byw buail – win aeddfed,
Awenyddfardd adfail;

Alaf ar waesaf wiwsail,
Aelaw fu o'i hoywlaw hail.


Heilwin fu, medd llu, lleufer – cain Indeg,
Cyn undydd breuolder;
Hoedl dangnef neb ond nef Nęr,
Hudol yw hoedl i lawer.


Llawer bron am hon ym Mhennardd – a hyllt,
Ail Esyllt wyl lwysardd;

Llawer cyfarf galarfardd,
Llwyr wae, ni chwarae, ni chwardd.


Ni chwardd cywirfardd cyweirfad, – cwyn uthr,
Can eithyw Angharad,

Ni dau o'm bron, neud ym brad,
Ne llif geirw, naw llef girad.


Rhy irad, ddygiad ddigudd, – fu orfod,
Ddrem fwyarfalch wrmrudd,
Rhieinaidd ferch, rhannodd fudd,
Rhwymo derw rhôm a'i deurudd.


Deuruddlas fain was wyf yn wael – can gwyn
Cain gannwyll yn urael,

Darfod dyfod, dwfn ddeigrgael,
Derfyn hir diweirfun hael.


Haelaf, digrifaf goreufun – yng Nghaer
Oedd Angharad wanllun,
Hoen ffysg, da ddysg, nid oedd un,
Huan wybr, â hi nebun.


Pa un â'm aur fun mor fyr – o'i hoedlddydd?
Aml hidlddeigr a'm tragyr.
Pwyll rhadfaith, pall iradfyr,
Pefr nith haul, py fron ni thyr?


Gorhoffter eurner, arnad – Dduw Dofydd
Y mae fy ngherydd am Angharad,
Gyflawned y rhoist gyfluniad – diwael
O ddawn, gyfiawn gael, wr hael, a rhad,
Gan yt fynnu, bu bwyllwastad, – ei dwyn
Yn rhwyf ebrwydd frwyn yn rhefbridd frad.
Gorugost rydost rediad – ei hoedlddydd,
Gwyr ei charennydd â Dofydd Dad.
Gwasg chwyrn ar f'esgyrn, eirfysgiad – bu ddig,
Gorwyr i Gynwrig, gorf brig bragad.
Goroen cywiwgroen Eigr, un gariad – Uthr,
Goruthr yn un rhuthr fu'n anrheithiad.
Gorne bron hoywdon ehediad – gwyndraeth,
Gwyr ei brodyr maeth alaeth eiliad,
Gwrm ael yn urael, un irad – nad byw,
Gwae ryw Eigr unllyw o'r gaer winllad.
Gofalus fronllech, gafaeliad – oer gawdd,
Ymy a neidiawdd o'i mynediad.
Gwrygiant ardduniant eurddoniad – facwy,
Gwreigaidd olywy, gwragedd leuad,
Gweddeiddwar gymar geimiad – yng ngarthan,
Gwayw awchdan Ieuan, cyflafan cad,
Gwaedgoel saffwy rhwy, rhwym gwlad – a'i gafael,
Gwawdgael, llwydgun hael, llydw gynheiliad,
Gwrthwyneb galon, gartheiniad – gytbar,
Gwrddfar, gwingar ddâr, gwengerdd uriad.
Gwaisg y'm clwyfawdd cawdd, coddiad – y'i galwer,
Gweler ar lawer galar liwiad.
Gwenynen addien a wyddiad – ei dawn,
Gwawn Geredigiawn, garw ei dygiad,
Goleuddyn â'i hyn o had – bonheddfaith,
Goluddiai wagiaith, gwyl ddiwygiad.
Gwedy hoedlddwyn gwyn wyf geiniad – bronddellt,
Gwedd eiry blisg gwisgwellt, gwawr Fuellt fad,
Gwenfun ddiwael, hael heiliad – yng nghyfedd,
Gwinfwrdd a berthedd, gwynfeirdd borthiad.
Gwayw o'i chof drwof drawad – a'm gwarchae,
Gwae, em oleugae, y mau lygad!
Gwedd, dig argywedd, deigr gawad – a'i gwlych,
Gwyrdd fy ngrudd a chrych, fawrnych farwnad.
Gwenwyn ym ei chwyn, ni chad – o'm ystlys,
Gwanas gywirlys, gwn ysgarlad.
Gwaith drwg i olwg fyddai wyliad – caeth,
Gwaeth, cyfyng hiraeth, cof Angharad.

10 Marwnad Rhydderch ab Ieuan Llwyd


Doe clywais, neur geisiais gęl,
Dair och ar lethrdir uchel.
Ni meddyliwn, gwn gannoch,
Y rhôi wr fyth y rhyw och.
Ni bu i'm gwlad, rhoddiad rhydd,
Na llif cwyn, na llef cynydd,
Na meingorn ar lethr mangoed,
Na chloch uwch no'r och a roed.


Pa dwrw yw hwn, pedeiroch?
Pefr loes, pwy a roes yr och?
Llywelyn, o'r syddyn serch,
A roddes hon am Rydderch,
Fychan, garllaw ei lân lys,
Ffyddfrawd Rhydderch ddiffoddfrys.
Och Amlyn o'i dyddyn dig,
Alaeth mamaeth, am Emig;
Och gwr a fai'n awch garu
Ei gâr, o fawr alar fu;
A'r drydedd och, gloch y Glyn,
Llef ail, a roes Llywelyn.


Pan gaewyd, saith guddiwyd serch,
Gwin rhoddiad, genau Rhydderch,
Darfu, gwn y'm dierfir,
Ben Deheubarth wen yn wir.
Darfu'r foes dirfawr o fedd,
Darfu daearu dewredd.
Gorwyn alarch yng ngwarchae,
Gorwedd mewn maenfedd y mae.
Natur boen, nid hwy yw´r bedd,
Syth drudfalch, no saith droedfedd.


Pregeth ryfedd oedd weddu
Dan hyn o dywerchyn du,
Gwybodau, synhwyrau serch,
Gwmpas rodd gampus Rydderch,
A'i wiwdawd digollwawd gall,
A'i gryfgorff gwyn digrifgall,
A'i gampau, chwedl doniau dawn,
A'i lwyddiant a'i oleuddawn,
A'i ras, gyweithas ieithydd,
A'i glod, och ddyfod ei ddydd!


Trwst oedd oer trist ddaearu,
Trugarog o farchog fu.
Trugaredd, ddisymlwedd serch,
A roddo Duw i Rydderch.

11 Awdl i Ifor Hael


Da y rhed ar waered arw oror—olwyn
Neu wylan ar rydfor;
Deuwell y rhed, buddged bôr,
Diwyd wyf, dy wawd, Ifor.


Os da plethiad mad y môr—a'i hirwlych
Wrth herwlong raff angor;
Gwell y plethaf, ddewraf ddôr,
Gwawd y tafawd yt, Ifor.


Ni thyf caen, llen maen, llanw môr—rhyferthwy,
Rhwyf Arthur neu Echdor,
Mygr ateb, ddiaereb ddôr,
Mal y tyf mawl yt, Ifor.


Cyfyd yt hawdd fyd, fadiain bôr,—gennyf,
Ac annwyl hawddamor;
Cad drachyfarf, ddurarf ddôr,
Cedyrn ofn, cadarn Ifor.


Nęr y byd wryd, bedeiror—giwdawd,
A Naf o logawd nef oleugor,
Neirthiad fo Efô ar fôr—daearlen,
Nen y ffurfafen, i ffyrf Ifor.
Newidiwr, trwsiwr trysor—moliant,
Normant glud goddiant, glod egwyddor;
Naddiad arf aergad, eirf argor—Einglgawdd,
Nawdd, myr a rwyfawdd, Mair ar Ifor.
Nawd braisg Ercwlff waisg, wisg borffor—lathrsiamp,
A Nudd oreugamp neddair agor;
Neud berth a chyngerth uwch angor—deifrblas,
Nid bas rhygafas rhywiog Ifor.
Ni byddai, lle bai ball, hepgor—arnaw,
Ni bwyf fi hebddaw, barawdlaw bôr.
Ni bydd anrhegydd un rhagor—nac uwch,
Ni bu ogyfuwch neb ag Ifor,


Hardd eisyllydd rhydd, rhodd ddidor—meddlyn,
Helmwyn Lywelyn, wawl gychwior.
Heddiw nid ydiw didwyll iôr—gwyndal
Hafal, hael ddyfal, hylwydd Ifor.
Hawdd ddydd ym y rhydd, rhwydd gyngor—ddangos,
Hawdd nos hedd agos hoyw eiddigor.
Hawdd ym mwrdd ymwrdd, hawddamor—beunydd,
Hawdd fyd bryd brawdffydd ufydd Ifor.
Hawdd mawl mal ychdawl Echdor—yn nherfysg,
Hardd ffysg Deifr unddysg, â'r dew fronddor.
Hwyliais a chefais â chyfor—durfyng
Hail diogyfyng haeldeg Ifor.
Heirdd ddigeirdd, i feirdd fawrddor—dariangrwydr,
Hoyw frynarwr brwydr Hafren oror.
Hir oesog fu Noe, haer aesor—facwy,
Hwy, huawdl ofwy, fo hoedl Ifor.

12 Englynion i Ifor Hael



O haelder, fy nęr, fy Nudd—a'm aergaer
A'm eurgarw hael am fudd,
Afarwy, gaethrwy gythrudd,
Ofer un wrth Ifor udd.


O ddewredd hoywgledd, hyglaer—ymadrodd,
A medru treio aer,

O fawrgyrch hylithr, f'eurgaer,
Ofer dau wrth Ifor daer.


O ddoethineb, neb nid nes ataw—Ffranc
Nog o Ffrainc i Fanaw,
I fwrw dadl swrth oddi wrthaw,
Ofer dri wrth Ifor draw.


O ufudd-dawd, ffawd a ffydd—a chiried,
A charu ei brydydd,

Ofer bedwar, hawddgar hydd,
Wrth Ifor, euriaith Ofydd.


O fonedd, trasedd, wr trasyth—a ffin,
A ffyniant aml dilyth,

O weilch, uchel wehelyth,
Ofer bump wrth Ifor byth.


O gryfder, fy ffęr, ffyrf dëyrn—eurdeg
Yn dwyn eurdo hëyrn,
Faedd cad i faeddu cedyrn,
Ofer chwech wrth Ifor chwyrn.


O degwch, brifflwch brafflyw—urddedig,
Pendefig rhyfig rhyw,

Ei fardd wyf, o ddwfn ystryw,
Ofer saith wrth Ifor syw.


O ddisymlrwydd swydd, gyfansoddwr—bardd,
Enaid beirdd a'u clydwr,
Afar brwydr i fwrw bradwr,
Ofer wyth wrth Ifor wr.


O gampau gorau a garaf—ar wr,
Eryraidd y'i barnaf,
O roddion aml a rhwyddaf,
Ofer naw wrth Ifor naf.


O wychder, fy nęr un arial—â Ffwg,
Morgannwg mawr gynnal,
Ofer dyn, fwriad anial,
Ofer deg wrth Ifor dal.

13 Cywydd Mawl i Ifor Hael


Ifor, aur o faerwriaeth
Deg yw´r fau, diegr o faeth.
Dewraf wyd ac euraf gwr
Dy ddilyn, dieiddilwr:
Myned o'm gwlad, dyfiad iôr,
â'th glod, a dyfod, Ifor.
Myfi yw, ffraethlyw ffrwythlawn,
Maer dy dda, mawr yw dy ddawn.


Ys dewr, ystyriol ydwyd,
Ystôr ym, ys da wr wyd.
Telais yt wawd tafawd hoyw,
Telaist ym fragod duloyw.
Rhoist ym swllt, rhyw ystum serch,
Rhoddaf yt brifenw Rhydderch.
Cyfarf arf, eirf ni'th weheirdd,
Cyfaillt a mab aillt y beirdd,
Cadarn wawr, cedyrn wiwryw,
Caeth y glęr, cywaethog lyw.
Da wyd a syberw dy ach,
Duw a fedd, dau ufuddach
Wyd i'th fardd, pellgardd pwyllgall,
Llywiwr llu, no'r llaw i'r llall.


O'm iaith y rhylunieithir,
Air nid gwael, arnad y gwir.
O'm pen fy hun, pen cun cyrdd,
Y'th genmyl wyth ugeinmyrdd.
Hyd yr ymddaith dyn eithaf,
Hyd y try, hwyl hy, haul haf,
Hyd yr hëir y gwenith,
A hyd y gwlych hoywdo gwlith,
Hyd y sych gwynt, hynt hyntiaw,
A hyd y gwlych hoywdeg law,
Hyd y gwyl golwg digust,
Hydr yw, a hyd y clyw clust,
Hyd y mae iaith Gymräeg,
A hyd y tyf hadau teg,
Hardd Ifor, hoywryw ddefod,
Hir dy gledd, hëir dy glod.

14 Basaleg


Cerdda was, câr ddewiswyrdd,
Ceinfyd gwymp, is caenfedw gwyrdd;
O Forgannwg dwg ddydd da
I Wynedd, heilfedd hwylfa,
Ac annwyl wyf, befrnwyf byd,
Ac annerch wlad Fôn gennyd.
Dywaid, i'm gwlad ni'm gadwyd,
Duw a'i gwyr, dieuog wyd,
Fy mod es talm, salm Selyf,
Yn caru dyn uwch Caerdyf.
Nid salw na cham fy namwain,
Nid serch ar finrhasglferch fain,
Mawrserch Ifor a'm goryw,
Mwy no serch ar ordderch yw.
Serch Ifor a glodforais,
Nid fal serch anwydful Sais,
Ac nid af, perffeithiaf pôr,
Os eirch ef, o serch Ifor,
Nac undydd i drefydd drwg,
Nac unnos o Forgannwg.
Pand digrif yng ngwydd nifer
Caru, claernod saethu, clęr?


Goludog hebog hybarch,
Gwr ffyrf iawn ei gorff ar farch.
Gwr yw o hil goreuwawr,
Gwiw blaid, helm euraid, hael mawr;
Cwympwr aer cyflymdaer coeth,
Cwmpasddadl walch campusddoeth;
Carw difarw, Deifr ni oddef,
Cywir iawn y câi wyr ef;
Ufudd a da ei ofeg,
Ofer dyn wrth Ifor deg.


Mawr anrhydedd a'm deddyw:
Mi a gaf, o byddaf byw,
Hely â chwn, nid haelach iôr,
Ac yfed gydag Ifor,
A saethu rhygeirw sythynt
A bwrw gweilch i wybr a gwynt,
A cherddau tafodau teg
A solas ym Masaleg;
Gware ffristiawl a thawlbwrdd
Yn un gyflwr â'r gwr gwrdd.


O châi neb, cytundeb coeth,
Rhagor rhag y llall rhygoeth,
Rhugl â cherdd y'i anrhegaf,
Rhagor rhag Ifor a gaf.
Nid hael wrth gael ei gyfryw,
Nid dewr neb; band tëyrn yw?
Nid af o'i lys, diful iôr,
Nid ufudd neb ond Ifor.

15 Diolch am Fenig


Ifor ydoedd afradaur,
O'i lys nid âi bys heb aur.
Doe yr oeddwn ar giniaw
I'w lys yn cael gwin o'i law.
Mi a dyngaf â'm tafawd,
Ffordd y try dydd, gwëydd gwawd:
Gorau gwraig hyd ar Geri
A gorau gwr yw d'wr di.
Tra fu'n trafaelu trwy fodd,
Trwy foliant y trafaelodd.


Y dydd y doethum o'i dai
â'i fenig dwbl o fwnai,
Benthig ei fenig i'w fardd
A roes Ifor resawfardd.
Menig gwynion tewion teg
A mwnai ym mhob maneg:
Aur yn y naill, dyaill dau,
Arwydd oedd, o'r llaw orau,
Ac ariant, moliant milioedd,
O fewn y llall, f'ynnill oedd.
Merched a fydd yn erchi
Benthig fy menig i mi.
Ni roddaf, dygaf yn deg,
Rodd Ifor rwydd ei ofeg.
Ni chaiff merch, er eu herchi,
Mwy no gwr, fy menig i.
Ni wisgaf fenig nigus
O groen mollt i grino 'mys.
Gwisgaf, ni fynnaf ei fâr,
Hyddgen y gwr gwahoddgar,
Menig gwyl am fy nwylaw,
Ni bydd mynych y'u gwlych glaw.


Rhoddaf i hwn, gwn ei ged,
O nawdd rugl neuadd Reged,
Bendith Taliesin wingost
A bery byth heb air bost.
Ar ben y bwrdd erbyn bwyd
Yno'r ęl yn yr aelwyd,
Lle trosaf ran o'm annerch,
Lle dewr mab, lle diwair merch,
Lle trig y bendefigaeth,
Yn wleddau, 'n foethau, yn faeth,
Yn wragedd teg eu hegin,
Yn weilch, yn filgwn, yn win,
Yn ysgarlad, rhad rhydeg,
Yn aur tawdd, yn eiriau teg.
Nid oes bren yn y Wennallt
Na bo'n wyrdd ei ben a'i wallt,
A'i gangau yn ogyngerth
A'i wn a'i bais yn un berth.
Ponid digrif i brifardd
Gweled, hoyw gynired hardd,
Arglwyddďaeth dugiaeth deg
A seiliwyd ym Masaleg?


Menig o'i dref a gefais,
Nid fal menig Seisnig Sais,
Menig, pur galennig, pôr,
Mwyn gyfoeth, menig Ifor.
Fy mendith wedi'i nithiaw
I dai Ifor Hael y daw.

16 Ymadael ag Ifor Hael


Ufudd serchogion ofeg,
Ifor, tëyrneiddior teg,
Myned fal y dymunwyf,
Anodd iawn, Wynedd ydd wyf.
Nid myned, ddwyged ddigel,
O ddyn yr eilwaith a ddęl.
Deufis yn nwylan Dyfi
Ni allwn fod hebod di.
Y galon bedroglgron, bôr,
Ni chyfyd (yn iach, Ifor!)
Na llygad graddlad gruddwlych,
Na llaw na bawd lle ni bych.
Nid difudd rym ym yma,
Nid oedd gall na deall da
I'r neb a garai o'r naw
Diodydd gwin dy adaw.


Fy naf wyd a gwrddaf gwr,
Yn iach, diledach loywdwr.
Rhwyddynt, gyhafal Rhydderch,
Rhagod, synnwyr wybod serch,
Rhyfel llid, rhyw ofal llawn,
A heddwch, Ifor hoywddawn.
Maith y'th ragoriaith gerir,
Mawr iôr teg y môr a'r tir,
Naf coedfedw, nwyfau cydfod
Nef a phresen, cledren clod.


Cawn o ddawn a eiddunwyf,
Cywaethog ac enwog wyf,
O eiriau teg, o ariant,
Ac aur coeth, fal y gwyr cant,
O drwsiad, nid bwriad bai,
Ac arfau Ffrengig erfai,
Ufudd gost, o fedd a gwin,
O dlysau, ail Daliesin.
Tyrnau grym, tëyrn y Gred,
Tydi Ifor, tad yfed,
Enw tefyrn, ynad hoywfoes,
Wyneb y rhwydd-deb a'u rhoes.

17 Marwnad Ifor a Nest


Henaint anghywraint a hiraeth—a phoen
A phenyd fal blaen saeth,
Marw Ifor, nid rhagoriaeth,
A marw Nest, mae Cymru'n waeth.


Mae'n waeth am dadmaeth, mae dôr—rhof ac ef
Yn gyfyng ymlaen côr;

Marw Nest, mae f'arwest yn fôr,
Morwyn nef, marw iawn Ifor.


Gorau gwr oedd Ifor gorff syth,—ein rhi
Yn rhoi Deifr ar esyth,
Ar a fu, gu gwehelyth,
Ar y sydd ac a fydd fyth.


Nid af byth o'm nyth gan wyd—i'i gerddor
A gerddodd cylch y byd;

Ni chân fy neufraich ennyd,
Ni chaf, ni feddaf hawdd fyd.



Hawdd fyd a gyfyd digofaint—calon,
A hiraeth i'r fron hon, a henaint.
Herwydd wylaw glaw, glas ennaint—orchest,
Am Ifor a Nest, mwyfwy yw´r naint.
Hael Ddofydd, tremydd hwyl trymaint—a'm pair,
Gweled Nest ni chair, crair, gair gwyraint.
Mordwy afarwy, neu ofeiriaint—poen,
Ceinlliw haf oroen, caen llifeiriaint,
Wrth weled ciried cariad saint—am fudd
Ac anwylyd, prudd a gynheiliaint,
Nest wengoeth, winddoeth, wynddaint,—ac Ifor,
â mwy no rhagor y'm anrhegaint.
â lluchwin o wydr y'm llochaint—ar hail,
A medd o fuail mwy faddeuaint,
A rhuddaur a main y'm rhoddaint—bob awr,
â hebogau mawr cynhebygaint.
Hir ddoniau i'r ddau, hwyr ydd aint—dan gęl
I gydochel, neu y godechaint.
Ac undyn ydyn' ni'm oedaint—am fudd,
Ac un ddadannudd am fudd fyddaint.
Llyw llygrgaer yn aer, ni wnaint—yn eiddil
Anturiau nawmil mewn twrneimaint.
Llys Fasaleg deg dygaint—hawddamawr,
A gwawr ei heurllawr, lle mawr meddwaint,
Lle bydd lleferydd, llifeiriaint—gwinllestr,
A golau fenestr ac aelfeiniaint.
Llafnfriw, llwrw iawnwiw Llyr ennaint—Einglgrwydr,
A llew ysigfrwydr lluosogfraint,
Llorf llu, lled garu, lledw geraint—ym mro;
Llywio Naf yno nef ei henaint.

18 Niwbwrch


Hawddamawr, mireinwawr, maith,
Dref Niwbwrch, drefn iawn obaith,
A'i glwysteg deml a'i glastyr,
A'i gwin a'i gwerin a'i gwyr,
A'i chwrf a'i medd a'i chariad,
A'i dynion rhwydd a'u da'n rhad.


Cornel ddiddos yw Rhosyr:
Coetgae i warae i wyr,
Llwybrau henw lle brenhinawl,
Llu mawr o bob lle a'i mawl.
Lle diofer i glera,
Lle cywir dyn, lle ceir da;
Lle rhwydd beirdd, lle rhydd byrddau,
Lle ym yw ar y llw mau;
Pentwr y glod, rhod rhydfyw,
Pentref dan y nef dawn yw;
Pantri difydig digeirdd,
Pentan, buarth baban beirdd;
Paement i borthi pumoes,
Pell yw ym eu pwyll a'u moes;
Coety'r wlad rhag ymadaw,
Cyfnither nef yw´r dref draw;
Côr hylwydd cywir haelion,
Cyfannedd, mynwent medd Môn;
Cystedlydd nef o'r trefi,
Castell a meddgell i mi;
Perllan clod y gwirodydd,
Pair dadeni pob rhi rhydd;
Parch pob cyffredin dinas,
Penrhyn gloyw feddyglyn glas.

19 Anrhegion Dafydd, Madog ac Iorwerth


Anfon a wnaeth rhieinferch
I Fadog, orseddog serch,
Dodrefn cariad hyd adref,
Do dail ir, da dyly ef.
I Dduw Madog a ddiylch
Gan ei chwaer hael cael y cylch.
Aml y gwisg ymylau gwydd,
Am ei ben y mae beunydd.


Cae o'r unwedd, cywreinwaith,
Ydiw´r mau, nid o aur maith.
Bagadfedw, bu egwydfodd,
A bun a'i rhoes heb enw rhodd.
Blaenion cainc, blinyn a'u câr,
Blethedig o blith adar.
Bawd a'i lluniodd, bedw llannerch,
Bagluryn a symlyn serch.


Gwell gan Ierwerth gywerthydd
Ei wawd nog anrheg o wydd.
Rhyw dudded bys, rhoed iddaw
Rhod lân rhag rhydu ei law.
Rhy wnaeth rhiain fain fynwaur,
Rhwydd yw hi, rhoddi ei haur.
Rhaid bychan oedd gan y gwr,
Rhwymo bys cyfan rhimwr.


Deudroedfedd, fab da drudfaith,
O dir iach, da ydiw´r iaith,
O'r unlle, cariadwe cur,
A edy Madog awdur
Ar Ierwerth gerddgerth gyrddgun,
Ac ar bawb o garu bun.
Ni myn Madog, mydr ddoethlef,
Obr am wawd ei dafawd ef,
Hael oedd, ac ni hawl iddi
Na'i main na'i haur, namyn hi.
A Mab y Cyriog ym Môn
A'i cais er cywydd cyson.
Rhagor mawr, gerddawr gordderch,
Y sydd rhwng golud a serch.
Cae gwial, er na thalo
O dda ei faich iddo fo,
Teilwng seren bedwenni,
Talm mawr, ef a'i tâl i mi.
Cusan morwyn ddianael,
Duw a'i gwyr, da yw ei gael;
Ni chaid ar ei wystleidaeth
Na medd na gwin; min a'i maeth.
Nid oedd nes i hwcstres hen
Ei brynu ef no brwynen.
Unrhyw yw hyn o anrheg,
O fedw glas teuluwas teg.
Aur gan unben a chwennych,
Irfedw glas a gâr gwas gwych.


Yn dwyn nwyf, nid un ofeg
Fy mrodyr, teuluwyr teg.
Maelier y gerdd a'i molawd
Yw Ierwerth a werth ei wawd.
A Madog, gwenidog gwydd,
Digrifaf dyn deigr Ofydd,
Cytgerdd eosgyw coetgae,
Câr i mi, caru y mae.

20 Marwnad Madog Benfras


Rhidyll hudolaidd rhydwn
Rhyw fyd ar ei hyd yw hwn.
Y macwy llawen heno,
Hyfryd i'w fywyd a fo,
Breuddwyd, gofid ebrwyddarw,
A dry yfory yn farw.


Pam y'm cęn awen ewybr,
Pęr orgraff, oleubraff lwybr,
Am Fadog, farddlef efell,
Benfras? Ni bu wawdwas well.
Bu ddewr hael, ni bydd yrhawg,
Gormail mydr, gwr mal Madawg
O fedru talm o fydroedd,
O gerdd dda, ac arwydd oedd,
O ddwysgwbl serch oddysgaid,
O ddigrifwch fflwch a phlaid,
O gariad yn anad neb,
Oddaith henw ei ddoethineb.


Dengyn ym mlwyddyn fy mloedd
Dwyn Madog, dinam ydoedd.
Uthr yw´r gwydd am athro gwyr.
Disgybl yn fyw nid esgyr.
Pill eglur, penadur pwyll,
Paun da'i ddadl, pand oedd ddidwyll?
Cad daradr, ceudod tirion,
Canwyr i'r synnwyr a'r sôn;
Cwplws, garueiddgerdd Ferddin,
Cwpl porthloedd, golygoedd gwin,
A thampr o ddewis mis Mai
A thrwmpls y gerdd a'i thrimplai,
A chôr i serch a chariad
A choprs cerdd a chiprys cad.
Pęr organ, degan digeirdd,
Pennaeth barddonďaeth beirdd.


Diaml aur, mâl a dalai,
Diarail fydd manddail Mai;
Dihoywfro beirdd dihyfryd,
Digywydd y bydd y byd;
Digerdd eos befrdlos bach,
Dwf acses Eigr difocsach;
Dibarch fydd bedw, nis cedwyn',
Da beth oedd, diobaith ynn.
Cwpl ewybr, capel awen,
Copr pawb wrthaw; gwaglaw gwen.
Gwladaidd oedd gwledydd, eddyw,
O bai fyd, na bai ef fyw.
Gwae feirddlu! Gwiw ei farddlef.
Gyda Duw y gadwyd ef.

21 Marwnad Gruffudd ab Adda


Rhagor mawr ger mur gwyngalch
Lle bo berllanllwyn llu balch
Bod yn galw is afalwydd
Eos yn nos ac yn nydd,
Cathl olaes edn coeth loywlef,
Cau ei nyth, cerdd cyw o nef;
Euraid ylf ar we dalfainc,
Orlais goeth ar irlas gainc.
Gwedy dęl, gwawd adeilwyn,
Gwyllt saethydd, llamhidydd llwyn,
O ddwystreigl brad i ddistryw
â bollt bedryollt bedw ryw,
Cyd bo llawn, dawn dywenydd,
O berffrwyth gweddeiddlwyth gwydd,
Y bydd cerdd fydr o hydr hoed
Heb loyw degan blodeugoed.


Powys, wlad ffraethlwys ffrwythlawn,
Pęr heilgyrn pefr defyrn dawn,
A oedd berllan gyfannedd
Cyn lladd doethwas â glas gledd.
Weithian y mae—gwae gwedd-dawd!—
Beius gweilch heb eos gwawd.
Adlaw, beirdd awdl heb urddas,
Ydyw hon, caseion cas.
Osid trymoch es trimis,
—Och!—ni bu och na bai is
Cyn no chyhwrdd, lewfwrdd lid,
Awch arf yn lle ni cherid.


Gruffudd gerdd bęr, f'ederyn,
Fab Addaf, difeiaf dyn,
Pob dyn disalw a'i galwai,
Pendefig mireinfrig Mai,
Ac organ dra diddan draidd
Ac aur eos garuaidd;
Gwenynen gwawd barawdwir,
Gwenwyn doeth, Gwenwynwyn dir.


Gruffudd fab Addaf ap Dafydd,
Yng nghôr Dolgellau ynghudd,
Dyrys i'w gâr ei daraw,
Dewr o lid, â dur i'w law.
Arf a roes, eirioes orofn,
Ar fy mrawd, gleddyfawd ddofn;
Troi awch y cledd—pand truan?—
Trwy felynflew dyn glew glân,
Trawiad un lladdiad â llif,
Toriad hagr trwy iad digrif,
Trwy fanwallt gwalch o falchlin.
Och fi ddäed awch ei fin!
Dig wyf, un drawiad â gwydd,
Deuddryll, gormodd gwladeiddrwydd.
Deurudd loyw, angel melyn,
Dwred aur, deryw y dyn.

22 Marwnad Gruffudd Gryg


Tost oedd ddwyn, trais cynhwynawl,
Tlws o'n mysg, Taliesin mawl.
Tristeais, nid trais diarw,
Trwm, oer, fal y trywyr marw.
Treiwyd gwawd, nid rhaid gwadu,
Tros fyd, gwladeiddiaf trais fu.
Tros fy ngran, ledchwelan lif,
Try deigr am wr tra digrif.


Gruffudd, huawdl ei awdlef,
Gryg ddoeth, myn y grog, oedd ef.
Ys dig am ei ostegion,
Ysgwîr mawl, eos gwyr Môn,
Lluniad pob dyall uniawn
A llyfr cyfraith yr iaith iawn,
Agwyddor y rhai gwiwddoeth
A ffynnon cerdd a'i phen coeth,
A'i chyweirgorn, ddiorn dda,
A'i chyweirdant, och wyrda!
Pwy a gân ar ei lân lyfr,
Prydydd Goleuddydd liwddyfr?
Parod o'i ben awengerdd,
Primas ac urddas y gerdd.


Ni chair sôn gair o gariad,
Ni chân neb, gwn ochain, nâd,
Er pan aeth, alaeth olud,
I dan fedd i dewi'n fud.
Ni chwardd udfardd o adfyd,
Ni bu ddigrifwch o'r byd.
Ni bu edn glân a ganai,
Nid balch ceiliog mwyalch Mai.
Ni chynnydd mewn serch annog,
Ni chân nac eos na chog,
Na bronfraith ddwbliaith ddiblyg
Ni bydd gwedy Gruffudd Gryg,
Na chywydd dolydd na dail,
Na cherddi, yn iach irddail!


Tost o chwedl gan fun edlaes
Roi 'nghôr llawn fynor Llan–faes
Gimin, dioer, gem a'n deiryd,
O gerdd ag a roed i gyd.
Rhoed serchowgrwydd agwyddor
I mewn cist ym min y côr.
Cist o dderw, cystudd irad,
A gudd gwalch y gerdd falch fad;
O gerddi swllt, agwrdd sâl,
Ni chaid un gistiaid gystal.
O gerdd euraid gerddwriaeth
Dôi'i rym i gyd yn derm gaeth.
Llywiwr iawngamp llariangerdd,
Llyna gist yn llawn o gerdd!
Och haelgrair Dduw Uchelgrist,
Na bai a egorai'r gist!


O charai ddyn wych eirian
Gan dant glywed moliant glân,
Gweddw y barnaf gerdd dafawd,
Ac weithian gwan ydiw'n gwawd.
Ef aeth y brydyddiaeth deg
Mal ar wystl, mul yw'r osteg.
Gwawd graffaf gwedy Gruffudd
Gwaethwaeth heb ofyddiaeth fydd.


Edn glwys ei baradwyslef,
Ederyn oedd o dir nef.
O nef y doeth, goeth gethlydd,
I brydu gwawd i bryd gwydd;
Awenfardd a fu winfaeth,
I nef, gwiw oedd ef, ydd aeth.

23 Cywydd Ymryson Cyntaf Gruffudd Gryg


Truan mor glaf yw Dafydd,
Trwyddew serch trwyddo y sydd.


Eres i Ddafydd, oeryn,
Fab Gwilym Gam, ddinam ddyn,
Gwas tra hy, cywely cawdd,
Gwewyr ganwaith a'i gwywawdd.
Hefyd y mab anhyfaeth
Yn llochi cerdd llechau caeth.
Maith eiddilwaith ei ddolef,
Ym mam Dduw, y mae, medd ef,
Artaith druan ar Gymro,
Eres yw ei fyw efô.
Ym mhob ryw fan, gran grynnwyf,
Mair a glyw, un mawr ei glwyf,
Yn difa holl gorff Dafydd
Gwewyr rif y syr y sydd.
Och ym os gwayw yw awchlif
Y sydd yn y prydydd prif.
Nid gwayw terfysg ymysg mil,
Nid gwayw iddw, ond gwayw eiddil.
Nid gwayw yng nghefn, wiwdrefn wedd,
Nid sylwayw, onid salwedd.
Nid dygyrch wayw, neud digus,
Nid gwayw rym, ond gwewyr rus.


Mae arfau, meistr gweau gwawd,
Yn gadarn yn ei geudawd.
Es deng mlynedd i heddiw
Dafydd a ddywawd, wawd wiw,
Fod ynddo gant, ond antur,
O arfau, dyrnodau dur,
O saethau, cof luddiau cawdd,
A thrwyddo y cythruddawdd.
Merfder cadarn oedd arnaw,
Ym marn gwyr, drwy wewyr draw.
Mawr o gelwydd, brydydd brad,
A draethodd Dafydd druthiad.


Pe bai Arthur, mur mawrgorf,
A wnaeth ffysg ar derfysg dorf,
Gwir yw, pe bai'r gwewyr oll
Cynhyrchol mewn can harcholl,
Gwyllt ryfel a gynhelis,
Gwir yw na byddai fyw fis,
Chwaethach, meinlas yw'r gwas gwiw,
Gweinidog serch, gwan ydiw.
Och ym, pei brathai Gymro
â gwayw, o Fôn, – on'd gwae fo? –
â'i eurllaw ar ei arllost,
Dan ben ei fron don yn dost,
Or byddai, awr fawr fore,
Yn fyw: truan yw ei ne;
Chwaethach crybwyll, nid pwyll pęr,
Llewyg am wewyr llawer.


Ei lyain yw ei leas,
Ei liw ag arfau a las.
'Y nghred, y mab arabddoeth,
Cyd boed bostus gampus goeth,
Y gwnâi wr call arallwlad
Cwyn â saeth frwyn a syth frad.
Ofn yw iddaw, cyn praw prudd,
Angau am arfau Morfudd.

24 Cywydd Ymryson Cyntaf Dafydd ap Gwilym


Gruffudd Gryg, wyg wag awen,
Grynedig, boenedig ben,
Cynnydd cerdd bun o unflwydd,
Coeg yw, un dyfiad cyw gwydd.
Nid mwy urddas, heb ras rydd,
Gwawd no geuwawd o gywydd,
Cywair ddelw, cywir ddolef,
Cywydd gwiw Ofydd, gwae ef!
Un a'i cas, arall a'i cân,
Enw gwrthgas, un a'i gwrthgan.


Telyn ni roddid dwylaw
Ar ei llorf, glaeargorf glaw,
Ni warafun bun o bydd
Ei cheuedd gyda chywydd.
Traethawl yw, o cheir trithant,
Traethawr cerdd, truthiwr a'i cant
Yn nhafarn cwrw anhyful,
Tincr a'i cân wrth foly tancr cul.
Hwn a'i teifl, hyn neud diflas,
Hen faw ci, yny fo cas.


Cwrrach memrwn, wefldwn waith,
I'r dom a fwrid ymaith,
A geisir, â'i ddyir ddail,
A'i bensiwn serch, heb unsail;
Diddestl fydd o'i fedyddiaw
Ei bennill ef, bin a llaw.
Bustl a chas y barnasam
Beio cerdd lle ni bo cam.


Pam y'm cęn yr awenydd
Draw i'm diswyddaw y sydd?
Gruffudd, ddigudd ymddygiad,
Ap Cynwrig, Wyndodig dad,
Gwr heb hygarwch Gwyndyd,
Gwyrodd a'i ben gerdd y byd.
Nid oes gwaith, lle mae maith medd,
I geiniad cerddau Gwynedd,
Eithr torri, ethrod diraen,
Braisg gofl yw, y brisg o'i flaen.


Ni chân bardd i ail hardd hin
Gywydd gyda'i ddeg ewin,
Ni chano Gruffudd, brudd braw,
Gwedd erthwch, gywydd wrthaw.
Pawb a wnâi adail pybyr
O chaid gwydd, a iechyd gwyr.
Haws yw cael, lle bo gwael gwydd,
Siwrnai dwfn, saer no defnydd.
O myn gwawd, orddawd eurddof,
Aed i'r coed i dorri cof.
Nid tra chyfrwys, lwys lysenw
Awenydd clod, hynod henw,
A fai raid ofer edau
I ddefnydd ei gywydd gau.
A'i law ar ganllaw geinllwyr,
Rydain hen, y rhed yn hwyr.
Caned bardd i ail harddlun,
Gywydd o'i henwydd ei hun.


Rhoddaf, anelaf yn ôl,
Rhybudd i Ruffudd ryffol,
Crair pob ffair, ffyrf a'i gweheirdd,
Cryglyfr bost, craig lefair beirdd:
Taled y mab ataliaith
Tâl am wawd, talm ym o'i waith.

25 Ail Gywydd Ymryson Gruffudd Gryg


Gwyll yw, ni wn ai gwell ym
Gweled Dafydd ap Gwilym,
Elw dullfraw, aelaw dwyllfreg,
Ail Gwenwlydd yw Dafydd deg.
Da i'm gwydd, ysgwydd esgud,
A drwg i'm absen a drud.
Dywawd i wyr y Deau,






Dafydd, ar ei gywydd gau,
Nad oedd ym ddim o'm gwawdlef
Eithr ei ddysg: athro oedd ef.
Dywawd gelwydd, myn Dewi,
A phrofer pan fynner fi.
Tyngodd na wnaf o'm tafawd,
Gorau gwr, ond gwyro gwawd.
Arwydd na mynnwn, eiriawl,
Gwyro ermoed gair o'r mawl.
Syml ei hwyl, ys aml holion,
Ys hoff gan Ddafydd ei sôn.
Hoff gan bob edn aflednais,
Ym medw gled, lwysed ei lais.


Dryglam oer, drwy gwlm eiriau,
I'r dyn ohonom ein dau,
A difa ar ei dafawd
Lle bai, a newidiai wawd.
Cyd boed cryg, ennyg ynni,
Yn nhwf dig, fy nhafod i,
Nid ungamp, onid angerdd,
Nid cryg, myn Mair, gair o'r gerdd.


Hobi hors ymhob gorsedd
A fu hoff, ni feia'i wedd;
Degle'n nes, dwy glun esyth,
Diflas yw, dan daflu'n syth.
Dilys, na bu hudoliaeth
O brenial wan, weithian waeth.


Ail yw'r organ ym Mangor,
Rhai a'i cân er rhuo côr.
Y flwyddyn, erlyn oerlef,
Daith oer drud, y doeth i'r dref,
Pawb o'i goffr a rôi offrwm
O'r plwyf, er a ganai'r plwm.


Trydar ei daerfar ar darf,
Trydydd yw Dafydd dewfarf;
Hoff fu yng Ngwynedd, meddynt,
Yn newydd ei gywydd gynt.
Bellach, gwywach ei gywydd,
Aeth yng ngwyll ei waith yng ngwydd.


Paham, ar gam Gymräeg,
Na wyl mab Ardudful deg
Pwy yw ef, ddiglef ddeuglwyf,
A phwy wyf innau, hoff wyf.
Or bai decaf gan Ddafydd,
Heb gęl, gaffel rhyfel rhydd,
Bwgwl gwlad fydd rhuad rhai,
Bawddyn, pam na'm rhybuddiai?
Rhag fy nghael yng nghwlm coddiant,
Yn lledrad fal y cad cant.
Ceisiodd fi, casaodd fudd,
Bribiwr y gerdd, heb rybudd.
Ni rôi neb, oni rown i,
Seren bren er ei sorri.

26 Ail Gywydd Ymryson Dafydd ap Gwilym


Graifft y plwyf, ei grefft a'i plyg,
Graff ei ddeigr, Gruffudd ogryg,
Dihaereb, wr du, erof,
Da y cân, dieuog gof.
Ymannerch teg, o mynnai,
A gair caredig a gâi;
Ac onis myn, gefyn gau,
A fynnwyf a wnaf innau.
Ni wyr Dduw ym, loywrym lais,
Wadu gair a ddywedais,
Na bai raid, tyngnaid tangnef,
Sampl ei wawd: gwr simpl yw ef.


Llyma'r dyst, lle mae'r destun,
Gardd hir, yn ei gerdd ei hun.
Cynt i'n gwydd y cant yn gerth
Cefnir Dudur ap Cyfnerth
Ym, a'r march gwydd, hydd hoywddaint,
Ac i'r organ, simffan saint,
Caniad dalm cyn oed dolef,
Cenau taer, nog y cant ef.
Pam ydd âi, ddifai ddefawd,
Pefr nerth, dros dalu gwerth gwawd,
Was dewr hy, i west y rhawg
Ar Dudur, wr odidawg?


Mynned fab ei adnabod,
Mulder glew, mold ar y glod,
Ac na fynned, ced a'i cęl,
Ar ddychan arwydd ochel.
Ynfyd yw i wiwfyw was
Anfon anrhegion rhygas
O Fôn, hwylion a holir,
I mi hyd Bryderi dir.
Henw fy ngwlad yw Bro Gadell,
Honnaid ei gwyr, hyn neud gwell.
Ystod o'i dafod a dyf,
Ysto garth, os dig wrthyf,
Deuwn i gyd, da fyd fu,
Lawlaw rhwng y ddau lewlu,
Ymbrofwn, lle'r ym, brifeirdd
Yn ddiannod, hyrddod heirdd,
â dwygerdd serth, digardd sôn,
A deugorff ffynedigion,
A dau dafawd, breuwawd braw,
A deulafn dur, a dwylaw.
Agwrdd hwrdd ar heirdd wychdraed,
Ac o'r rhyfel a ęl, aed.


Gaded ym, i ddig oedi,
Gwden ym o gadwn i.
Dyrnawd o hirwawd herwa,
Yn rhad gan ei dad, nid â.
Or bydd heb sorri, cri cryf,
Digynnen, da yw gennyf;
O syrr, lle gwesgyr Gwasgwyn,
O'm dawr, Gwyn ap Nudd i'm dwyn.

27 Trydydd Cywydd Ymryson Gruffudd Gryg


Dafydd, ponid edifar
Dyfu'r hyn a fu o fâr?
Rhoed ethrod, annod ynni,
Rho Duw mawr, y rhôd â mi.
Credaist ef, croywdyst ofer,
Crediad yw a glyw y glęr.
Dwyoch ym, o'm dychymig,
O'm dawr i digoni dig.
Mawr yw gennyd dy fryd fry,
Mwyfwy dy sen â myfy;
A bychan a rybuchud
Ym o'r gerdd rym agwrdd ddrud.


Amlwg dy chwant i ymladd,
Mae ym ras, â mi am radd.
I'm nwyf nid arhowy'r haf
A chael fy mun o chiliaf
Er unbardd, oerwr enbyd,
Droedfedd na modfedd ym myd.


Mawr dy sôn am ddigoni,
Meddud, dewr ytoeddud di.
Dewis, Dafydd, a dywaid
Ym beth a fynnych neu baid:
Ai ymsang, wr eang wg,
Am radd, ai ymladd amlwg?
Ai ymdonnog ymdynnu
Tros dân, wr trahäus du?


O sorraist, od wyd sarrug,
Os aml dy ffull, syml dy ffug,
Dod yman, bwhwman byd,
Dy anfodd, wr du ynfyd.
Mae rhental, mi a wrantwn,
Ar led dy gwcwll twll twn;
A llwydd yngwydd llu ddengwaith,
Ymbrofi â thi o'th iaith.
Ni wys o gorff na orffwyf,
Neu o gerdd; aneuog wyf.


Down i gyd, diennig ym,
â deugledd odidowglym;
Prifenw dysg, profwn ein dau
Pa wr ym mrwydr, pwy orau.
Dafydd, o beiddir dyfod
â main gledd, o mynny glod,
Duw a ran rhwng dau angerdd,
Dyred i'r cyrch, daradr cerdd.
Aed i ddiawl, dragwyddawl dro,
Y galon fefl a gilio.


Trwch iawn y'th farnaf, Ddafydd,
Tristäu Dyddgu o'r dydd.
Didrwch wyf, ffieiddwyf ffo,
Didrist Gweirful o'm didro.
Gwae Ddyddgu, ddyn gweddeiddgall,
Gwyn fyd Gweirful: ni wyl wall.


Llew ydwyf rhwysg, llo ydwyd,
Cyw'r eryr wyf, cyw'r iâr wyd,
A dewr ydwyf a diriaid,
A rhwysg bonheddig yn rhaid,
A cherdd ben y sydd gennyf,
A chryg y'm galwant a chryf,
Ac ni'm dawr, newyddfawr nwyf,
Byth yn ôl, beth a wnelwyf.
O thrawaf heb athrywyn
â min fy nghledd dannedd dyn,
Bychan iawn a rybuched
A geir gennyf i o ged.
Medr bwyll gyda mydr o ben,
'Mogel, nid mi Rys Meigen.

28 Trydydd Cywydd Ymryson Dafydd ap Gwilym


Gruffudd Gryg, ddirmyg ddarmerth,
Grugiar y gerdd, somgar serth,
Mefl ar dy farf yn Arfon,
Ac ar dy wefl mefl ym Môn.
Doeth wyd, da fu Duw â thi,
Dan nyddu gwddf, dy noddi.
Dianc rhag clęr yn eres
Ydd wyd, taw lysfwyd di–les.
Rhyw elyn beirdd, rhy olud,
Rhywola dy draha drud.
Ffraeth arfaeth, erfain haerllug,
Ffrwyna, diffygia dy ffug.
Gwahawdd nawdd, nyddig fuost,
Gwahardd, du fastardd, dy fost.
Gwae di na elly'n hy hyn,
Gwadu'r cwpl, gwe adrcopyn,
Am ddeugyw, amau ddigawn,
Eryr a iâr, oerwr iawn.
Gair o gamryfyg erwyr,
Garw dy gerdd, y gwr du gwyr.


Diwyl dy hwyl i hoywlys,
Dielw ddyn, dy alw ydd ys
Draenen gwawd, druenyn gwedd,
Neu eithinen iaith Wynedd.
A chadw cam, o chydcemir
â thi ar fordwy a thir,
Daith draws, ni wnei dithau draw
Amgenach nag ymgeiniaw.


Hy fydd pawb, dan hoywfodd perth,
Yn absen, ofn wynebserth.
Trafferth flin yw yt, Ruffudd,
Chwyrn braw, od â'r chwarae'n brudd.
Cystal wyf, cas dilewfoes,
I'th wlad di â thi i'th oes;
Gwell na thi, gwall a'th ddyun,
Glud fy hawl, i'm gwlad fy hun.
Af i Wynedd, amlwledd ym,
Ar dy dor, wr du dirym.
Os cadarn dy farn arnaf,
Main ac aur ym Môn a gaf.
Tithau, o'r lle'th amheuir
O doi di i'r Deau dir,
Ti fydd, cytbar fâr y farn,
Broch yng nghod, braich anghadarn.


Lle clywyf, heb loywnwyf blyg,
Air hagr o'th gerdd, wr hygryg,
Talu a wnaf, leiaf ludd,
Triphwyth o wawd yt, Ruffudd.
Ni bydd yn unfarn arnaf,
O beiwyf hyn, ni bwyf haf,
Na'th ofn, ni thyfaist annerch,
Na'th garu, nes haeddu serch.


Da y gwn, mwynwiw gystlwn Menw,
Ditanu nad wyt unenw
â MeigenRhys meginrhefr,
Magl bloneg, heb ofeg befr.
Mawl ni bu mal y buost,
'Mogel di fod, mwygl dy fost,
Yn Rhys wyrfarw, rhus arfer,
A las â gwawd, lun als gwęr.
I'r tau dithau, da y deuthum,
Sarhäed fydd; saer hoed fűm.

29 Pedwerydd Cywydd Ymryson Gruffudd Gryg


Gweirful, wawr eddyl ryddoeth,
Gwae fi fod, cydwybod coeth,
Yn rhaid ym, yn rhyw dymawr,
Oedi dy wawd; ydwyd wawr.
Aml yt o'm tafawd wawdair,
A maint y'th garwn, myn Mair!
Medrai gongl, mae drwg angel
Yn llestair cerdd, llaester cęl:
Dafydd eiddil ap Gwilym,
Ni ad, o anghariad ym,
Dychanu neb anhebgor,
Na phrydu, mwy na ffrwd môr.
Na sor, oleuliw nos hardd,
Weirful, er mwyn dy wirfardd.
Tra gyfan ymddychanwyf,
Dos yn iach, un dison wyf.


Tudur Goch, glowrllyd froch glęr,
Fab Iorwerth, foly pabwyrwer,
Cwynaf na chaf, rhag cyni,
Cenau tom, canu i ti.
Nychdawd i'th sarugwawd sur,
Nochd ydwyd, yn iach, Dudur.


Rhaid ar Ddafydd, gwehydd gwawd,
Ddial yr hyn a ddywawd.
Cytgerdd eos mewn coetgae,
Cytgam â'r mawrgam y mae.
Am radd y mae'n ymroddi
Ymryson ym Môn â mi.


Nid teg gan neb, nid digam,
Myn llaw'r Pab, yn fab ei fam.
Undad nid wyf, hynwyf hardd,
Nac unfam â'r goganfardd.
Mae saith o gymydeithion
I mi'n Aberffraw ym Môn,
Aml ym roddiad profadwy,
Am un i Ddafydd, a mwy.
Mawr eisiau cerdd ar glerddyn,
Mal Dafydd, awenydd wyn.
Hyrio ymladd cyfaddef,
Ymlaen gwawd ei dafawd ef.
Da tybiodd gael, gafael gall,
Llysg ongl ar ddyn llesg angall.
Diofn er bardd o'r Deau
Fyddaf, ni thawaf o thau.
Fy nghorff yn erbyn fy nghas
A rof am na bűm ryfas,
A'm cerdd fasw dan fedw laswydr,
A'm callter, a'm hoywder hydr.


Am fonedd, ym a fenaig,
A dyhuddiant, gwrygiant gwraig,
Gofynner, hwyrber hirbell,
I Ardudful, a wyl well.
Gwyr ymoglud anudon,
Gwr iddi wyf i o Fôn.
Os mab ym oedd, gyhoedd gof,
O henyw dim ohonof,
Ys drwg y peirch yr eirchiad,
Y prydydd Dafydd, ei dad.

30 Pedwerydd Cywydd Ymryson Dafydd ap Gwilym


Arblastr yw Gruffudd eirblyg,
A bwa crefft, cyd bo cryg;
Saethu y mae, wae wahawdd,
Pob nod, nid rhydd i'r Pab nawdd,
Ac odid, elyw–wrid liw,
Un a fedr, anaf ydiw,
Ond dwyn y gerdd wrthwyneb,
Y glod yn anghlod i neb.
Petawn heb ynof angerdd,
Oedfedw cof, adfydig gerdd,
Llai cywilydd oedd iddaw,
Dial fy llid, dal fy llaw
Nog edliw ym, gyflym gawdd,
Fy mhrudded – fy mâr haeddawdd.


O chafas y gwas, wg węn,
Urdd newydd ar ddwyn awen,
Is gîl eto, os gwelwyf,
Esgeulus fydd nofus nwyf.
O rhoir ffyrch, nid llyfrgyrch llesg,
Dan aeliau gwas annilesg,
Ef a eill tafawd, wawd wâr,
Gwan unben, a gwenwynbar,
Dygyfor a digofaint
Dan ei fron, a dwyn ei fraint.


Haws oedd yng Ngwynedd weddu
Tad i Fleddyn o'r dyn du,
Nag efô, hwylio heli,
O dud Môn yn dad i mi.
Dyn ydwyf dianudon
A fu gan wreigdda o Fôn,
Ac a wnaeth, arfaeth aerfa,
Mab cryg, nid mewn diwyg da:
Gruffudd liw deurudd difrwd,
Mold y cwn, fab Mald y Cwd,
Gwas i gleifion Uwch Conwy,
Gwn, gwn, pam na wypwn pwy?


Ystyried Gruffudd ruddlwm,
A blaen ei dafod yn blwm,
Gantaw na ddaw'n ddilestair
Druan gwr, draean y gair,
Cuc cuc yn yfed sucan,
Ci brwysg yn llyncu cyw brân,
Nâd diswrth, ond tywysaw
Gwr dall ar draws ysgall draw.
Anodd i brydydd unig
Ymwrdd â dyn agwrdd dig;
Ef a eill, gwufr arddufrych,
Cern oer, gael llonaid corn ych,
Oni wna Duw, ni wnâi dwyll,
Bod dygymod dig amwyll.


To llingarth, tywyll angerdd,
Tudur Goch, taw di â'r gerdd.
Grawys, henw o groesanaeth,
Grafil mefl, a fu wefl waeth?
Rhywyr gas, rhwyf argyswr,
Rhefr gwydd, gad rhof i a'r gwr.

31 Dychan i Rys Meigen





Cerbyd lled ynfyd llydanfai—y sydd,
Nid un swydd â Gwalchmai;
Cwn pob parth a'i cyfarthai,
Cymyrred na ched ni châi.


Carnben Rys Meigen, magai—ddigofaint,
Ddu geufab, lle beiddiai;

Carwden, ci a rodiai,
Corodyn cerdd meiddlyn Mai.


Cau rheidus bwystus, bostiai—â'i dafod
O Deifi hyd Fenai;
Cor oediog, neb nis credai,
Cwr adain, heb nain, heb nai.


Cariadau rhiau, ni ryfai—fawrles,
Naws cyffes, nis caffai;

Cerdd wermod a ddatodai,
Cern âb cnaf, a wnaf a wnâi.


Cras enau, geiriau ni ragorai—rhain,
Y truthain a'u traethai;

Croesanaeth croyw a soniai,
Crys anardd, taer flawdfardd tai.


Cyfrwys ddifwyn cwys, cyd ceisiai—gyhwrdd
Ag ewybr nis gallai;
Cyfred aml, cyfrwy dimai,
Cyfrif ef bob cyfryw fai.


Clafaf anllataf llatai—clafesau,
Yn arfau anerfai;

Ci sietwn yw'r cas ytai,
Coes gwylan craig, treiglwraig trai.


Cynnwgl cen cwrwgl, can carrai—o'i lawdr,
Hen leidryn gofawai;
Cyfraith fydriaith ni fedrai,
Cyfranc nac aer daer nid âi.


Cerdd-dlawd, brynhicnawd hacnai,—bastynwas
Baw estynwefl ysgai;
Canmil chwil a ymchwelai
Cau was gorflwng rhwng pob rhai.


Cecrwawd ci cardlawd cecyrdlai—cwthrfeigl
Hirdreigl gest hwyrdrai;
Cafn latys mam blotai,
Cefn rhisg heb gysegrwisg a sai.



Gwas cas coesfrith chwith chwythlawdr lletbai gwan,
Gwyn ei fyd a'i crogai;
Gwasg dasg desgldraul caul cawlai,
Gwar gwrcath gwydn chwiltath chwai.


Gwythlyd gwefl esgud, gofloesgai – ar gwrw,
Banw chweidwrw ban chwydai;

Gwall ball beillhocs, cocs cicai,
Gwyllt byll hyll oeth garw troeth trai.


Gwylliad anwastad westai, – lleuedig
â llaw fudr a daflai;
Gwellau diawl, gwae lle delai,
Gwallawiawdr llwfr claerddwfr clai.


Goreilgorff rheidus, nid gwrolGai – Hir,
Hwyr ym mrwydr y safai;

Gweren soegen a sugnai,
Gwar hen groenyn, lledryn llai.


Gwirod o waddod a weddai – i'r pryf,
Anaergryf oen oergrai,

Gwryd ateth gardotai,
Garw blu, ni bu gwrab lai.


Gwaith o ymgeiniaith a ganai – i bawb
Heb wybod beth fyddai;
Gwythen llygoden geudai,
Gwaethaf, llo bawaf, lle bai.



Rys Meigen, gwden dan gedyrn – grogwydd
Fydd dy ddihenydd, hynaf erddyrn.
Rhusiedig a dig y dyrn – dy ddannedd,
Rhysedd mehinwledd, wydnwedd wadnwyrn,
Rhuglfin gynefin giniawfyrn – frynnig,
Rhyfig ar faeddgig, nid ar feddgyrn.
Rhuthrud węr a męr mawr esgyrn – ceudawd,
Rhythgnawd cyn diawd, myn Cyndëyrn.
Rhyfedd yw cemyw camyrn, - bengnawd fęr,
Rhefrgoch gloch y glęr, galchwer gilchwyrn,
Anwr yn sawdwr, ys edyrn - yn rhaid,
Amnaid delw danbaid, nid ail Dinbyrn,
Euog drum lleuog, drem llewyrn - wystnlwyth,
Anwiw ffriw heb ffrwyth, golwyth gelyrn,
Rhwyddlawdr anhuawdr, annhëyrn - rhwymgnawd,
Rhygrin o gysgawd, groen ac esgyrn,
Rhediad dau lygad dilugyrn – chwiltath,
Rhys goegfrys gigfrath, fapgath fepgyrn,
Rhugn sugn soeg gogoeg gegyrn, – rhwthgynfol,
Rhyfol rhwd heol, nid rhyw tëyrn.
Er na wypud, lud lawdr gachsyrn – osgryn,
Nac awdl nac englyn, lleidrddyn lledrddyrn,
Gwas ynfydferw chwerw, chwyrn – afrifed
Y gwyddut yfed gwaddod tefyrn.

32 Mis Mai


Duw gwyddiad mae da gweddai
Dechreuad mwyn dyfiad Mai.
Difeth irgyrs a dyfai
Dyw Calan mis mwynlan Mai.
Digrinflaen goed a'm oedai,
Duw mawr a roes doe y Mai.
Dillyn beirdd ni'm rhydwyllai,
Da fyd ym oedd dyfod Mai.


Harddwas teg a'm anrhegai,
Hylaw wr mawr hael yw'r Mai.
Anfones ym iawn fwnai,
Glas defyll glân mwyngyll Mai,
Ffloringod brig ni'm digiai,
Fflowr-dy-lis gyfoeth mis Mai.
Diongl rhag brad y'm cadwai
Dan esgyll dail mentyll Mai.
Llawn wyf o ddig na thrigai,
Bath yw i mi, byth y Mai.


Dofais ferch a'm anerchai,
Dyn gwiwryw mwyn dan gôr Mai.
Tadmaeth beirdd heirdd a'm hurddai,
Serchogion mwynion, yw Mai.
Gelyn, Eiddig a'i gwelai,
Gwyliwr ar serch merch yw Mai.
Mab bedydd Dofydd difai,
Mygrlas, mawr yw urddas Mai.
O'r nef y doeth a'm coethai
I'r byd, fy mywyd yw Mai.


Neud glas gofron, llon llatai,
Neud hir dydd am irwydd Mai,
Neud golas, nid ymgelai,
Bronnydd a brig manwydd Mai,
Neud bernos, nid twrn siwrnai,
Neud heirdd gweilch a mwyeilch Mai,
Neud llon eos lle trosai
Llafar, a mân adar Mai,
Neud esgud nwyf a'm dysgai,
Nid mawr ogoniant ond Mai.


Paun asgellas dinastai,
Pa un o'r mil? Penna'r Mai.
Pwy o ddail a'i hadeiliai
Yn oed y mis onid Mai?
Magwyr laswyrdd a'i magai,
Mygr irgyll mân defyll Mai.
Pyllog, gorau pe pallai,
Y gaeaf, mwynaf yw Mai.


Deryw'r gwanwyn, ni'm dorai,
Eurgoeth mwyn aur gywoeth Mai.
Dechrau haf llathr a'i sathrai,
Deigr a'i mag, diegr yw Mai.
Deilgyll gwyrddrisg a'm gwisgai,
Da fyd ym yw dyfod Mai.
Duw ddoeth gadarn a farnai
A Mair i gynnal y Mai.

33 Mis Mai a Mis Tachwedd


Hawddamor, glwysgor glasgoed,
Fis Mai haf, canys mau hoed,
Cadarn farchog, serchog sâl,
Cadwynwyrdd feistr coed anial,
Cyfaill cariad ac adar,
Cof y serchogion a'u câr,
Cennad nawugain cynnadl,
Caredig urddedig ddadl.
Mawr a fudd, myn Mair, ei fod,
Mai, fis difai, yn dyfod
Ar fryd arddelw, frwd urddas,
Yn goresgyn pob glyn glas.
Gwasgod praff, gwisgad priffyrdd,
Gwisgai bob lle â'i we wyrdd.
Pan ddęl yn ôl rhyfel rhew,
Pill doldir, pall adeildew –
Digrif fydd, mau grefydd grill,
Llwybr obry lle bu'r Ebrill –
Y daw ar uchaf blaen dâr
Caniadau cywion adar,
A chog ar fan pob rhandir,
A chethlydd a hoywddydd hir,
A nďwl gwyn yn ael gwynt
Yn diffryd canol dyffrynt,
Ac wybren loyw hoyw brynhawn,
A glaswydd aml a glwyswawn,
Ac adar aml ar goedydd,
Ac irddail ar wiail wydd,
A chof fydd Forfudd f'eurferch,
A chyffro saith nawtro serch.


Annhebig i'r mis dig du
A gerydd i bawb garu,
A bair tristlaw a byrddydd
A gwynt i ysbeilio gwydd,
A llesgedd, breuoledd braw,
A llaesglog a chenllysglaw,
Ac annog llanw ac annwyd,
Ac mewn naint llifeiriaint llwyd,
A dwyn sôn mewn afonydd,
A llidio a duo dydd,
Ac awyr drymled ledoer
A'i lliw yn gorchuddio'r lloer.
Dęl iddo, rhyw addo rhwydd,
Deuddrwg am ei wladeiddrwydd.

34 Yr Haf


Gwae ni, hil eiddil Addaf,
Fordwy rhad, fyrred yr haf.
Rho Duw, gwir mae dihiraf,
Rhag ei ddarfod, dyfod haf,
A llednais wybr ehwybraf,
A llawen haul a'i lliw'n haf,
Ac awyr erwyr araf,
A'r byd yn hyfryd yn haf.
Cnwd da iawn, cnawd dianaf,
O'r ddaear hen a ddaw'r haf.
I dyfu, glasu glwysaf,
Dail ar goed y rhoed yr haf,
A gweled, modd y chwarddaf,
Gwallt ar ben hoywfedwen haf.
Paradwys, iddo prydaf,
Pwy ni chwardd pan fo hardd haf?
Glud anianol y molaf;
Glwysfodd—wi o'r rhodd!—yw'r haf.


Deune geirw, dyn a garaf
Dan frig, a'i rhyfig yw'r haf.
Cog yn serchog, os archaf,
A gân ddiwedd huan haf,
Glasgain edn, glwys ganiadaf,
Gloch osber am hanner haf.
Bangaw lais eos dlosaf,
Pwyntus hy mewn pentis haf,
Ceiliog, o frwydr y ciliaf,
Y fronfraith hoyw fabiaith haf,
Dyn Ofydd, hirddydd harddaf,
A draidd, gair hyfaidd, yr haf.
Eiddig, cyswynfab Addaf,
Ni ddawr hwn oni ddaw'r haf.
Rhoed i'i gyfoed o'r gaeaf
A rhan serchogion yw'r haf.
Minnau dan fedw ni mynnaf
Mewn tai llwyn ond mentyll haf,
Gwisgo gwe lân amdanaf,
Pybyr gwnsallt harddwallt haf.
Eiddew ddail a ddadeilaf,
Annwyd ni bydd hirddydd haf.
Lledneisferch, os anerchaf,
Llon arail hon ar ael haf.


Gwawd ni lwydd, arwydd oeraf,
Gwahardd ar hoywfardd yr haf.
Gwynt ni ad, gwasgad gwisgaf,
Gwydd ym mhwynt, gwae ddoe am haf.
Hiraeth, nid ymddiheuraf,
Dan fy mron am hinon haf.
O daw hydref, ef aeaf,
Eiry a rhew i yrru'r haf,
Gwae finnau, Grist, gofynnaf,
Os gyr mor rhyfyr, 'Mae'r haf?'

35 Mawl i'r Haf


Tydi'r haf, tad y rhyfig,
Tadwys, ced brywys, coed brig,
Teg wdwart, feistr tew goedallt,
Twr pawb wyd, töwr pob allt.
Tydi a bair, air wryd,
Didwn ben, dadeni byd.
Tydi sydd, berydd barabl,
Tyddyn pob llysewyn pabl,
Ac eli tw', ddodw ddadl,
Ac ennaint coedydd gynnadl.
Da y gwyr, myn Duw a gerir,
Dy law cadeiriaw coed ir.
Hoff anian bedwar ban byd,
Uthr y tyf o'th rad hefyd
Adar a chnwd daear teg
A heidiau yn ehedeg,
Bragwair gweirgloddiau brigwydr,
Bydafau a heidiau hydr.
Tadmaeth wyd, proffwyd priffyrdd,
Teml daearllwyth, garddlwyth gwyrdd.
Impiwr wyd i'm pur adail,
Impiad, gwiw ddeiliad gwe ddail.
A drwg yw yn dragywydd
Nesed Awst, ai nos ai dydd,
A gwybod o'r method maith,
Euraid deml, yr aut ymaith.


'Manag ym, haf, mae'n gam hyn,
Myfy a fedr d'ymofyn,
Pa gyfair neu pa gyfoeth,
Pa dir ydd ai, er Pedr ddoeth?'


'Taw, fawlfardd, tau ofalfydr,
Taw, fost feistrol hudol hydr.
Tynghedfen ym, rym ramant,
Tywysog wyf,' tes a gant,
'Dyfod drimis i dyfu
Defnyddiau llafuriau llu,
A phan ddarffo do a dail
Dyfu a gwëu gwiail,
I ochel awel aeaf
I Annwfn o ddwfn ydd af.'


Aed bendithion beirddion byd
A'u can hawddamor cennyd.
Yn iach, frenin yr hinon,
Yn iach, ein llywiawdr a'n iôn,
Yn iach, y cogau ieuainc,
Yn iach, hin Fehefin fainc,
Yn iach, yr haul yn uchel
A'r wybren dew, bolwen bęl.
Deyrn byddin, dioer ni byddy
Yn gyfuwch, fron wybrluwch fry,
Oni ddęl, digel degardd,
Eilwaith yr haf a'i lethr hardd. 36 Cyngor y Bioden


A mi'n glaf er mwyn gloywferch
Mewn llwyn yn prydu swyn serch
Ddiwarnawd, pybyrwawd pill,
Ddichwerw wybr, ddechrau Ebrill,
A'r eos ar ir wiail,
A'r fwyalch deg ar fwlch dail,
Bardd coed, mewn trefngoed y trig,
A bronfraith ar ir brenfrig
Cyn y glaw yn canu'n glau
Ar las bancr eurlwys bynciau,
A'r ehedydd, lonydd lais,
Cwcyllwyd edn cu callais,
Yn myned drwy ludded lwyr
â chywydd i entrych awyr
(O'r noethfaes, adlaes edling,
Yn wysg ei gefn drefn y dring):
Minnau, fardd rhiain feinir,
Yn llawen iawn mewn llwyn ir,
A'r galon fradw yn cadw cof,
A'r enaid yn ir ynof,
Gan addwyned gweled gwydd,
Gwaisg nwyf, yn dwyn gwisg newydd,
Ac egin gwin a gwenith
Ar ôl glaw araul a gwlith,
A dail glas ar dâl y glyn
A'r draenwydd yn ir drwynwyn.
Myn y nef, yr oedd hefyd
Y bi, ffelaf edn o'r byd,
Yn adeilad, brad brydferth,
Ym mhengrychedd perfedd perth,
O ddail a phriddgalch, balch borth,
A'i chymar yn ei chymorth.


Syganai'r bi, gyni gwyn,
Drwynllem falch ar y draenllwyn:


'Mawr yw dy ferw, goegchwerw gân,
Henwr, wrthyd dy hunan.
Gwell yt, myn Mair, air aren,
Gerllaw tân, y gwr llwyd hen,
Nog yma ymhlith gwlith a glaw
Yn yr irlwyn ar oerlaw.'


'Dydi bi, du yw dy big,
Uffernol edn tra ffyrnig,
Taw â'th sôn, gad fi'n llonydd,
Er mwyn Duw, yma'n y dydd.
Mawrserch ar ddiweirferch dda
A bair ym y berw yma.'


'Ofer i ti, gweini gwyd,
Llwyd anfalch gleirch lled ynfyd,
Syml a arwydd am swydd serch,
Ymlafar i am loywferch.'


'Mae i tithau, gau gymwy,
Swydd faith a llafur sydd fwy:
Töi nyth fal twyn eithin,
Tew fydd crowyn briwydd crin.
Mae yt blu brithddu, cu cyfan,
Affan a bryd, a phen brân.
Mwtlai wyd di, mae yt liw teg,
Mae yt lys hagr, mae yt lais hygreg,
A phob iaith bybyriaith bell
A ddysgud, breithddu asgell.
Dydi, bi, du yw dy ben,
Cymorth fi, cyd bych cymen,
A gosod gyngor gorau
A wypych i'r mawrnych mau.'


'Nychlyd fardd, ni'th gâr harddfun,
Nid oes yt gyngor ond un:
Dwys iawn fydr, dos yn feudwy,
– Och wr mul – ac na châr mwy.'


Myn fy nghred, gwylied Geli,
O gwelaf nyth byth i'r bi,
Na bydd iddi hi o hyn
Nac wy, dioer, nac ederyn.

37 Y Deildy


Heirdd feirdd, f'eurddyn, diledfeirw,
Hawddamor, hoen goror geirw,
I fun lwys a'm cynhwysai
Mewn bedw a chyll, mentyll Mai,
Llathr daerfalch, uwch llethr derfyn,

Lle da i hoffi lliw dyn.
Gwir ddodrefn o'r gaer ddidryf,
Gwell yw ystafell a dyf.


O daw meinwar, fy nghariad,
I dy dail a wnaeth Duw Dad,
Dyhuddiant fydd y gwydd gwiw,
Dihuddygl o dy heddiw.
Nid gwaeth gorwedd dan gronglwyd;
Nid gwaeth deiliadaeth Duw lwyd.
Unair wyf fi â'm cyfoed.
Yno y cawn yn y coed
Clywed siarad gan adar,
Clerwyr coed, claerwawr a'u câr:
Cywyddau, gweau gwiail,
Cywion, priodolion dail;
Cenedl â dychwedl dichwerw,
Cywion cerddorion caer dderw.


Dewin fy nhy a'i dawnha,
Dwylo Mai a'i hadeila,
A'i linyn yw'r gog lonydd
A'i ysgwâr yw eos gwydd,
A'i döydd yw hirddydd haf
A'i ais yw goglais gwiwglaf,
Ac allor serch yw'r gelli
Yn gall, a'i fwyall wyf fi.
Nachaf yn nechrau blwyddyn
Yn hwy y tyf no hyd dyn.


Pell i'm bryd roddi gobrau
I wrach o hen gilfach gau.
Ni cheisiaf, adroddaf drais,
Wrth adail a wrthodais.

8 Merch, Aderyn a Bedwen


Eiddun dewisaf serchawg,
O Dduw Rhi, a ddaw yrhawg,
O bai'n barawd ei wawd wedn,
Bun gywiw a bangawedn?
Ni bu, er dysgu disgwyl,
Gan serchogwas, golas gwyl,
Crefft mor ddigrif, er llif llid,
Ag arail merch a gerid,
A rhodio, heirio hiroed,
Cilfachau, cadeiriau coed,
Mal cynydd, chwareydd chwai,
Am lwdn gwyllt a ymlidiai
O le pwy gilydd o lid
O lwyn i lwyn, ail Enid,
Ac edn bach a geidw ynn bwyll
Yn ochr wybr yn ei chrybwyll.


Golau lais, galw ail Esyllt
A wnâi y gwiw latai gwyllt,
Aur ei ylf, ar wialen,
Ar ei gred, yn gweled gwen.
Digrif, beis gatai'r dagrau
A red, oedd glywed yn glau
Dyrain mawr ederyn Mai
Dan irfedw y dyn erfai,
Eirian farchog doniog dôn
Urddol aur ar ddail irion.
Hoyw erddigan a ganai
Awr by awr, poen fawr pan fai.
Nid âi ef, mygr waslef mwyn,
Arianllais edn, o'r unllwyn,
Meddylgar gerdd glaear glau,
Mwy nog ancr, meinion geincau.


Da y gweddai 'medwendai mwyn,
Or delai'r edn i'r deilwyn,
Corbedw diddos eu hosan,
Cyweithas gawell glas glân,
Teg fedwen to gyfoedwallt,
Twr diwael ar ael yr allt.
Tyfiad heb naddiad neddyf,
Ty, ar un piler y tyf.
Tusw gwyrdd hudolgyrdd deilgofl,
Tesgyll yn sefyll ar sofl,
Tywyllban, mursogan Mai,
Tew irnen, rhad Duw arnai.


Crefft ddigrif oedd, myn y crair,
Cusanu dyn cysonair,
Ac edrych gwedy'n gwiwdraul
Rhôm ny hun, rhwymynnau haul,
Trwy fantell fy niellwraig,
Trumiau, ceiniogau cynhaig,
A lleddfu agwedd heddiw,
Llygad glas, llwygedig liw,
Oroen gem eirian gymwyll,
Ar y dyn a oryw dwyll.

39 Offeren y Llwyn


Lle digrif y bűm heddiw
Dan fentyll y gwyrddgyll gwiw,
Yn gwarando ddechrau dydd
Y ceiliog bronfraith celfydd
Yn canu ynglyn alathr,
Arwyddion a llithion llathr.


Pellennig, Pwyll ei annwyd,
Pell siwrneiai'r llatai llwyd.
Yma doeth o swydd goeth Gaer
Am ei erchi o'm eurchwaer,
Geiriog, hyd pan geir gwarant,
Sef y cyrch, yn entyrch nant.
Amdano yr oedd gamsai
O flodau mwyn geinciau Mai,
A'i gasul, dybygesynt,
O esgyll, gwyrdd fentyll, gwynt.
Nid oedd yna, myn Duw mawr,
Ond aur oll yn do'r allawr.
Morfudd a'i hanfonasai
Mydr ganiadaeth mab maeth Mai.


Mi a glywwn mewn gloywiaith
Ddatganu, nid methu, maith,
Ddarllain i'r plwyf, nid rhwyf rhus,
Efengyl yn ddifyngus.
Codi ar fryn ynn yna
Afrlladen o ddeilien dda,
Ac eos gain fain fangaw
O gwr y llwyn ger ei llaw,
Clerwraig nant, i gant a gân
Cloch aberth, clau a chwiban,
A dyrchafael yr aberth
Hyd y nen uwchben y berth,
A chrefydd i'n Dofydd Dad
â charegl nwyf a chariad.
Bodlon wyf i'r ganiadaeth,
Bedwlwyn o'r coed mwyn a'i maeth.

40 Y Llwyn Celyn


Y celynllwyn, cofl iawnllwyth,
Caer ar ael ffridd, cwrel ffrwyth,
Côr gweddaidd nis diwraidd dyn,
Clos tew diddos ty deuddyn,
Twr i feinwar i'w harail
Pigau ysbardunau dail.


Gwr wyf yn rhodio ger allt
Dan goedydd, mwynwydd manwallt.
Rhad a geidw rhydeg adail!
Rhodiais wydd, dolydd a dail.
Pwy mewn gaeaf a gafas
Mis Mai yn dwyn lifrai las?
Cof y sydd, cefais heddiw
Celynllwyn yn nhrwyn y rhiw,
Un gadair, serchog ydoedd,
Un lifrai â Mai ym oedd;
Cadeirged lle cad organ,
Cadrblas uwch piler glas glân;
Pantri cerdd uwch pant eiry cawdd,
Pentis, llaw Dduw a'i peintiawdd.
Deuwell y gwnaeth, ddyn diwael,
Rhyw ford deg i Robert hael.


Hywel Fychan hael fuchydd,
Geirddwys gwawd, gwyr ddewis gwydd,
Moli a wnaeth, nid milain,
Angel coed, fy ngwely cain:
Hardd osglau uwch ffiniau ffyrdd,
Tew, byrwallt was tabarwyrdd;
Trefn adar gwlad baradwys,
Teml gron o ddail gleision glwys.
Nid fal henfwth, lle glwth glaw.
Diddos fydd dwynos danaw.
Dail ni chrinant—ond antur?—
Celyn, un derfyn â dur.
Ni thyn gafr hyd yn Hafren
Un baich o hwn, na bwch hen,
Penfar heyrn, pan fo'r hirnos
A rhew ym mhob glyn a rhos.
Ni chyll pren teg ei ddegwm
Er llef gwanwynwynt oer llwm,
Siamled, cywir dail irion,
Cysylltiedig uwch brig bron.

41 Lladrata Haf


Digrif fu fy ngwaith neithiwyr
Rhwng gras a dawn brynhawn hwyr,
Cyfliw gwr, cael ei garu,
Glew rhwng llen dew, â llwyn du.
Ceiliog bronfraith cyweithias
Odduwch fy mhen ar len las
Yn gyrru, cynnyrch cyrch cof,
Coelfain enw, calon ynof.


'Gwyddwn yt gyngor gwiwdda,
Hir ddyddiau Mai: os gwnai, gwna,
Ac eistedd dan fedw gastell –
Duw a wyr na bu dy well –
A than dy ben gobennydd
O fanblu, gweddeiddblu gwydd,
Ac uwch dy ben, fedwen fau,
Gaer loywdeg o gwrlidau.'


Nid wyf glaf, ni fynnaf fod,
Nid wy' iach, myn Duw uchod,
Nid wyf farw, 'm Pedr ddiledryw,
A Duw a farn nad wyf fyw.
Bei cawn un, eiddun addef,
Gras dawn oedd gan Grist o nef,
Ai marw'n ddiran annerch
Ai byw'n ddyn syw i ddwyn serch.


E' fu amser, neur dderyw,
Och fi, ban oeddwn iach fyw,
Na châi Grist, uchel Geli,
Ledrata haf arnaf i!

42 Yr Annerch


Annerch, nac annerch, gennad,
Ni wn pwy—gwraig macwy mad.
Arch i'r ferch a anerchais
Ni wn pa beth, rhag treth trais—
Ddyfod yfory'n fore,
Pwl wyf, ac ni wn pa le.
Minnau a ddof, cof cawddsyth,
Ni wn pa bryd o'r byd byth.
O gofyn hi, gyfenw hawdd,
Poen eirchiad, pwy anerchawdd,
Dywed dithau dan dewi,
Ysgoywan wyf, 'Nis gwn i'.
O gwely deg ei golwg,
Er nas gwelych, nid drych drwg,
Gwiw loywbryd haul goleubrim,
Ar dy gred na ddywed ddim!

43 Cyrchu Lleian


Dadlitia'r diwyd latai,
Hwnt o'r mars dwg hynt i'r mai.
Gedaist, ciliaist, myn Celi,
Arnaf y mae d'eisiau di.
Dof holion, difai helynt,
Da fuost lle gwyddost gynt.
Peraist ym fun ar ungair,
Pâr ym weled merched Mair.


Dewis lyry, dos i Lan falch
Llugan, lle mae rhai lliwgalch.
Cais yn y llan ac annerch
Y sieler mawr, selwr merch.
Dywaid, glaim diwyd y glęr,
Hon yw'r salm, hyn i'r sieler,
A chwyn maint yw'r achwyn mau
A chais ym fynachesau.
Saint o bob lle a'm gweheirdd
Santesau hundeiau heirdd,
Gwyn eiry, arial gwawn oror,
Gwenoliaid, cwfeiniaid côr,
Chwiorydd bedydd bob un
I Forfudd, araf eurfun.


O'i caf innau rhag gofal
O'r ffreutur dyn eglur dâl,
Oni ddaw er cludaw clod,
Hoywne eiry, honno erod,
Da ddodrefn yw dy ddeudroed,
Dwg o'r côr ddyn deg i'r coed,
Câr trigain cariad rhagor,
Cais y glochyddes o'r côr,
Cais frad ar yr abades
Cyn lleuad haf, ceinlliw tes,
Un a'i medr, einym adail,
â'r lliain du, i'r llwyn dail.

44 Yr Ehedydd


Oriau hydr yr ehedydd
A dry fry o'i dy bob dydd,
Borëwr byd, berw aur bill,
Barth â'r wybr, borthor Ebrill.
Llef radlon, llywiwr odlau,
Llwybr chweg, llafur teg yw'r tau:
Llunio cerdd uwch llwyni cyll,
Lledneisgamp llwydion esgyll.
Bryd y sydd gennyd, swydd gu,
A brig iaith, ar bregethu,
Braisg dôn o ffynnon y ffydd,
Breiniau dwfn garbron Dofydd.
Fry yr ai, iawnGai angerdd,
Ac fry y ceny bob cerdd.


Fy llwyteg edn, fy llatai,
A'm brawd awdurdawd, od ai,
Annerch gennyd wiwbryd wedd,
Loyw ei dawn, leuad Wynedd,
A chais un o'i chusanau
Yma oe ddwyn ym, neu ddau.
Mygr swyn gerllaw magwyr sęr,
Maith o chwyldaith uchelder,
Dogn achub, digon uched
Y dringaist, neur gefaist ged.
Dysgawdr mawl rhwng gwawl a gwyll,
Disgyn, nawdd Duw ar d'esgyll.


Moled pob mad creadur
Ei greawdr, pefr lywiawdr pur.
Moli Duw mal y dywaid,
Mil a'i clyw, hoff yw, ni phaid.
Modd awdur serch, mae'dd ydwyd?
Mwyn groyw yw'r llais mewn grae llwyd.
Cathlef lân diddan yw'r dau,
Cethlydd, awenydd winau.
Cantor o gapel Celi,
Coel fydd teg, celfydd wyd di.
Cyfar fraint, aml gywraint gân,
Copa, a llwyd yw'r capan.
Cyfeiria'r wybr cyfarwydd,
Cywyddol, dir gweundir gwydd.
Dyn uwchben a'th argenfydd,
Dioer, pan fo hwyaf y dydd.
Ban ddelych i addoli,
Dawn a'th roes Duw Un a Thri,
Nid brig pren uwchben y byd
A'th gynnail, mae iaith gennyd,
Ond rhadau y deau Dad
A'i firagl aml a'i fwriad.


Difri yr wybrfor dyrys,
Dos draw hyd gerllaw ei llys.
Bychan, genthi bwyf fi, fydd
Bâr Eiddig un boreddydd.
Mae arnad werth cyngherthladd
Megys na lefys dy ladd.
Be rhôn a'i geisio, berw hy,
Bw Eiddig on'd byw fyddy.
Mawr yw'r sercl yt a berclwyd,
â bwa llaw mor bell wyd.
Trawstir sathr, trist yw'r saethydd,
Trwstan o'i fawr amcan fydd.
Trwch ei lid, tro uwch ei law
Tra ęl â'i hobel heibiaw.

45 Yr Wylan


Yr wylan deg ar lanw, dioer,
Unlliw ag eiry neu wenlloer,
Dilwch yw dy degwch di,
Darn fal haul, dyrnfol heli.
Ysgafn ar don eigion wyd,
Esgudfalch edn bysgodfwyd.
Yngo'r aud wrth yr angor
Lawlaw â mi, lili môr.
Llythr unwaith lle'th ariannwyd,
Lleian ym mrig llanw môr wyd.


Cyweirglod bun, cai'r glod bell,
Cyrch ystum caer a chastell.
Edrych a welych, wylan,
Eigr o liw ar y gaer lân.
Dywaid fy ngeiriau dyun,
Dewised fi, dos hyd fun.
Byddai'i hun, beiddia'i hannerch,
Bydd fedrus wrth fwythus ferch
Er budd; dywaid na byddaf,
Fwynwas coeth, fyw onis caf.
Ei charu'r wyf, gwbl nwyf nawdd,
Och wyr, erioed ni charawdd
Na Merddin wenithfin iach,
Na Thaliesin ei thlysach.
Siprys dyn giprys dan gopr,
Rhagorbryd rhy gyweirbropr.


Och wylan, o chai weled
Grudd y ddyn lanaf o Gred,
Oni chaf fwynaf annerch,
Fy nihenydd fydd y ferch.

46 Yr Iwrch


Tydi'r cariwrch ffwrch ffoawdr,
Hediad wybren, lwydwen lawdr,
Dwg hyn o lythr talmythrgoeth
Er Duw nef ar dy din noeth.
Cyflymaf wyd, cofl lemain,
Negesol, cywyddol cain.
Rho Duw, iwrch, rhaid yw erchi
Peth o lateieth i ti.


Grugwal goruwch y greigwen,
Gweirwellt a bawr gorwyllt ben.
Talofyn gwych teuluaidd,
Llamwr allt, llym yw ei raidd.
Llama megis bonllymoen
I'r rhiw, teg ei ffriw a'i ffroen.
Fy ngwas gwych, ni'th fradychir,
Ni'th ladd cwn, hardd farwn hir.
Nod fawlgamp, n'ad i filgi
Yn ôl tes d'oddiwes di.
Fy llatai wyd anwydael
A'm bardd at Ddyddgu hardd hael.
Dwg dithau, deg ei duthiad,
Y daith hon i dy ei thad.
Nac ofna di saeth lifaid,
Na chi yn ôl o chai naid.
Gochel Bali, ci coesgoch,
Ac Iolydd, ci efydd coch.
Adlais hued a gredir,
O daw yn d'ôl Dywyn dir
Dos i'r llaid, dewiswr lludd,
Deall afael dull Ofydd.
Neidia goruwch hen adwy
I'r maes ac nac aro mwy.
Mab maeth erioed glyngoed glân,
Main dy goes, myn di gusan.
Ymochel, n'ad dy weled,
Dros fryn i lwyn rhedyn rhed.
Debre'r nos heblaw'r ffosydd
Dan frig y goedwig a'i gwydd
â chusan ym, ni'm sym seth,
Dyddgu liw eirblu eurbleth.
Cyrch yno'r cariwrch hynod
Carwn, dymunwn fy mod.
Ni'th fling llaw, bydd iach lawen,
Nid â dy bais am Sais hen,
Na'th gyrn, f'annwyl, na'th garnau,
Na'th gig nis caiff Eiddig gau.



Duw i'th gadw, doeth a geidwad,
A braich Cynfelyn rhag brad.
Minnau wnaf, o byddaf hen,
Dy groesi, bryd egroesen.

47 Y Gwynt


Yr wybrwynt, helynt hylaw,
Agwrdd drwst a gerdda draw,
Gwr eres wyd garw ei sain,
Drud byd heb droed heb adain.
Uthr yw mor eres y'th roed
O bantri wybr heb untroed,
A buaned y rhedy
Yr awr hon dros y fron fry.


Dywaid ym, diwyd emyn,
Dy hynt, di ogleddwynt glyn.
Hydoedd y byd a hedy,
Hin y fron, bydd heno fry,
Och wr, a dos Uwch Aeron
Yn glaer deg, yn eglur dôn.
Nac aro di, nac eiriach,
Nac ofna er Bwa Bach,
Cyhuddgwyn wenwyn weini.
Caeth yw'r wlad a'i maeth i mi.


Nythod ddwyn, cyd nithud ddail
Ni'th dditia neb, ni'th etail
Na llu rhugl, na llaw rhaglaw,
Na llafn glas na llif na glaw.
Ni'th ladd mab mam, gam gymwyll,
Ni'th lysg tân, ni'th lesga twyll.
Ni boddy, neu'th rybuddiwyd,
Nid ei ynglyn, diongl wyd.
Nid rhaid march buan danad,
Neu bont ar aber, na bad.
Ni'th ddeil swyddog na theulu
I'th ddydd, nithydd blaenwydd blu.
Ni'th wyl drem, noethwal dramawr,
Neu'th glyw mil, nyth y glaw mawr.


Rhad Duw wyd ar hyd daear,
Rhuad blin doriad blaen dâr,
Noter wybr natur ebrwydd,
Neitiwr gwiw dros nawtir gwydd,
Sych natur, creadur craff,
Seirniawg wybr, siwrnai gobraff,
Saethydd ar froydd eiry fry,
Seithug eisingrug songry',
Drycin yn ymefin môr,
Drythyllfab ar draethellfor,
Hyawdr awdl heod ydwyd,
Hëwr, dyludwr dail wyd,
Hyrddwr, breiniol chwarddwr bryn,
Hwylbrenwyllt heli bronwyn.


Gwae fi pan roddais i serch
Gobrudd ar Forfudd, f'eurferch.
Rhiain a'm gwnaeth yn gaethwlad,
Rhed fry rhod a thy ei thad.
Cur y ddôr, par egori
Cyn y dydd i'm cennad i,
A chais ffordd ati, o chaid,
A chân lais fy uchenaid.
Deuy o'r sygnau diwael,
Dywaid hyn i'm diwyd hael:
Er hyd yn y byd y bwyf,
Corodyn cywir ydwyf.
Ys gwae fy wyneb hebddi,
Os gwir nad anghywir hi.
Dos fry, ti a wely wen,
Dos obry, dewis wybren.
Dos at Forfudd felenllwyd,
Debre'n iach, da wybren wyd.

48 Galw ar Ddwynwen


Dwynwen deigr arien degwch,
Da y gwyr o gôr fflamgwyr fflwch
Dy ddelw aur diddoluriaw
Digion druain ddynion draw.
Dyn a wylio, gloywdro glân,
Yn dy gôr, Indeg eirian,
Nid oes glefyd na bryd brwyn
A ęl ynddo o Landdwyn.


Dy laesblaid yw dy lwysblwyf,
Dolurus ofalus wyf.
Y fron hon o hoed gordderch
Y sydd yn unchwydd o serch,
Hirwayw o sail gofeiliaint,
Herwydd y gwn, hwn yw haint,
Oni chaf, o byddaf byw,
Forfudd, llyna oferfyw.
Gwna fi yn iach, wiwiach wawd,
O'm anwychder a'm nychdawd.
Cymysg lateirwydd flwyddyn
â rhadau Duw rhod a dyn.
Nid rhaid, ddelw euraid ddilyth,
Yt ofn pechawd fethlgnawd fyth.
Nid adwna, da ei dangnef,
Duw a wnaeth, nid ai o nef.
Ni'th wyl mursen eleni
Yn hustyng yn yng â ni.
Ni rydd Eiddig ddig ddygnbwyll
War ffon i ti, wyry ei phwyll.
Tyn, o'th obr, taw, ni thybir
Wrthyd, wyry gymhlegyd hir,
O Landdwyn, dir gynired,
I Gwm-y-gro, gem o Gred.


Duw ni'th omeddawdd, hawdd hedd,
Dawn iaith aml, dyn ni'th omedd.
Diamau weddďau waith,
Duw a'th eilw, du ei thalaith.
Delid Duw, dy letywr,
Dęl i gof, dwylaw y gwr,
Traws oedd y neb a'i treisiai,
Tra ddęl i'm ôl trwy ddail Mai.
Dwynwen, pes parud unwaith
Dan wydd Mai a hirddydd maith,
Dawn ei bardd, da, wen, y bych;
Dwynwen, nid oeddud anwych.
Dangos o'th radau dawngoeth
Nad wyd fursen, Ddwynwen ddoeth.


Er a wnaethost yn ddawnbwys
O benyd y byd a'i bwys;
Er y crefydd, ffydd ffyrfryw,
A wnaethost tra fuost fyw;
Er yr eirian leianaeth
A gwyrdawd y coethgnawd caeth;
Er enaid, be rhaid yrhawg,
Brychan Yrth, breichiau nerthawg;
Eiriol er dy greuol gred,
Yr em wyry, roi ymwared.

49 Y Ceiliog Bronfraith


Y mae pob Mai difeioed,
Ar flaenau canghennau coed,
Cantor hydr, ar gaer wydr gyll,
Esgud dan wyrddion esgyll,
Ceiliog, teg reg rhag organ,
Bronfraith drwy gyfraith a gân.


Pregethwr maith pob ieithoedd,
Pendefig ar goedwig oedd.
Sieri fydd ym medwydd Mai
Saith ugeiniaith a ganai,
Iustus gwiw ar flaen gwiail,
Ystiwart llys dyrys dail,
Athro maith fy nghyweithas,
Ieithydd ar frig planwydd plas,
Cywirwas ar friglas fry,
Cydymaith mewn coed ymy,
Ceiniad yw goreuryw gân
A gynnull pwyll ac anian.


[ ]wy, Creirwy Cred,

Am y fun â mi fyned.
Hyder, a balch ehedeg,
A wnaeth â dewiniaeth deg,
O blas i blas drwy draserch,
O lwyn i lwyn er mwyn merch,
Dysg annerch, a disgynnu
Lle'r oedd y fun, llariaidd fu.
Dwedud yn deg fy neges,
Diwyd fydd pen-llywydd lles.
Dangos a wnaeth, cydfaeth cant,
Y gwir yn ei lythr gwarant.
Darlleodd ymadrodd mydr,
Deg lwyswawd, o'i dy glaswydr.
Gelwis yn faith gyfreithiol
Arnaf ddechrau'r haf o'r rhol.


Collais, ni ddamunais ddig,
Daered rym, dirwy dremyg.
Cyd collwn, gwn, o gynnydd,
Dirwyon dan wyrddion wydd,
Ni chyll traserch merch i mi,
Cain nerthoedd, na'm cwyn wrthi.
O bydd cymen y gennad,
O brudd, ef a gais ei brad.


Duw a wnęl (gęl ei gofeg)
Erof fi a Dewi deg
Amod rhwydd ('y myd rhyddoeth)
Am y gennad (geinwad goeth):
Ei adael ef a'i lef lwys,
Brydydd serch, i baradwys,
Ynad, mygr ganheiliad Mai,
Enw gwiwddoeth, yno y gweddai.

50 Y Seren


Digio'dd wyf am liw ewyn,
Duw a wyr meddwl pob dyn.
O daw arnaf o'i chariad,
F'enaid glwys, fyned i'w gwlad,
Pell yw i'm bryd ddirprwyaw
Llatai drud i'w llety draw,
Na rhoi gwerth i wrach, serth swydd,
Orllwyd daer er llateirwydd,
Na dwyn o'm blaen dân-llestri,
Na thyrs cwyr, pan fo hwyr hi,
Dros gysgu y dydd gartref
A rhodio'r nos dros y dref.
Ni'm gwyl neb, ni'm adnebydd,
Ynfyd wyf, yny fo dydd.


Mi a gaf heb warafun
Rhag didro heno fy hun
Canhwyllau'r Gwr biau'r byd
I'm hebrwng at em hoywbryd.
Bendith ar enw'r Creawdrner
A wnaeth saeroniaeth y sęr,
Hyd nad oes dim oleuach
No'r seren gron burwen bach.



Cannaid yr uchel geli,
Cannwyll ehwybrbwyll yw hi.
Ni ddifflan pryd y gannwyll,
A'i dwyn ni ellir o dwyll.
Nis diffydd gwynt hynt hydref,
Afrlladen o nen y nef.
Nis bawdd dwfr, llwfr llifeiriaint,
Disgwylwraig, dysgl saig y saint.
Nis cyrraidd lleidr â'i ddwylaw,
Gwaelod cawg y Drindod draw.
Nid gwiw i ddyn o'i gyfair
Ymlid maen mererid Mair.
Golau fydd ymhob ardal,
Goldyn o aur melyn mâl.
Gwir fwcled y goleuni,
Gwalabr haul, gloyw wybr yw hi.


Hi a ddengys ym heb gudd,
Em eurfalch, lle mae Morfudd.
Crist o'r lle y bo a'i diffydd
Ac a'i gyr, nid byr y bydd,
Gosgedd torth gan gyfan gu,
I gysgod wybr i gysgu.

51 Y Don ar Afon Dyfi


Y don bengrychlon grochlais,
Na ludd, goel budd, ym gael bais
I'r tir draw lle daw ym dâl,
Nac oeta fi, nac atal.
Gad, ardwy rhad, er Duw Rhi,
Rhwyfo dwfr rhof a Dyfi.
Tro drachefn, trefn trychanrhwyd,
Dy fardd wyf, uwch dwfr ydd wyd.


A ganodd neb â genau
O fawl i'r twrf meistrawl tau,
Gymar hwyl, gem yr heli,
Gamen môr, gymain â mi?
Ni bu brifwynt planedsygn,
Na rhuthr blawdd na deugawdd dygn,
Nac esgud frwydr nac ysgwr,
Nac ysgwydd gorwydd na gwr,
Nas cyfflypwn, gwn gyni,
Grefdaer don, i'th gryfder di.
Ni bu organ na thelyn,
Na thafawd difeiwawd dyn,
Nas barnwn yn un gyfref,
Fordwy glas, â'th fawrdeg lef.
Ni chair yr ail gair gennyf
Am f'enaid, brad naid, bryd Nyf,
Ond galw ei thegwch golau
A'i phryd teg yn lle'r ffrwd dau.


Am hynny, gwna na'm lluddiych,
Ymwanwraig loyw dwfr croyw crych,
I fyned, f'annwyl a'm barn,
Drwy lwyn bedw draw Lanbadarn
At ferch a'm gwnaeth, ffraeth ffrwythlyw,
Forwyn fwyn, o farw yn fyw.
Cyfyng gennyf fy nghyngor,
Cyfeilles, marchoges môr:
Ateg wyd rhof a'm cymwd,
Atal â'th drwyn ffrwyn y ffrwd.
Pei gwypud, don ffalinglwyd,
Pefrgain letywraig aig wyd,
Maint fy ngherydd am drigiaw!
Mantell wyd i'r draethell draw.


Cyd deuthum er ail Indeg
Hyd yn dy fron, y don deg,
Ni'm lladdo rhyfel gelyn
O'm lluddiud i dud y dyn;
Neu'm lladd saith ugeinradd serch,
Na'm lludd at Forfudd, f'eurferch.

52 Ymddiddan â'r Cyffylog


'Tydy ehediad tewdwrf,
Taer gyffylog, lidiog lwrf,
Manag, edn mynog adain,
Mae dy chwyl; mad wyd a chain.'


'Ffest a glew y mae'n rhewi,
Ffo ydd wyf, myn fy ffydd i,
Ar hynt o'r lle bűm yr haf,
Ar guert rhag eiry gaeaf.
Rhyw gof dig, rhew gaeaf du
A'i luwch ni'm gad i lechu.'


'Edn, yt hiroedl ni edir,
Ederyn hardd duryn hir.
Dyred, na ddywed ddeuair,
Lle mae a garaf, lliw Mair,
Lle gofrwysg gerllaw gofron,
Lle claer tes, lle clywir ton,
I ochel awel aeaf,
O ras hir, i aros haf.


'O thry i'th ogylch, iaith ddrud,
Treiglwr, chwibanwr traglud,
â bollt benfras a bwa,
A'th weled, wr, i'th wâl da,
Na chudd er ei lais, na chae
Dy lygad dan dy loywgae.
Eheda, brysia rhag brad
A thwyll ef o'th ddull hoywfad
O-berth-i-berth, drafferth drwch,
O-lwyn-i-lwyn anialwch.
Glân dy dro, o glyn dy droed
I mewn magl ym min meigoed,
Na fydd, dilonydd dy lam,
Wrth gryngae, groglath gringam.
Tor yn lew i am d'ewin
â'th dduryn cryf wyth rawn crin;
Trist big, hen goedwig a gâr,
Trwyddau adwyau daear.


'Disgyn heddiw ger rhiwallt
Is ty gwen, ys teg ei gwallt,
A gwybydd, er delw Gybi,
Ger rhiw, a yw gywir hi.
Gwyl ei thro, gwylia a thrig
Yno, ederyn unig.'


'Bai reitiaf dy rybuddiaw,
Tydi, fab teg arab: taw!
Rhywyr, mau ofn y rhewynt,
Y gwylir hi, gwael yw'r hynt;
Eres hyd y bu'n oeri,
Aeth arall hoywgall â hi.'


'Os gwir, edn, mau ehednwyf
Is gil serch, ysgeulus wyf,
Gwir a gant, gwarant gwiwras,
Y rhai gynt am y rhyw gas:
"Pren yng nghoed"—mawroed yw'r mau—
"Arall â bwyall biau."'

53 Y Cyffylog


A fu ddim, ddamwain breiddfyw,
Mor elyn i serchddyn syw
â'r gaeaf, oeraf eiryoed,
Hirddu cas yn hyrddio coed?
Aruthr ei grwydr rhwng dwydref,
Oer o was, tad eiry yw ef.
Ni bu un na bai anawdd
Gantho–ai hawdd cuddio cawdd?–
Mewn eiry ermyn aros,
Y rhyn ôd, a rhew ar nos.


Haws oedd mewn castell celli
Ar hafnos ei haros hi
Gan glywed digrifed tôn
Y gog las ddigoeg leision.
Annhebig mewn coedwig Mai,
A chyffur oedd o chaffai,
I rodio, tro treigl anűn,
Tan fargod to ty f'eurgun.
Perhôn drannoeth, anoethraid,
Ym ei chael, amau o chaid,
I dyddyn gweirdy diddos,
Ofn oedd yng ngaeaf, y nos,
Na ddigonai, chwai chwedlfreg,
Engyn ar y dynyn deg.


Glân ymddiddan ydd oeddem,
Glud gwyn, mi a gloywdeg em.
Gwnaeth fraw, frychleidr anghyfrwys,
A dychryn i'm gloywddyn glwys,
Col gylfinferf goferfwyd,
Y cyffylog llidiog llwyd.
Edn brych, dilewych o liw,
O adar gaeaf ydiw.
Modd y gwnaeth, nid maeth fy myd,
Wrth ben bagl wrthban bawglud,
Cychwyn yn braff ei drafferth,
Adain bôl, odd dan y berth
A neitio hyd pan ytoedd
Mewn perth ddu. Nid o'm porth oedd.
Gan faint trwstgrwydr ar lwydrew
Dwy ffilog y taeog tew,
Tygesym ddwyn, ddeugwyn ddig,
Trist oeddem, mae trwst Eiddig,
Golesg frys rhwng llys a llwyn,
Gwylltruthr peisfrych gwahelldrwyn.
Treiddiai yn ffrom wrth domawg,
Trwyddew tail a rhew yrhawg.
Aruthr ei chwedl hocedlaes
A mul ger buarthdail maes.
Ni wyr yn llon ar fron fry
Na llais aml na lles ymy,
Na cherddau, medd gwych ordderch,
Drwy nen y llwyn er mwyn merch
Ond arwain, durwaith meinffrom,
Y bęr du a bawr y dom.


Yr edn brych â'r adain brudd,
Bribiwr a'i fagl, heb rybudd
Y caffo, tro treigl gochfrych,
Bolltod braff, mab alltud brych.

54 Y Rhew


Deincryd mawr o led ancrain
Fu'r mau gerllaw'r muriau main
Neithiwyr yng nghanol noethwynt
A rhew, och mor oer fu'r hynt!
Gnawd gaeafrawd, gnwd gofron,
Gerllaw ty hoen gorlliw ton.
Gwir yno fu, gwae'r unig
Ddyn a gyflawner o ddig.
Gofyn, o'i glud gofion glân,
Am y mur o'm em eirian:


'Ai diddig annwyd oddef?
Ai dyn wyd, er Duw o nef?'


'Dyn oeddwn heddiw liw dydd
Bydol, gwedy cael bedydd;
Ac ni wn o'm pwn poenglwyf
Weithian, byth eirian, beth wyf.'


Cwympo ar draws, dygn naws dioer,
Clwyden o iâ caledoer.
Yng ngeirwferw dwfr, ing arfoll,
Y syrthiais, ysigais oll.
Pan dorres, wael eres wedd,
Plats, gron gledr dwyfron, dyfredd,
Pell glywid o'r pwll gloywia
Garm a bloedd; garw y mau bla:
Gweau, anaelau o nych,
Gleision mal wybr goleusych.
Golwg bwl amlwg blymlawr,
Gwydr ddrychau, marl byllau mawr.
Certh eu llun, carthennau llaid,
Cleddiwig lithrig lathraid.
Weithian gwaeth yman ymy
Nog yn y fron, gan iâ, fry;
Bygwth y mae'r gloyw bigau
O'r bargawd y meingnawd mau,
Cryn hoelion, ddiferion farn,
Cyhyd â rhai og haearn.
Pinnau serthau pan syrthynt,
Pob un oll, pibonwy ynt.
Syniodd arnaf eisiniaid
Sildrwm, gwewyr plwm ger plaid,
Cyllyll o rew defyll dioer,
Newyddlif yn niweddloer,
Berwblor, rhewedig boerbla,
Bore oer i'r berau iâ.
Gwir mae rhaid, garmau rhydew,
Gochel arfau rhyfel rhew.


Ys gwae fi rhewi ar hynt
Ysgillwayw drwg asgellwynt.
Ys gwn nad gwell, feithbell farn,
Ysgidiau rhag ias gadarn,
Nwyf glwyf glau ferw ferwinwaed,
Nog na bain' am druain draed.
Mi yw'r gwr mawr a guria
Mwyn a ddoeth i'r mynydd iâ,
Eto a welir, hir hun,
Olwg dost ar ei eilun,
Oherwydd tranc difancoll,
Yn wyw iawn ac yn iâ oll.
Ysgorn arnaf a gafas
Ysglem glew o'r crimprew cras.
Ys glyn fal glud, drud y dring
Ias greulon, fal ysgrowling.


Gan na chaf, geinwych ofeg,
Le mewn ty liw manod teg
Yn ôl hawl, ynial helynt,
Oedd raid ym, bei caid bai cynt,
Tes gloyw tew, twysgliw tywyn,
A haul a ddatodai hyn.

55 Caru yn y Gaeaf


Gwae a garo, gwag eiriawl,
Eithr yr haf, mae'n uthr yr hawl,
Wedy'r unnos am dlosferch
A gefais i, mau gof serch,
Y gaeaf, addefaf ddig,
Dulwm wedy'r Nadolig
Ar eiry, oer yw'r arwydd,
Y rhew a'r pibonwy rhwydd.


Difar hwyl, fawr ddisgwyl farn,
Dyfod yn frwysg o'r dafarn
I geisio, mawr ferw fu'r mau,
Gweled serchogddyn golau.
A phan ddeuthum, gwybűm ged,
Perygl ym, garllaw'r pared,
Tew oedd tan frig y to oer
Rhywlyb bibonwy rhewloer.
Hyfedr i'm safn y dafna,
Rhwysg oer, chwibenygl rhisg iâ;
Canhwyllau, defnyddiau dig,
Prys addail, Paris Eiddig;
Disglair gribin ewinrhew,
Dannedd og rhywiog o'r rhew;
Dagrau oer, dagerau iâ,
Cofus o ddurew cyfa.
Gwybu fy ngwar, digar don,
Gloes y gwerthydydd gleision.


Gwneuthum amnaid dan gnithiaw
Yn llaes ar ffenestr â'm llaw.
Cynt y'm clybu, bryd cyntun,
Gerwin fodd, y gwr no'r fun.
Golinio rhiain feinloer
A wnâi â'i benelin oer.
Tybio bod trwy amod rhai
Meinwas yn ceisio mwnai.
Codi a wnâi'r delff celffaint
O'i wâl ei hun, awel haint,
Llafar ddigwas anrasol,
Llefain o'r milain i'm ôl.
Dug am fy mhen, gwaith enbyd,
Drwy fawr gas y dref i gyd.
Syganai hwn, gwn ganllef,
'Llyma'i ôl a llym yw ef'.
Rhoi cannwyll Fair ddiweiroed
Yn ael rhych yn ôl fy nhroed.


Yna ciliais, drais draglew,
Ar hyd y du grimp a'r rhew.
Cyrchais i'r bedwlwyn mwynaf
Ar hynt, a'm lloches yr haf.
Tybiaswn fod, clod cludreg,
Y tyno dail a'r to'n deg,
A mân adar a'm carai
A merch a welswn ym Mai.
Yno nid oedd le unoed
—Llyna gawdd!—mewn llwyn o goed,
Nac arwydd serch nac arail
Na'r dyn a welswn na'r dail.
Nithiodd y gaeaf noethfawr,
Dyli las, y dail i lawr.


Am hyn mae ymofyn Mai
A meiriol hin ni'm oerai.
Dyn wy' 'ngharchar dan aeaf
A'r hir hawddamor i'r haf.

56 Y Fiaren


Cwrs digar, cerais Degau,
Cwyn cyfar mwyn, cof yw'r mau,
Coflaid lanwaith gyweithas,
Ciried balch, nid cariad bas.
Cefais i'm cyngor cyfun,
Cof a bair hir lestair hun,
Dawn myfyr, dinam ofeg,
Dwyn taith i garu dyn teg.
Llwybr edifar i garu,
Llesg o daith foregwaith fu,
Ciried gwiw, caredig waith,
Cyn gwybod, cain yw gobaith,
O neb cyn dechrau mebyd
O'm bro lle'r oeddwn â'm bryd.


Hwyr y cair, aur grair, o gred
Hawl, i'r faenawl ar fyned,
I geisio, lle tygaswn,
Hawdd hud o gawdd, hyd y gwn,
Gwaeth fu'r sâl uwch tâl y tir,
Golud mwyn, gweled meinir.
Gochelais, pan glywais glod
Serch goreurferch, gyfarfod,
Dirgel fudd, da'r gelfyddyd,
Dawn o bwyll, â dyn o'r byd.


Gadewais, a hyntiais hwnt,
Priffordd y bobl a'u pryffwnt.
Cerddais ymysg y cordderw
Ceuoedd a chaeroedd uwch erw,
O gwr y glyn i gôr glwys
Goeglwybr rhwng bron ac eglwys.
Goryw treigl, gariad traglew,
Gael gwyll y coed tywyll tew.
Ar draws un yr ymdrois i
Er morwyn i'r mieri.
Rhwystrus ger rhiw y'm briwawdd,
Ysgymun, coluddyn clawdd,
Hagr dynn, rhyw eirionyn rhus,
Honno, trychiolaeth heinus.
Cyflym uwch glan â'i dannedd,
Coel gwarth, cyd bai cul ei gwedd,
Dysgodd ym anhoff gloffi,
Dilwydd f'ainc, a daliodd fi.
Yn ael y glyn, ynial goed,
Nidrodd ynghylch fy neudroed.


Cefais, tramgwyddais, trwm gawdd,
Gwymp yno, rhuglgamp anawdd,
Ar ael y glyn, eryl glud,
Yn wysg fy mhen yn esgud.
Marth i'r budrbeth atethol!
Murniai fardd. Mae arnaf ôl.
Mal y gwnâi ni haeddai hedd,
Mul dyniad, mil o'i dannedd,
Ysgorn flin, gerwin yw'r gair,
Asgen ar fy nwy esgair.
Llesg ac ysgymun ei llwyth,
Lliw oferffriw fwyarffrwyth;
Gwden rybraff ei thrafferth,
Gwyllt poen llinin gwallt perth.
Cas ei gwaith yn cosi gwydd,
Cebystr o gringae cybydd;

Coes garan ddygn dan sygn sęr,
Cynghafog gangau ofer;
Tant rhwyd a fwriwyd o fâr,
Telm ar lethr pen talar;
Tytmwy, ar adwy'r ydoedd,
Tant coed o'r nant, cadarn oedd.


Buan fo tân, luman lem,

Brid ysgythrlid ysgithrlem,
Lluniodd ym anhoff broffid,
A'i llysg i ddial fy llid.

57 Y Niwl


Doe Ddifiau, dydd i yfed,
Da fu'm gael, dyfu ym ged,
Coel fawrddysg, cul wyf erddi,
Cyfa serch, y cefais i
Gwrs glwysgainc goris glasgoed
Gyda merch, gadai ym oed.
Nid oedd, o dan hoywDduw Dad,
Dawn iddi, dyn a wyddiad,
Or dôi Difiau, dechrau dydd,
Lawned fűm o lawenydd
Yn myned, gweled gwiwlun,
I'r tir yr oedd feinir fun,
Pan ddoeth yn wir ar hirros
Niwl yn gynhebig i nos.


Rhol fawr a fu'n glawr i'r glaw,
Rhestri gleision i'm rhwystraw,
Rhidyll ystaen yn rhydu,
Rhwyd adar y ddaear ddu,
Cae anghlaer mewn cyfynglwybr,
Carthen anniben yn wybr,
Cwfl llwyd yn cyfliwio llawr,
Cwfert ar bob cwm ceufawr,
Clwydau uchel a welir,
Clais mawr uwch garth, tarth y tir,
Cnu tewlwyd gwynllwyd gwanllaes,
Cyfliw â mwg, cwfl y maes,
Coetgae glaw er lluddiaw lles,
Codarmur cawad ormes,
Twyllai wyr, tywyll o wedd,
Toron gwrddonig tiredd,
Tyrau uchel eu helynt
Tylwyth Gwyn, talaith y gwynt,
Tir a gudd ei ddeurudd ddygn,
Torsed yn cuddio teirsygn,
Tywyllwg, un tew allardd,
Delli byd i dwyllo bardd,
Llydanwe gombr gosombraff,
Ar lled y'i rhodded fal rhaff,
Gwe adrgop, Ffrengigsiop ffrwyth,
Gwan dalar Gwyn a'i dylwyth,
Mwg brych yn fynych a fydd,
Mogodarth cylch meigoedydd,
Anadl arth lle cyfarth cwn,
Ennaint gwrachďod Annwn,
Gochwith megis gwlith y gwlych,
Habrsiwn tir anehwybrsych.


Haws cerdded nos ar rosydd
I daith nog ar niwl y dydd.
Y sęr a ddaw o'r awyr
Fal fflamau canhwyllau cwyr,
Ac ni ddaw, poen addaw, pwl
Lloer na sęr Nęr ar nďwl.
Gwladaidd y gwnaeth yn gaethddu
Y niwl fyth, anolau fu.
Lluddiodd ym lwybr dan wybren,
Llatai a ludd llwytu len,
A lluddias ym, gyflym gael,
Myned at fy nyn meinael.

58 Y Lleuad


Pynciau afrwydd drwy'r flwyddyn
A roes Duw i rusio dyn.
Nid eiddio serchog diddim
Nos yn rhydd na dydd na dim.
Neud ofer brig llawer llwyn,
Neud wyf glaf am dwf gloywfwyn.
Ni lefys dyn ail Ofydd,
Ei brawd wyf, o'i bro y dydd.
Neud gwedy gwydn o gythrudd
Nid nes lles, neud nos a'i lludd.
Ni bydd mawr, gwn, y budd mau,
Na sâl tra fo nos olau.


Gwn ddisgwyl dan gain ddwysgoed,
Gwyw fy nrem rhag ofn erioed.
Gwaeth no'r haul yw'r oleuloer,
Gwaith yr oedd, mawr oedd, mor oer.
Gwelďoedd dagreuoedd dig,
Gwae leidr a fo gwyliedig.
Golydan ail eirian loer,
Goleudapr hin galedoer.
Blin yw ar bob blaen newydd
Blodeuyn o dywyn dydd.
Plwyfogaeth saeroniaeth sant,
Planed dwfr pob blaen tyfiant.
Ei threfn fydd bob pythefnos -
Ei thref dan nef ydiw nos -
I ddwyn ei chwrs oddyna,
Myfyr wyf, mwyfwy yr â
Hon yny fo dau hanner,
Huan, nos eirian, y sęr.
Hyrdda lanw, hardd oleuni,
Haul yr ellyllon yw hi.


A fu ddim waeth, rygaeth reg,
I leidr no nos oleudeg?
Eiddig dawel o'i wely,
Wrth bryd, llwyr fryd, y lloer fry,
I'm gwâl dan y gwial da
A'm gwyl i'w emyl yma.
Rhyborth i'r gwr yw'r fflwring,
Rhyddi a nef dref y dring.
Rhygron fu hon ar fy hynt,
Rhywel ysbardun rhewynt.
Rhwystr serchog anfoddog fydd,
Rhyw wegil torth rhewogydd.
Rhyleidr haf a'i gwarafun,
Rhyloyw fu er hwyl i fun.
Rhod uchel yw ei gwely,
Rhan Ddwy fraisg o'r hindda fry.


Cennyw lle bwyf, cannwyll byd,
Cwfert, o'r wybr y cyfyd.
Cyfled ei chae â daear,
Cyfliw gwersyllt gwyllt a gwâr.
Cyflunddelw gogr cyflawnddellt,
Cynefin ei min â mellt.
Cerddedwraig llwybr yn wybr nen,
Carrai fodd, cwr efydden.
Camp mesurlamp maes serloyw,
Cwmpas o'r wybren las loyw.


Dydd heb haul, deddyw polart,
Dig fu, i'm gyrru o'm gwart.
Disgleirbryd cyn dwys glaerbrim,
Da oedd ym be duai ddim.
I anfon llateion taer,
Dioferchwedl dai f'eurchwaer,
Tra fo nos loyw ddiddos lân,
Tywyllid Tad Duw allan.
Rheol teg oedd i'n Rhiydd,
Rho Duw, yn olau rhoi dydd,
A rhoi ynn nos, a rhin oedd,
Yn dywyll i ni'n deuoedd.

59 Y Pwll Mawn


Gwae fardd a fai, gyfai orn,
Gofalus ar gyfeiliorn.
Tywyll yw'r nos ar ros ryn,
Tywyll, och am etewyn!
Tywyll draw, ni ddaw ym dda,
Tywyll, mau amwyll, yma.
Tywyll iso fro, mau frad,
Tywyll yw twf y lleuad.


Gwae fi na wyr, lwyr loywryw,
Da ei llun mor dywyll yw,
A'm bod, mau ei chlod achlân,
Mewn tywyllwg tew allan.
Dilwybr hyn o ardelydd,
Da gwn nad oeddwn, bei dydd,
Gyfarwydd i gyfeiriaw
Na thref nac yma na thraw,
Chwaethach, casach yw'r cysur,
Nos yw, heb olau na syr.
Nid call i fardd arallwlad,
Ac nid teg, rhag breg na brad,
O'm cair yn unwlad â'm cas
A'm daly, mi a'm march dulas.
Nid callach, dyrysach draw,
Ynn ein cael, yn enciliaw,
Ym mawnbwll ar ôl mwynbarch,
Gwedy boddi, mi a'm march.


Pyd ar ros agos eigiawn,
Pwy a eill mwy mewn pwll mawn?
Pysgodlyn i Wyn yw ef,
Ab Nudd, wb ynn ei oddef!
Pydew rhwng gwaun a cheunant,
Plas yr ellyllon a'u plant.
Y dwfr o'm bodd nid yfwn,
Eu braint a'u hennaint yw hwn.
Llyn gwin egr, llanw gwineugoch,
Lloches lle'r ymolches moch.
Llygrais achlân f'hosanau
Cersi o Gaer mewn cors gau.
Mordwy, lle nid rhadrwy rhwyd,
Marwddwfr, ynddo ni'm urddwyd.
Ni wn paham, ond amarch,
Ydd awn i'r pwll mawn â'm march.


Oerfel i'r delff, ni orfu,
A'i cloddies, ar fawrdes fu.
Hwyr ym ado, o do'i dir,
'Y mendith yn y mawndir.


60 Y Llwynog


Doe yr oeddwn, dioer eddyl,
Dan y gwydd, gwae'r dyn nyw gwyl,
Gorsefyll dan gyrs Ofydd
Ac aros gwen goris gwydd.
Mal 'roeddwn, inseiliwn sail,
Lonyddaf dan lwyn addail —
Gwnaeth ar fy hwyl ym wylaw —
Gwelwn, pan edrychwn draw,
Llun gwrab lle ni garwn,
Llwynog coch, ni châr lle'n cwn,
Yn eiste fal dinastwrch
Gair ei ffau ar gwr ei ffwrch.


Anelais rhwng fy nwylaw
Fwa yw, drud a fu draw,
Ar fedr, fal gwr arfodus,
Ar ael y rhiw, arial rhus —
Arf i redeg ar frodir —
Ei fwrw â saeth ofras hir.
Tynnais, o wyrgais, ergyd
Heb y gern heibio i gyd.
Mau och, aeth fy mwa i
Yn drichnap, annawn drychni.


Llidiais, nid arswydais hyn,
Arth ofidus, wrth fadyn.
Gwr yw ef a garai iâr,
A choeg edn, a chig adar,
Gwr ni ddilid gyrn ddolef,
Garw ei lais a'i garol ef.
Gwridog yw ym mlaen grodir,
Gwedd âb ymhlith y gwydd ir,
Lluman brain garllaw min bryn,
Llamwr erw, lliw maroryn,
Drych nod brain a phiod ffair,
Draig unwedd daroganair,
Cynnwr fryn, cnöwr iâr fras,
Cnu dihareb, cnawd eirias,
Taradr daeargadr dorgau,
Tanllestr ar gwr ffenestr ffau,
Bwa latwm di–drwm draed,
Gefel unwedd gylfinwaed.


Nid hawdd ymy ddilid hwn
A'i dy annedd hyd Annwn.
Deugwae'r talwrn lle digwydd,
Delw ci yn adolwg gwydd.
Rhodiwr coch, rhydaer y'i caid,
Rhedai 'mlaen rhawd ymlyniaid.
Llym ei ruthr, llamwr eithin,
Llewpart a dart yn ei din.

61 Y Dylluan


Truan i'r dylluan deg
Ar ddistial na rydd osteg:
Ni ad ym ganu 'mhader,
Ni thau tra fo siamplau sęr.
Ni chaf—och o'r gorafun!—
Gysgu, na heddychu, hun.


Ty o drum yr ystlumod
A gais rhag piglaw ac ôd.
Beunoeth, bychan rhaib ynof,
I'm clustiau, ceiniogau cof,
Pan gaewyf, poen ogyfarch,
Fy llygaid, penaethiaid parch,
Hyn a'm deffry, ni hunais,
Cân y dylluan a'i llais,
A'i chrochwaedd aml a'i chrechwen
A'i ffals gywyddoliaeth o'i phen.
O hynny, modd yr hanwyf,
Hyd wawrddydd, annedwydd nwyf,
Canu bydd, annedwydd nâd,
'Hw ddy hw', hoyw ddyhead.


Ynni mawr, myn wyr Anna,
Annos cwn y nos a wna.
Budrog yw, ddiwyw ddwywaedd,
Benfras, anghyweithas waedd;
Llydan dâl, griafal groth,
Llygodwraig hen llygadroth;
Ystig ddielwig eiliw,
Westn ei llys, ystaen ei lliw.

Uchel ei ffrec mewn decoed.
Och o'r cân uwch aerwy coed,
A'i gwedd, wynepryd dyn gwâr,
A'i sud, ellylles adar.
Pob edn, syfudr alltudryw,
A'i baedd. Ond rhyfedd ei byw?
Ffraethach yw hon mewn bronnallt
Y nos no'r eos o'r allt.
Ni thyn y dydd, crefydd craff,
Ei phen o geubren gobraff.
Udai'n ffraeth, adwen ei ffriw,
Edn i Wyn ap Nudd ydiw.
Wyll ffladr a gân i'r lladron,
Anffawd i'r tafawd a'r tôn!


Er tarfu y dylluan
Oddi wrthyf mae gennyf gân:
Rhof tra fwy'n aros y rhew
Oddaith ym mhob pren eiddew.
62

Y Rhugl Groen


Fal yr oeddwn, fawl rwyddaf,
Y rhyw ddiwrnod o'r haf
Dan wydd rhwng mynydd a maes
Yn gorllwyn fy nyn geirllaes,
Dyfod a wnaeth, nid gwaeth gwad,
Lle'r eddewis, lloer ddiwad.
Cydeiste, cywiw destun,
Amau o beth, mi a bun;
Cyd-draethu, cyn henu hawl,
Geiriau â bun ragorawl.


A ni felly, any oedd,
Yn deall serch yn deuoedd,
Dyfod a wnaeth, noethfaeth nych,
Dan gri, rhyw feistri fystrych,
Salw ferw fach, sain gwtsach sail,
O begor yn rhith bugail.
A chanto'r oedd, cyhoedd cas,
Rugl groen flin gerngrin gorngras.
Canodd, felengest westfach,
Y rhugl groen; och i'r hegl grach!
Ac yno heb ddigoni
Gwiw fun a wylltiodd, gwae fi!
Pan glybu hon, fron fraenglwy,
Nithio'r main, ni thariai mwy.


Dan Grist, ni bu dôn o Gred,
Cynar enw, cyn erwined:
Cod ar ben ffon yn sonio,
Cloch sain o grynfain a gro;
Crwth cerrig Seisnig yn sôn
Crynedig mewn croen eidion;
Cawell teirmil o chwilod,
Callor dygyfor, du god;
Cadwades gwaun, cydoes gwellt,
Groenddu feichiog o grinddellt.
Cas ei hacen gan heniwrch,
Cloch ddiawl, a phawl yn ei ffwrch.
Greithgrest garegddwyn grothgro,
Yn gareiau byclau y bo.
Oerfel i'r carl gwasgarlun,
Amen, a wylltiodd fy mun.

63 Ei Gysgod


Doe'r oeddwn dan oreuddail
Yn aros gwen, Elen ail,
Yn gochel glaw dan gochl glas
Y fedwen fal ynfydwas.
Ucho gwelwn ryw eulun
Yn sefyll yn hyll ei hun.
Ysgodigaw draw ar draws
Ohonof fal gwr hynaws
A chroesi rhag echrysaint
Y corff mau â swynau saint.


'Dywed, a phaid â'th dewi,
Yma, wyt wr, pwy wyd ti'.


'Myfi, a gad dy ymofyn,
Dy gysgod hynod dy hun.
Taw, er Mair, na lestair les,
Ym fynegi fy neges.
Dyfod ydd wyf, defod dda,
I'th ymyl o'm noeth yma
I ddangos, em addwyngwyn,
Rhyw beth wyd. Mae rhaib i'th ddwyn'.


'Nage, wr hael, anwr hyll,
Nid wyf felly, dwf ellyll.
Godrum gafr o'r un gyfrith,
Tebygach wyd, tebyg chwith,
I drychiolaeth hiraethlawn
Nog i ddyn mewn agwedd iawn.
Heusor mewn secr yn cecru,
Llorpau gwrach ar dudfach du;
Bugail ellyllon bawgoel,
Bwbach ar lun manach moel;
Grëwr yn chwarae griors,
Gryr llawn yn pori cawn cors;
Garan yn bwrw ei gwryd,
Garrau'r wyll, ar gwr yr yd;
Wyneb palmer o hurthgen,
Brawd du o wr mewn brat hen;
Drum corff wedi'i droi mewn carth,
Ble buost, hen bawl buarth?'


'Llawer dydd, yt pes lliwiwn,
Gyda thi. Gwae di o'th wn!'


'Pa anaf arnaf amgen
A wyddost ti, wddw ystęn,
Ond a wyr pob synhwyrawl
O'r byd oll? Yty baw diawl!
Ni chatcenais fy nghwmwd,
Ni leddais, gwn, leddf ysgwd;
Ni theflais ieir â thafl fain,
Ni fwbechais rai bychain;
Nid af yn erbyn fy nawn,
Ni rwystrais wraig gwr estrawn'.


'Myn fy nghred, pe mynegwn
I'r rhai ni wyr 'r hyn a wn,
Dir ennyd cyn torri annog,
Fy nghred, y byddud ynghrog'.



'Ymogel, tau, y magl tost,
Rhag addef 'rhawg a wyddost
Mwy no phe bai tra fai'n fau
Gowni ar gwr y genau'.

64 Y Cloc


Cynnar fodd, cain arfeddyd,
Canu'dd wyf fi can hawdd fyd
I'r dref wiw ger Rhiw Rheon
Ar gwr y graig, a'r gaer gron.
Yno, gynt ei enw a gad,
Y mae dyn a'm adwaeniad.
Hawddamor heddiw yma
Hyd yn nhyddyn y dyn da.
Beunoeth, foneddigddoeth ferch,
Y mae honno i'm hannerch.


Bryd cwsg ym, a bradw y'i caid,
Breuddwyd yw, braidd y dywaid,
A'm pen ar y gobennydd,
Acw y daw cyn y dydd
Yng ngolwg, eang eilun,
Angel bach yng ngwely bun.
Tybiaswn o'm tyb isod
Gan fy mun gynnau fy mod.
Pell oedd rhyngof, cof a'i cais,
A'i hwyneb pan ddihunais.


Och i'r cloc yn ochr y clawdd
Du ei ffriw a'm deffroawdd.
Difwyn fo'i ben a'i dafod
A'i ddwy raff iddo a'i rod,
A'i bwysau, pellennau pwl,
A'i fuarthau a'i forthwl,
A'i hwyaid yn tybiaid dydd,
A'i felinau aflonydd.
Cloc anfwyn mal clec ynfyd
Cobler brwysg, cabler ei bryd,
Cleddau eurych celwyddawg,
Cnecian ci yn cnocian cawg,
Mynychglap mewn mynachglos
Melin wyll yn malu nos.
A fu sadler, crwper crach,
Neu deiler anwadalach?
Oer ddilen ar ei ddolef
Am fy nwyn yma o nef.


Cael ydd oeddwn, coel ddiddos,
Hun o'r nef am hanner nos
Ym mhlygau hir freichiau hon,
Ymhlith Deifr ym mhleth dwyfron.
A welir mwy, alar maeth,
Wlad Eigr, ryw weledigaeth?


Eto rhed ati ar hynt,
Freuddwyd, ni'th ddwg afrwyddynt.
Gofyn i'r dyn dan aur do
A ddaw hun iddi heno
I roi golwg o'r galon,
Nith yr haul, unwaith ar hon.

65 Y Ffenestr


Cerddais o fewn cadleisiau,
Cerdd wamal fu'r mwngial mau,
Gan ystlys, dyrys diroedd,
Hundy bun, hyn o dyb oedd.
Da arganfod, dewr geinferch,
Drwy frig y llwyn er mwyn merch,
Ffyrf gariad, dygiad agerw,
Ffenestr gadarn ar ddarn dderw.


Erchais gusan, gwedd lanach,
I'r fun drwy'r dderw ffenestr fach,
Gem addwyn, oedd gam iddi,
Gomeddodd, ni fynnodd fi;
Astrus fu'r ffenestr oestraul,
Lle'i rhoed i ddwyn lleufer haul.
Ni bwy' hen o bu o hud
Ffenestr â hon un ffunud,
Dieithr hwyl, dau uthr helynt,
Yr hon ar Gaerlleon gynt
Y dôi Felwas o draserch
Drwyddi heb arswydi serch,
Cur tremynt cariad tramawr,
Gynt ger ty ferch Gogfran Gawr.
Cyd cawn fod pan fai'n odi
Hwyl am y ffenestr â hi,
Ni chefais elw fal Melwas,
Nychu'r grudd, Dduw, nacha'r gras.


Betem, fi a'm dlifem dlos,
Wyneb yn wyneb nawnos,
Heb wyl sâl, heb olau sęr,
Heb elw rhwng y ddau biler,
Mwy'r cawdd o boptu'r mur calch,
Finfin, fi a'm dyn feinfalch,
Ni allem, eurem wryd,
Gael y ddau ylfin i gyd.
Ni eill dau enau unoed
Drwy ffenestr gyfyngrestr goed,
F'angau graen, fy nghaeu o gred,
'Fengyl rhag ei chyfynged.
Ni phoened neb wrth ffenestr
Rhwng ffanugl nos a rhos restr,
Heb huno, fal y'm poenwyd,
Heb hwyl hoyw am ddyn loyw lwyd.


Torrid diawl, ffenestrawl ffau,
â phwl arf ei philerau,
Awchlwyr llid, a'i chlawr llydan,
A'i chlo a'i hallwedd achlân,
Ac a wnaeth, rheolaeth rhus,
Rhyw restr bilerau rhwystrus;
Lladd cannaid a'm lludd cynnif,
A'r llaw a'i lladdodd â llif,
Lladd dihir a'm lludd dyun,
Lluddiodd fi lle 'dd oedd y fun.
66 Y Mwdwl Gwair


Ai llai fy rhan o anhun
No lles a budd ger llys bun?
Nid hawdd godech na llechu
A glewed yw y glaw du.
Pei rhôn i'r ddôr agori
Y nos, nis llafaswn i
Rhag gwahardd bun ar ungair.
Ai gwaeth yn y mwdwl gwair?


Dawn ym dy fod yn fwdwl,
Digrifwas pengrychlas pwl.
Da fu'r gribin ewinir
Doe a'th gynullodd ar dir.
Mi a'th wisgais, maith wasgawd,
Mwyn gochl gwyrddlas uwch gwas gwawd.
Ceisiais gennyd gael cysellt,
Colomendy gwecry gwellt.
Glud y'th folaf â'm tafawd,
Gnu gwaun, da le i gnoi gwawd.


Erfai o un y'th luniwyd,
Un fath, llydan dwynpath llwyd,
Un dramgwydd ag arglwyddi
Teg, ac un artaith wyd di.
Ef a'th las â dur glas glew,
Bwrdais y weirglodd byrdew.
Yfory, sydd yty sir,
O'th lasgae, wair, y'th lusgir.
Drennydd, uwch y llanw manwair,
Dy grogi, a gwae fi, Fair!


Cymynnaf dy gorff adref
I'r nen, a'th enaid i'r nef.
Ar lun angel y'm gwely
Ddyddbrawd uwch taflawd y ty,
Yn dyfod i gnocio'r drws:
'Y mwdwl gwair, ai madws?'

67 Y Cwt Gwyddau


Fal yr oeddwn gynt noswaith,
Gwiw fu'r dyn, gwae fi o'r daith,
Gwedy dyfod i'w gwydrball
Yn lle'dd oedd gwen gymen, gall:


'Ai hir gennyd yr ydwyd?
Dyn dioddefgar, serchog wyd.'


'Fy aur, gwddost mae rhyhir,
Am baham oedd na bai hir?'


Yno y clywwn wr traglew
Yn bwrw carwnaid, llygaid llew,
Yn dwyn lluchynt i'm ymlid
Yn greulawn ac yn llawn llid,
O ddig am ei wraig ddisglair,
Un dewr cryf, myn Duw a'r crair!
Gwybuum encil rhagddaw,
Gwybu'r gwas llwyd breuddwyd braw:


'Hwyr yt felan ysbardun,
Aro fi heno fy hun.
Arfau drwg i ddigoni
Yw'r cywyddau sydd dau di.'


Cyrchais ystafell, gell gau,
Ac addurn oedd i'r gwyddau.
Meddwn i o'm ystafell:
'Ni bu rhag gofal wâl well.'
Codes hen famwydd drwynbant,
A'i phlu oedd gysgod o'i phlant;
Datod mentyll i'm deutu
Dialaeth y famaeth fu,
A'm dylud o'r wydd lud lai
A'm dinistr a'm bwrw danai;
Cares, drwg y'm cyweirwyd,
Cu aran balf-lydan lwyd.


Meddai fy chwaer ym drannoeth,
Meinir deg, â'i mwynair doeth,
Seithwaeth genti no'n cyflwr
Ni'n dau, ac no geiriau'r gwr,
Gweled hen famwydd blwydd blu,
Gogam wddw, goeg, i'm maeddu.
Bes gatai arglwyddďaeth
Gwyr Caer a'u gwaryau caeth,
Gwnawn i'r famwydd, dramgwydd dro —
Rhybuddied rhai a'i beiddio! —
Amarch i'w chorpws nawmlwydd;
Am ei hwyl yr wyl yr wydd.

68 Tri Phorthor Eiddig


Tri phorthor, dygyfor dig,
Trafferth oedd, triphorth Eiddig,
Trefnwyd hwnt i'm tra ofni,
Trwch ym gyfarfod â'r tri.
Cyntaf, plas dyungas dig,
Parthai rodd, porthor Eiddig,
Ci glew llwfrddrew llafarddrud,
Cynddrwg sôn, cynddeiriog sud;
A'r ail porthor yw'r ddôr ddig,
Wae ei chydwr, wichedig;
Trydydd, gwn beunydd benyd,
A ludd ym gael budd o'r byd,
Gwrach heinus ddolurus ddig,
Addaw dydd, ddiwyd Eiddig.
Pe cyd y nos, pe caid nef,
â dengnos, wrach ddidangnef,
Unawr, mewn gwâl chweinial chwyrn,
Ni chwsg, am nad iach esgyrn.
Cynar nychled yn cwynaw
Ei chlun, drwg ei llun, a'i llaw,
A dolur ei dau elin,
A'i phalfais yn glais, a'i glin.


Deuthum echnos, dunos dig,
Afrwyddwr, i fro Eiddig,
O radd daw, ar oddau, dioer,
Ymweled â gem wiwloer.
Carchar bardd, a mi'n cyrchu
Yn ddigyngor y ddôr ddu,
Neidiodd, mynnodd fy nodi,
Ci coch o dwlc moch i mi.
Rhoes hyr ym yn rhy sarrug,
Rhoes frath llawn yn rhawn yr hug.
Cynhiniawdd, caer gawdd, ci'r gwr,
Cabl a'm sym, cwbl o'm simwr.
Rhois hwp i'r ddôr, cogor cawg,
Dderw, hi aeth yn gynddeiriawg.
Gwaeddodd fal siarad gwyddau,
Och ym o beiddiais ei chau!
Cul awen wrid, clywn y wrach,
Coelfain oedd waeth, mewn cilfach,
Yn taeru (panid dyrys?)
Wrth wr y ty fry ar frys,
'Mae'r ddromddor yn agori,
Mae'n fawr, braich cawr, broch y ci.'


Ciliais yn swrth i'm gwrthol
I'r drws, a'r ci mws i'm ôl.
Rhodiais, ni hir syniais i,
Gan y mur, gwn ym oeri,
Hyd am y gaer loywglaer lân
I ymorol â gem eirian.
Saethais drwy'r mur, gur gywain,
Saethau serch at y ferch fain.
Saethodd hon o'i gloywfron glau
Serch i ymannerch â minnau.
Digrif oedd ym, ni'm sym serch,
Am y maenfur â meinferch.
Cwynais, mynegais fy nig,
Dihir oedd, rhag dôr Eiddig,
Damweinwr, a'i domenni,
A'i wrych gwg a'i wrach a'i gi.


Cyd gallo'r wrach, cyd golli,
A'r ddôr islaw'r côr a'r ci
Fy lluddias, glew farddwas glyn,
I dai Eiddig a'i dyddyn,
Rhydd y mae Duw yn rhoddi
Coed briglaes a maes i mi.

69 Y Wawr


Uchel yr wyf yn ochi,
Echnos y bu hirnos hi,
A bernos, medd y beirniad,
A bair gwen heb un gair gwad.
Echnos, dyn oleudlos wyl,
Wythnos fu unnos, f'annwyl.


Neithiwyr y bűm mewn uthr bwyll,
Nyf gain, gyda nef gannwyll,
Yn mynnu tâl am anhun,
Yn aml barch yn emyl bun.
Pan oedd ffyrfaf fy ngafael
A gorau 'mhwynt, gwrm ei hael,
Uchaf len, awch aflonydd,
Och wir Dduw, nacha wawr ddydd.


'Cyfod', eb y gwen lenloyw,
'Cęl hyn; wel dyna'r coel hoyw.
Deigr ynial dy garennydd,
Dos i ddiawl; wel diso ddydd.'


'Hirfun dda hwyrfain ddiell,

Hyn nid gwir; hynny neud gwell,
Lleuad a roes Duw Llywydd,
A sęr yn ei chylch y sydd.
Hyn o dodaf henw didyb,
Honno y sydd dydd o dyb.'


'Gwawr honnaid, pei gwir hynny,
Paham y cân y frân fry?'


'Pryfed y sydd yn profi,
Lluddio ei hun, ei lladd hi.'


'Mae ci dan llef y dref draw
Ag eraill yn ymguraw.'


'Coelia fanag yn agos,
Cyni a wna cwn y nos.'


'Paid â'th esgusawd wawdwas,
Pell boen a fynaig pwyll bas.
Wrth gael taith, anrhaith unrhyw,
Antur i'th ddydd, anterth yw.
Cyfod, er Crist, yn ddistaw,
Ac agor y dromddor draw.
Rhyfras camau dy ddeudroed,
Rhydaer yw'r cwn, rhed i'r coed.'


'Ochan! Nid pell y gelli,
A chynt wyf finnau no chi.
Ni'm gwyl dyn ffel, ni'm delir,
O rhan Duw, ar hyn o dir.'


'Dywaid hyn, fardd diwyd da,
Er Duw ym, or doi yma.'


'Deuaf, mi yw dy eos,
Diau, 'y nyn, o daw nos.'

70 Lladrata Merch


Lleidr i mewn diras draserch
Ymannos fűm: mynnais ferch
Llwyr fry y'm peris llerw'r fro,
Lleidr dyn, yn lledrad yno.
Gwanfardd o draserch gwenfun,
Gwae leidr drud am hud hun.
Ar y modd, gwell nog aur mâl,
Y'i cefais–och rhag gofal!


Gwedy cael, neud gwawd, i'w cwyn
Gwin a medd, gwen em addwyn,
Meddwon fuont fal meiddwyr,
Mau boen gwych, meibion a gwyr.
Cysgu gwedy, symlu sôn,
A wnaethant, bobl annoethion,
Twrf eirthgrwydr, fal torf wrthgroch,
Talm mawr, megis teulu moch.
Mawr fu amorth y porthmon.
Meddwon oeddynt o'r hynt hon.


Nid oedd feddw dyn danheddwyn,
Nid wyf lesg, nid yfai lyn.
Os meddw oeddwn, gwn gad,
Medd a'i gwyr, meddw o gariad.
Er gostwng o'r ddiflwng ddau
Y gannwyll fflamgwyr gynnau,
Hir o chwedl, fardd cenhedloyw,
Ni hunai hoen ertrai hoyw.
Fy nyn, ni hunwn innau
Er maint oedd y meddwaint mau.


Se'i meddyliais, ei cheisiaw
O'r gwâl drwg i'r gwial draw.
Cyd bai anawdd, garwgawdd gwr,
Ei chael o i wrth ei chulwr,
Mai degwch, mi a'i dygum.
Myn delw Fair fyw, dilwfr fűm.
Ni wyddiad, bryd lleuad bro,
Ei dynion ei bod yno.
Nid oedd fawr am geinwawr gynt
Ysgipio 'mhen pes gwypynt.


Od â bun ar ei hunpwynt
I gyd-gyfeddach ag wynt,
Ei rhieni, rhai anardd,
A geidw bun rhag oed â'i bardd.
Hir fydd yn eoswydd nos,
Hirun Faelgwn, ei haros.

71 Y Cleddyf


Rhyhir wyd a rhy gyflun,
Rho Duw, gledd, ar hyd y glun.
Ni ad dy lafn, hardd–drafn hy,
Gywilydd i'w gywely.
Cadwaf i di i'm deau,
Cedwid Duw y ceidwad tau.
Mau gorodyn, mygr ydwyd
Meistr wyf a'm grymuster wyd.
Gwr fy myd ni gar fy myw,
Gwrdd ei rwystr, gerddor ystryw,
Tawedog, enwog anwych,
Tew ei ddrwg, mul wg mal ych.
Gweithiau y tau, amod da,
Ac weithiau y'm bygythia.
Tra'th feddwyf, angerddrwyf gwrdd,
Er ei fygwth, arf agwrdd,
Oerfel uwch ben ei wely,
A phoeth fo dy feistr o ffy
Nac ar farch, dibarch dybiaw,
Nac ar draed er y gwr draw,
Oni'm pair rhag deuair dig
Cosb i'th ddydd, casbeth Eiddig.
Catgno i gilio gelyn,
Cyrseus, cneifiwr dwyweus dyn,
Coethaf cledren adaf wyd;
Collaist rwd, callestr ydwyd.
Coelfain brain brwydr, treiglgrwydr trin,
Cilied Deifr, caled deufin,
Cyfylfin cae ufelfellt,
Cadwaf dydy i'th dy dellt.
Cwysgar wyd rhag esgar ym,
Cain loywgledd canoliglym.


Llym arf grym, llyma f'aur gred,
Lle y'th roddaf llaw a thrwydded:
Rhag bod yng nghastell celli
Rhyw gud nos i'n rhagod ni,
Rhwysg mab o fuarth baban,
Rhed, y dur, fal rhod o dân.
Na chęl, ysgwyd Guhelyn,
Ar fy llaw o daw y dyn.
Glew sidell, gloyw osodau,
Rhyfel wyd, y metel mau.
Hwn a'm ceidw rhag direidwyr,
Ehuta cledd, wyr Hawt–clyr.
Ar herw byddaf ar hirwyl
Dan y gwydd, mi a'm dyn gwyl.
Nid ansyberw ym herwa
Os eirch dyn, nid o serch da.
Talm o'r tylwyth a'm diaur,
Tew fy ôl ger ty fy aur.
Ciliawdr nid wyf, wyf Ofydd,
Calon serchog syberw fydd.

72 Merch yn Edliw ei Lyfrdra


'Yr adlaesferch, wawr dlosfain,
Wrm ael, a wisg aur a main,
Ystyr, Eigr, ystôr awgrym,
Is dail aur, a oes dâl ym,
Ymliw glân o amlwg lais,
Em o bryd, am a brydais
I'th loywliw, iaith oleulawn,
A'th lun gwych, wyth liwne gwawn'.


'Hir y'th faddeuaf, Ddafydd.
Hurtiwyd serch. Hort i ti sydd
O fod, rhyw gydnabod rhus,
Yn rhylwfr, enw rheolus.
Ni'm caiff innau, noddiau Naf,
Uthr wyd, wr, eithr y dewraf'.


'Cwfl manwallt cyfliw manwawn,
Cam a wnai, ddyn cymen iawn.
Cyd bwyf was, cyweithas coeth,
Llwfr yn nhrin, llawfron rhynoeth,
Nid gwas, lle bo gwyrddlas gwydd,
Llwfr wyf ar waith llyfr Ofydd.
A hefyd, Eigr gyhafal,
Ystyr di, ys di-wyr dâl,
Neitio cur, nad da caru
Gwas dewr fyth, a gwst oer fu,
Rhag bod, nid cydnabod cain,
Rhyfelwr yn rhy filain.
Rhinwyllt fydd a rhy anwar.
Rhyfel ac oerfel a gâr.
O chlyw fod, catorfod tyn,
Brwydr yng ngwlad Ffrainc neu Brydyn,
Antur gwrdd, hwnt ar gerdded
Yn wr rhif yno y rhed.
O daw, perhôn a diainc,
Odd yno, medr ffrwyno Ffrainc,
Creithiog fydd, saethydd a'i sathr,
A chreulon, ddyn wych rylathr.
Mwy y câr ei drymbar draw
A'i gledd–gwae a goel iddaw!–
A mael dur a mul darian
A march o lu no merch lân.
Ni'th gęl pan ddęl poen ddolef,
Ni'th gais eithr i drais o'r dref.


Minnau â'r geiriau gorhoyw,
Pe'th gawn, liw eglurwawn gloyw,
Da gwn, trwsiwn wawd trasyth,
Degle, ferch, dy gelu fyth.


Perhôn ym gael, gafael gaeth,
Deifr un hoen, dwy frenhiniaeth,
Deune'r haul, nid awn er hyn,
Wythliw dydd, o'th loyw dyddyn'.

73 Trafferth mewn Tafarn


Deuthum i ddinas dethol
A'm hardd wreang i'm hôl.
Cain hoywdraul, lle cwyn hydrum,
Cymryd, balch o febyd fűm,
Llety, urddedig ddigawn,
Cyffredin, a gwin a gawn.
Canfod rhiain addfeindeg
Yn y ty, f'un enaid teg.
Bwrw yn llwyr, liw haul dwyrain,
Fy mryd ar wyn fy myd main,
Prynu rhost, nid er bostiaw,
A gwin drud, mi a gwen draw.
Gwaraeau a gâr gwyr ieuainc,
Galw ar fun, ddyn gwyl, i'r fainc,
A gwledd am anrhydedd mawr
A wnaethom, mwy no neithiawr.
Hustyng, bűm wr hy astud,
Dioer yw hyn, deuair o hud.
Gwedy myned, dynged yng,
Y rhwystr gwedy'r hustyng,
Gwneuthur, ni bu segur serch,
Amod dyfod at hoywferch
Pan elai y minteioedd
I gysgu; bun aelddu oedd.


Gwedy cysgu, tru tremyn,
O bawb onid mi a bun,
Ceisiais yn hyfedr fedru
Ar wely'r ferch, alar fu.
Cefais, pan soniais yna,
Gwymp dig, nid oedd gampau da.
Briwais, ni neidiais yn iach,
Y grimog, a gwae'r omach,
Wrth ystlys, ar waith ostler,
Ystôl groch ffôl, goruwch ffęr.
Trewais, drwg fydd tra awydd,
Lle y'm rhoed, heb un llam rhwydd,
Mynych dwyll amwyll ymwrdd,
Fy nhalcen wrth ben y bwrdd,
Lle'r oedd cawg yrhawg yn rhydd
A llafar badell efydd.
Syrthio o'r bwrdd, dragwrdd drefn,
A'r ddeudrestl a'r holl ddodrefn.
Rhoi diasbad o'r badell,
I'm hôl y'i clywid ymhell.
Gweiddi, gwr gorwag oeddwn,
O'r cawg, a chyfarth o'r cwn.


Haws codi, drygioni drud,
Yn drwsgl nog yn dra esgud.
Dyfod, bu chwedl edifar,
I fyny, Cymry a'm câr,
Lle'r oedd garllaw muroedd mawr
Drisais mewn gwely drewsawr
Yn trafferth am eu triphac,
Hicin a Siencin a Siac.
Syganai'r delff soeg enau,
Aruthr o ddig, wrth y ddau:


'Mae Cymro, taer gyffro twyll,
Yn rhodio yma'n rhydwyll;
Lleidr yw ef, os goddefwn,
'Mogelwch, cedwch rhag hwn.'


Codi o'r ostler niferoedd
I gyd, a chwedl dybryd oedd.
Gygus oeddynt i'm gogylch
Bob naw i'm ceisiaw o'm cylch,
A minnau, hagr wyniau hyll,
Yn tewi yn y tywyll.
Gweddďais, nid gwedd eofn,
Dan gęl, megis dyn ag ofn,
Ac o nerth gweddi gerth gu,
Ac o ras y gwir Iesu,
Cael i minnau, cwlm anun,
Heb sâl, fy henwal fy hun.
Dihengais i, da yng saint,
I Dduw'r archaf faddeuaint.

74 Sarhau ei Was


Gwyl Bedr y bűm yn edrych
Yn Rhosyr, lle aml gwyr gwych,
Ar drwsiad pobl, aur drysor,
A gallu Môn gerllaw môr.
Yno'dd oedd, haul Wynedd yw,
Yn danrhwysg, Enid unrhyw,
Gwenddyn mynyglgrwn gwynddoeth,
A gwych oedd a gwiw a choeth,
Ac unsut, fy nyn geinsyw,
Yn y ffair â delw Fair fyw,
A'r byd, am ei gwynbryd gwiw,
Ar ei hôl, eiry ei heiliw.
Rhyfedd fu gan y lluoedd,
Rhodd o nef, y rhyw ddyn oedd.
Minnau o'm clwyf a'm anhun
Yn wylo byth yn ôl bun.
A fu was a fai faswach
Ei fryd didwyll a'i bwyll bach?
Ar gyfair y gofl ddiell,
Od gwn, y byddwn o bell,
Yny aeth, dyniolaeth dwys,
I loywlofft faen oleulwys.


Troes ugain i'm traws ogylch
O'm cyd-wtreswyr i'm cylch.
Prid i'r unben a'i chwennych,
Profais y gwin, prif was gwych;
Prynais, gwaith ni bu fodlawn,
Ar naid ddau alwynaid lawn.


'Dos, was, o'r mygr gwmpas mau,
Dwg hyn i'r ferch deg gynnau.
Rhed hyd ei chlust a hustyng
I'w thwf tëyrnaidd, a thyng,
Mwyaf morwyn yng Ngwynedd
A garaf yw, 'm Gwr a fedd.
Dyfydd hyd ei hystafell,
Dywaid, "Henffych, ddyn wych, well!"
Llym iawnrhwydd, "Llyma anrheg
I ti, yr addfwynddyn teg." '


'Pond cyffredin y dinas?
Paham na'th adwaenam, was?
Pell ynfyd yw, pwyll anfoes,
Pei rhôn, dywaid pwy a'i rhoes.'


'Dafydd, awenydd wiwnwyf,
Lwytu wr, a'i latai wyf.
Clod yng Ngwynedd a eddyw;
Clywwch ef; fal sain cloch yw.'


'Cyfodwch er pum harcholl!
A maeddwch ef! Mae'dd ywch oll?'


Cael y claerwin o'r dinas
A'i dywallt yng ngwallt fy ngwas.
Amarch oedd hynny ymy,
Amorth Mair i'm hoywgrair hy.
Os o brudd y'm gwarthruddiawdd
Yngod, cyfadnabod cawdd,
Asur a chadas gasul,
Eisiau gwin ar ei min mul!
Bei gwypwn, gwpl diletpai,
Madog Hir, fy myd, a'i câi.
Hwyr y'i gwnâi, hagr westai hy,
Einion Dot yn un diawty.
Hi a wyl, bryd hoyw wylan,
Ei chlust â'i llygad achlân
Fyth weithion pan anfonwyf
I'r fun annyun o nwyf
Llonaid llwy o ddwfr llinagr
Yn anrheg, bid teg, bid hagr.

75 Serch fel Ysgyfarnog


Llyma bwynt, lle mae y bydd,
Llyfr canon llafur cynydd:
Helynt glastorch a hwyliai,
Hydr drafferth, o'r berth y bai,
Glustir lwyd, ger glasterw lwyn,
Gernfraith, gyflymdaith lamdwyn.
Gofuned hued yw hi,
Gwlm cytgerdd, golam coetgi,
Gwrwraig a wnâi ar glai glan
Gyhyrwayw i gi hwyrwan,
Genfer gwta eginfwyd,
Gwn dynghedfen lawdrwen lwyd.
Sorod wlydd newydd uwch nant,
Socas welltblas wylltblant,
Llodraid o garth mewn llwydrew,
Lledfegin twyn eithin tew,
Herwraig ar lain adain yd,
Her, gethinfer gath ynfyd!
Mynyddig wâl, benial byllt,
Mynnen aelodwen lwydwyllt,
Esgud o'i phlas ar lasrew,
Ysgwd o flaen esgid flew.


Emlyner hi, ymlynynt,
Ymlaen gwyr, ymlöyn gwynt,
O hynt i hynt i hwntian,
O goed i faes gloywlaes glân,
O blas cynnil bwygilydd,
O blith y gwlith i bleth gwlydd,
Ysgafn fryd, ac yd a gâr.
Os gad Duw, esgud daear,
Ys gwyr fwriad anwadal,
Ysgwd gwyllt, esgud o'i gwâl,
Esgair cath, nyth dwynpath nod,
Ysgor ddofn, ys gwyr ddyfod
I'r tyddyn, lle tywyn tes,
Or câi fwyd, y cyfodes.


Anhunawg am fun hynwyf,
Anffyrf ddysg, unffurf ydd wyf:
Fy nadl am fy eneidyn,
Fy nysg fu garu fy nyn,
Fy meddwl pan fűm eiddig,
Fy mwriad tost, fy mryd dig,
O gof awdl a gyfodes,
O'r llwyn y buasai er lles,
O wely serch, ddyn wiwloyw,
O winllawr deheuwawr hoyw.
Heliais ef, helwas ofer,
I hwylio serch, hoywliw sęr,
I wrth deg, araith digiaw,
Ei thâl, o bedryfal draw.
By les ym (ni bu laesach)
Boen erioed heb un awr iach?
Rhedodd ei serch, ddoethferch ddig,
Rhadau Duw, rhediad ewig,
Led y ddeudroed, lid ddodrefn,
Leidr, o'i chof i'w le drachefn.
Ni thrig o'i fodd, lle rhoddwyf,
Eithr lle bu yn clymu clwyf,
Ni lecha yng ngolychwyd,
Nid â'n rhwym mewn dwyen rhwyd.
Ni wyr unne eiry llannerch,
Y meddwl drud, symud serch;
Heiniar ofn, hyn o ryfel,
Hwn nid â, o'r henw y dęl,
Hwyl ynfyd ei fryd, o'i fro,
Hawl y dyn, hoelied yno.


Gwlad Wgon, fawr union faich,
Gleddyfrudd, gloyw ei ddeufraich,
Heno ni chaf, glaf glwyfaw,
Huno drem oni fwyf draw.
Hirddig a wnaeth hardd ei gne,
Henlleidr unrhyw â hunlle.
76 Anwadalrwydd


Ysgyfarnog yng nghartref
A fag rhai oni fo cref.
Cath hirdaith, gethinfraith gern,
Cod lwydwyllt coedwal adwern,
Crair hy bron a ffy ar ffysg,
Craig, byhwmanwraig manwrysg,
Dieithr fydd er ei meithring.
Ar ir drum gwrthallt y dring.


Gwiwair o châi frig gwial,
Gwaeth oedd i'r tadmaeth y tâl:
Brad hy mewn llety lletollt,
Bradog darf, belltarf â bollt.


Astud air, ys doud erof,
Ystid goch, os da dy gof,
Boned yr hydd gelltydd gil,
Ban oeddud gynt banw eiddil.
Iwrch drythyll, hely, deilgyll hawl,
Erchwys hydr iyrchus hudawl.
Rhywyllt ei ruthr mewn rhewynt,
Rhyfain hydd rhy fuan hynt.
Rhydain iwrch rhedai yn Iâl,
Rhy dinwyn lwdn rhedynwal.


Edifar fydd eu dofi:
Dan frig gwydd y trig y tri.
Dwfn helynt a lletgynt llid,
Dirmygyn' dir y'u megid.


Felly y gwnaeth, gaeth gariad,
Gar fy mron, goryw fy mrad,
â myfi, cywely call,
Unne geirw, neu ag arall.
Bannau'r haul leufer loywfys,
Bliant uwch y grisiant grys
A phân wisg, aur ei deurudd,
Mair wyl, o ystlys Môr Rudd,
Megais hon, dirmygus swydd,
Tôn aml, o oed deunawmlwydd.
Lluniais gerdd a dillynion
I geisio dyhuddo hon.
Rhin gall, er hynny i gyd,
Anolo fu'r anwylyd.

77 Y Mab Maeth


Mau gariad mewn magwriaeth,
Mab rhyfygus, moethus, maeth,
Mireinfab mawr ei anfoes,
Meinferch mewn traserch a'm troes.
Mab ym heddiw, nid gwiw gwad,
Maeth, rhag hiraeth, yw cariad.
Mawr o ddrwg, cilwg culi,
A wnaeth fy mab maeth i mi:
Mynnu ei ddwyn er mwyn merch,
Mynnu gorllwyn ymannerch;
Mynnu rhodio mewn rhedyn,
Mynnu ei ddenu o ddyn;
Mae'n rhyfawr ym 'y nhrafael,
Mynnu ei gelu a'i gael;
Meinir a wyr fy mynud,
Mynnu gwynfydu yn fud.
Megais, neur guriais, gariad
Mal mab maeth, brydyddiaeth brad.
Meithrin chwileryn gwyn gwâr
Ym mynwes, o serch meinwar,
Oedd ym fagu, llysu lles,
Mebyn meinwyn i'm mynwes.


Mab rhyfedd, mi a'i profaf,
Ei foes yw hwn fis o haf:
Ni myn cariad ei wadu
Na'i ddangos i lios lu;
Ni thry o ardal calon,
Ni thrig eithr ym mrig 'y mron;
Ni ddichon ef heddychawd,
Ni westety gwedy gwawd;
Nid eisteddai pe bai Bab,
Ni orwedd f'anniweirfab;
Ni saif, ni orsaif eurserch,
Natur gwyl, am orchwyl merch.


Tyfais ei chlod hyd Deifi,
Tadmaeth serch y ferch wyf fi.
Mab anodd, mi a boenais,
Ei feithring yw fyth rhwng f'ais.
Aflonydd yw fo 'leni,
Y mab a fegais i mi.
Megais, dyn wyf cynnwyf, cain,
Anwylfab y fun aelfain.
Bychan, em eirian, i mi,
Budd, er magu mab iddi.
Oerfel, serchowgrwydd eurfaeth,
I'r ferch a'i rhoddes ar faeth,
Oni thâl, llawn ofal llu,
Mau fygwth, am ei fagu.
78 Serch Dirgel


Myfi y sydd, deunydd dig,
Leidr serch dirgeledig.


Gwylltion adar, glaear glod,
Anian uthr, a wna nythod.
A sef y gwnân' dan y dail
Ym mhlethiad gwead gwiail
Yn lle diarffordd rhag llu
O fygr synnwyr i fagu.
Yn unsud, yn un ansawdd
â hynny, cywely cawdd,
Cariad a wnaeth, caeth yw'r cof,
Annoethineb, nyth ynof,
A'm dwy ais, myn Duw Iesu,
Fyth a'i cudd. Gwaith heb fudd fu.
Gwial ydynt, hynt hyfriw,
Dau ystlys gwas destlus gwiw.
Canu a wnaf cyd cwynwyf
A'm calon fyth yw nyth nwyf.
Ni chair serch y loywferch lân,
Ni thwyllir o'r nyth allan.


Ni fedr Eiddig anfadwr
Ar y nyth hwn, arwnoeth wr,
A mi ni'm dawr, gawr geirsyth,
Cyn nis metro efô fyth.
Dilys gennyf, fardd dilyth,
Yn wir, nas gwybyddir byth.
Onis pair, drud lestair drwg,
Twrn alaw, tirion olwg,
Meddwl calon a bron brudd
Drwy amgylch draw a ymgudd.


Ple bynnag, ddinag ddeunwyf,
Tyb oedd, yn y ty y bwyf,
Y drem goris ael dramain
A'm cenfydd, cof hafddydd cain.
Llw beiddiad, o'r lle byddwyf
Minnau a'i gwyl, engyl wyf,
Ei chwerthiniad, gariad gael,
A'i mynud ar ei meinael.
Newidio drem ni wadaf
â'm chwaer. Dim amgen ni chaf.


Ef aeth ei drem, gem Gymru,
A'i chariad, ehediad hy,
Dyn fain wengain ewyngorff,
Drwy 'mron a'm calon a'm corff

Mal ydd âi, gwiw ddifai gofl,
Gronsaeth trwy ysgub grinsofl.


Ni ad Beuno, tro tremyn,
Abad hael, fyth wybod hyn.
Gymro dig, heb Gymru dir
Y byddaf o gwybyddir.

79 Y Breuddwyd


Fal yr oeddwn, gwn heb gęl,
Yn dargwsg mewn lle dirgel,
Gwelais ar glais dichlais dydd
Breuddwyd ar ael boreuddydd.
Tybiwn fy mod yn rhodiaw
A llu bytheiaid i'm llaw,
Ac yn cerdded y gwledydd
A'r tir adwaenwn hyd dydd,
Ac i fforest yn gestwng,
Teg blas, nid ty taeog blwng.
Gollyngwn i yn ddioed,
Debygwn, y cwn i'r coed.
Cynydd da, iawn ddawn ddifri,
Ar a dybiwn oeddwn i.
Clywwn oriau, lleisiau llid,
Canu'n aml, cwn yn ymlid.
Ewig wen goruwch llennyrch
A welwn, carwn y cyrch,
A rhawd fytheiaid ar hynt
Yn ei hôl, iawn eu helynt.
Cyrchu'r allt yn ddiwalltrum
A thros ddwy esgair a thrum,
A thrachefn dros y cefnydd
Ar hynt un helynt â hydd,
A dyfod wedy'i dofi,
A minnau'n ddig, i'm nawdd i.
Dwyffroen noeth—deffroi wneuthum.
wr glwth, yn y bwth y bűm.


Cyrchais gongl ar ddehonglydd
Drannoeth fal y doeth y dydd.
Cefais hynafgwraig gyfiawn
Pan oedd ddydd yn ddedwydd iawn.
Addef a wneuthum iddi,
Goel nos, fal y gwelwn i.


'Rho Duw, wraig gall, pe gallud
Rhyw derfyn ar hyn o hud,
Ni chyfflybwn, gwn ganclwyf,
Neb â thi. Anobaith wyf '.


'Da beth, y diobeithiwr,
Yw dy freuddwyd, od wyd wr:
Y cwn heb gęl a welud
I'th law, pe gwypud iaith lud,
Dy hwylwyr, diau helynt,
Dy lateion eon ynt,
A'r ewig wen unbennes
A garud ti, hoen geirw tes.
Diau yw hyn y daw hi
I'th nawdd, a Duw i'th noddi'.

80 Y Ffwl a'i Gysgod


Un agwedd, oferedd fu,
Oerni cur, yr wy'n caru
â'r ffôl yn ymlid ar ffyrdd
Ei gysgod trwy goed gwisgwyrdd.
Parabl mab a fydd trabalch;
Cyd bo cynt no'r gwynt neu'r gwalch,
Naws dig, ni bydd nes y daw,
Barn hen oedd, byrnhawn iddaw.
Brwysg feddwl, braisg gyfaddas,
Byr ei glod, no'r bore glas.
Nid â ei gysgod, a dau,
O'i ymyl yn ei amau.


Un foddion, anufyddoed,
Wyf â hwn, mau ofwy hoed;
Minnau sydd, meinwas oeddwn,
Mawr o hud, myn Mair, yw hwn,
Yn nychu yn fain achul
O serch yr addfeinferch ful.
Gwreiddiodd cariad goreuddyn;
Glud i'm deheufron y glyn,
Lliw eiry mân uwch llaw'r mynydd,
Lloer deg, er ys llawer dydd.
Hon a wasg fy ngrudd glasgrych;
Heno nid nes, hoywnod nych,
Cael meddwl rhiain feinir,
No'r dydd cyntaf o'r haf hir,
Mwy no'r ffôl ar ôl yr ôd,
O'i gwsg am ddal ei gysgod.


Diamynedd y'm gwneddyw,
Diriaid ym diweiried yw,
Ni symud mynud meinir
Na'i gwęn er celwydd na gwir,
Mynog wedd, mwyn yw a gwiw,
Mwy no delw, manod eiliw.
Ni'm cymer i fy rhiain,
Ni'm gwrthyd f'anwylyd fain.
Ni'm lludd meinwar i'w charu,
Ni'm lladd ar unwaith em llu.
Ond o'm gwyl gwen gymheniaith,
Degau chwimp, yn digio chwaith,
Cael a wnaf, er celu nwyf,
Cusan yr awr y ceisiwyf.
A glas chwerthin, gwedd hinon,
Gwyngen hawdd, a gawn gan hon.
Ped fai Ddoethion, wirion wedd,
Rhufain, llyna beth rhyfedd,
Yn ceisiaw, alaw eilun,
Nychu yr wyf, ni châi'r un
Adnabod, nod anniben,
O nawd gwir anwydau gwen.
Ni wn pa un, fun feinir,
Yw hyn, lliw gwyn, yn lle gwir,
Ai gwatwar, cynnar y cad,
Am wir gur, ai mawr gariad.


Degau ddadl, digio 'dd ydwyf;
Da bychan ym, dibech nwyf,
Dwyn hirnych, dyn gwych ei gwedd,
Dwyoes, a marw o'r diwedd.
81 Saethu'r Ferch


Gweywyr, cyfeddachwyr cof,
A â'n wân trywan trwof,
Cynt no hwyl i gan ddwylaw
Y pilwrn drwy'r brwynswrn draw
Rhag mor derrwyn gynhwynawl
Y gwrthyd fy myd fy mawl.


Saeth awchlem wyllt syth wychloes
Dan ben ei bron gron yn groes
Drwy na thorro, tro treiglfrys,
Na'r croen nac unpwyth o'r crys.
Bach haearn gafaelgarn gael
Dan ddwyen y dyn dduael:
Uchel y rhof fy llawnllef,
'Och' fwy nog 'och fi' nac 'ef'!
Taro ei phen, cledren clod,
â gisarn ar un gosod:
Rhydraws yw a'i gwarafun;
Wb, gwae fi, ai byw gwiw fun?


Os marw fydd, ys mawr wae fi,
Y gwiwddyn pefr o'm gweddi.
Rhag mor anawdd, drymgawdd dro,
Ei hennill, hoedl i honno,
Dewisaf oedd, gyoedd ged,
Ei dianc rhag ei däed.
82 Cystudd Cariad


Curiodd anwadal galon,
Cariad a wnaeth brad i'm bron.
Gynt yr oeddwn, gwn ganclwyf,
Yn oed ieuenctyd a nwyf,
Yn ddilesg, yn ddiddolur,
Yn ddeiliad cariad y cur,
Yn ddenwr gwawd, yn ddinych,
Yn dda'r oed ac yn ddewr wych,
Yn lluniwr berw oferwaith,
Yn llawen iawn, yn llawn iaith,
Yn ddogn o bwynt, yn ddigardd,
Yn ddigri, yn heini'n hardd.
Ac weithian, mae'n fuan fâr,
Edwi 'ddwyf, adwedd afar.
Darfu'r rhyfig a'm digiawdd,
Darfu'r corff, neud arfer cawdd,
Darfu'n llwyr derfyn y llais
A'r campau—dygn y cwympais.
Darfu'r awen am wenferch,
Darfu'r sôn am darfwr serch.


Ni chyfyd ynof, cof cerdd,
Gyngyd llawen nac angerdd,
Na sôn diddan amdanun',
Na serch byth, onis eirch bun.
83 Cusan


Hawddamawr, ddeulawr ddilyth,
Haeddai fawl, i heddiw fyth,
Yn rhagorol, dwyol daith,
Rhag doe neu echdoe nychdaith.
Nid oedd debig, Ffrengig ffriw,
Dyhuddiant doe i heddiw.
Nid un wawd, neud anwadal,
Heddiw â doe, hoywdda dâl.
Ie, Dduw Dad, a ddaw dydd
Unlliw â heddiw hoywddydd?
Heddiw y cefais hoywddawn,
Her i ddoe, hwyr yw ei ddawn.


Cefais werth, gwnaeth ym chwerthin,
Canswllt a morc, cwnsallt min.
Cusan fu ym (cyson wyf fi)
Cain Luned, can oleuni.
Celennig lerw ddierwin,
Clyw, er Mair, clo ar y min.
Ceidw ynof serch y ferch fad,
Coel mawr gur, cwlm ar gariad.
Cof a ddaw ynof i'w ddwyn,
Ciried mawr, cariad morwyn.
Coron am ganon genau,
Caerfyrddin cylch y min mau.
Cain bacs min diorwacserch,
Cwlm hardd rhwng meinfardd a merch.
Cynneddf hwn neb niw cennyw,
Cynnadl dau anadl, da yw.
Cefais, ac wi o'r cyfoeth,
Corodyn min dyn mwyn, doeth.
Cryf wyf o'i gael yn ael nod,
Crair min disglair mwyn dwysglod.
Criaf ei wawd, ddidlawd ddadl,
Crynais gan y croyw anadl.
Cwlm cariad mewn tabliad dwbl,
Cwmpasgaer min campusgwbl.


Cyd cefais, ddidrais ddwydrin,
Heiniar mawl, hwn ar 'y min,
Trysor ym yw, trisawr męl,
Teiroch ym os caiff Turel,
Ac os caiff hefyd, bryd brau,
Mursen fyth, mawrson fwythau.
Ni bu ddrwg, ei gwg a gaf,
Lai no dwrn Luned arnaf.


Inseiliodd a haeddodd hi,
Mul oeddwn, fy mawl iddi.
Ni ddaw o'm tafawd wawdair
Mwy er merch, berw serch a bair,
Eithr a ddęl, uthrwedd wylan,
Ar fy nghred, i Luned lân.
Eiddun anadl cariadloes,
A Dduw, mwy a ddaw i'm oes
Y rhyw ddydd, heulwenddydd wiw,
Am hoywddyn, ym â heddiw?
84 Englynion y Cusan


Cusan hoen huan henhäu—yn brudd
Ym a'm lludd am em llu;
Clod les datod, lwys deutu,
Clo ar fin dyn claear fu.


Ban haeddais ei gael, bonheddig—a gais,
Gusan da cadwedig,
Bűm ddedwydd, tragywydd trig,
Benfar hoedl bun fawrhydig.


Dawn a'i tröes ym, dyn trwyadl—a'i rhoes,
Rhysedd teg heb gynnadl,

Dywynnig urddedig ddadl,
Diwenydd rwym dau anadl.


Gwn awdliaith ddysgraith weddusgroyw—i'm rhodd
Gwell no rhuddaur otoyw;

Gynhadlwr min haeddwin hoyw,
Geneudlws bun ganeidloyw.
85 Y Gal


Rho Duw gal, rhaid yw gwyliaw
Arnad â llygad a llaw
Am hyn o hawl, pawl pensyth,
Yn amgenach bellach byth.
Rhwyd adain cont, rhaid ydiw
Rhag cwyn rhoi ffrwyn yn dy ffriw
I'th atal fal na'th dditier
Eilwaith, clyw anobaith clęr.


Casaf rholbren wyd gennyf,
Corn cod, na chyfod na chwyf,
Calennig gwragedd-da Cred,
Cylorffon ceuol arffed,
Ystum llindag, ceiliagwydd
Yn cysgu yn ei blu blwydd,
Paeledwlyb wddw paladflith,
Pen darn imp, paid â'th chwimp chwith,
Pyles gam, pawl ysgymun,
Piler bôn dau hanner bun,
Pen môr-lysywen den doll,
Pwl argae fal pawl irgoll.
Hwy wyd na morddwyd mawrddyn,
Hirnos herwa, gannos gyn,
Taradr fal paladr y post,
Benlledr a elwir bonllost.
Trosol wyd a bair traserch,
Clohigin clawr moeldin merch.
Chwibol yn dy siôl y sydd,
Chwibanogl gnuchio beunydd.
Y mae llygad i'th iaden
A wyl pob gwreignith yn wen.
Pestel crwn, gwn ar gynnydd,
Purdan ar gont fechan fydd,
Tobren arffed merchedau,
Tafod cloch yw'r tyfiad clau,
Cibyn dwl, ceibiai dylwyth,
Croen dagell, ffroen dwygaill ffrwyth.
Llodraid wyd o anlladrwydd,
Lledr d'wddw, llun asgwrn gwddw gwydd,
Hwyl druth oll, hwl drythyllwg,
Hoel drws a bair hawl a drwg.


Ystyr fod gwrit a thitmant,
Ostwng dy ben, planbren plant.
Ys anodd dy gysoni,
Ysgwd oer, dioer gwae di!
Aml yw cerydd i'th unben,
Amlwg yw'r drwg drwy dy ben.
86 Dyddgu


Ieuan, iôr gwaywdan gwiwdad,
Iawnfab Gruffudd, cythrudd cad,
Fab Llywelyn, wyn wingaer,
Llwyd, unben wyd, iawnben aer,
Y nos arall, naws arial,
Y bűm i'th dy. Bo maith dâl.
Nid hawdd er hyn hyd heddiw,
Hoen wymp, ym gaffael hun wiw.
Dy aur a gawn rhadlawn rhydd,
Dy loyw win, dy lawenydd,
Dy fedd glas, difaddau i glęr,
Dy fragod du ei friger.


Dy ferch, gwn na ordderchai,
Feinwen deg, o'th faenwyn dai.
Ni chysgais, ni weais wawd,
Hun na'i dryll, heiniau drallawd.
Duw lwyd,—pwy a'm dilidia?—
Dim yn fy nghalon nid â
Eithr ei chariad taladwy.
O rhoid ym oll, ai rhaid mwy?
Ni'm câr hon. Neu'm curia haint.
Ni'm gad hun o'm gad henaint.


Rhyfedd gan Ddoethion Rhufain
Rhyfedded pryd fy myd main.
Gwynnach yw nog eiry gwanwyn.
Gweddw wyf o serch y ferch fwyn.
Gwyn yw'r tâl dan wialen,
Du yw'r gwallt, diwair yw gwen.
Duach yw'r gwallt, diochr gwydd,
No mwyalch neu gae mywydd.
Gwynder disathr ar lathrgnawd
Yn duo'r gwallt, iawnder gwawd.


Nid annhebig, ddiddig ddydd,
Modd ei phryd, medd ei phrydydd,
I'r ferch hygar a garawdd
Y milwr gynt, mau lwyr gawdd,
Peredur, ddwysgur ddisgwyl,
Fab Efrog, gwrdd farchog gwyl,
Pan oedd yn edrych, wych wawl,
Yn yr eiry, iôn eryrawl,
Llen asur, ger llwyn Esyllt,
Llwybr balch, lle buasai'r gwalch gwyllt
Yn lladd, heb neb a'i lluddiai,
Mwyalch, morwyn falch ar fai.
Yno'r oedd iawn arwyddion–
Pand Duw a'i tâl?–peintiad hon:
Mewn eiry gogyfuwch luwch lwyth
Modd ei thâl, medd ei thylwyth.
Asgell y fwyalch esgud
Megis ei hael. Megais hud.
Gwaed yr edn gwedy r'odi,
Gradd haul, mal ei gruddiau hi.
Felly mae, eurgae organ,
Dyddgu a'r gwallt gloywddu glân.


Beirniad fűm gynt hynt hyntiaw.
Barned rhawd o'r beirniaid draw
Ai hywaith, fy nihewyd,
Ymy fy myw am fy myd.
87 Caru Merch Fonheddig


Dyddgu ddiwaradwyddgamp,
Fy nghariad, oleuad lamp,
Anlladrwydd, dioer, yn lledrad
A fu ymy fry o frad.
Arglwyddes eiry ei gloywddaint,
Dy garu fu haeddu haint.


Nid wyf wr ag nid â fyth
I geisio merch naf gwaywsyth.
Rhy uchel, medd rhai, uchod
Y dringais pan gludais glod.
Hyder a wna dringhedydd.
Hydr y dring fal gwerling gwydd
Oni ddęl, hyn a ddyly,
Bob ychydig i'w frig fry.
Oddyna y bydd anawdd
Disgynnu rhag haeddu cawdd.
Caf fy ngalw, gwr salw ei swydd,
Coffa lwybr, y cyff'lybrwydd.


Saethydd a fwrw pob sothach,
Heb y nod â heibio'n iach,
Ac ergyd hefyd difai
Yn y nod, a iawn a wnâi.
Ergyd damwain, rieinfun,
O gant oedd ddyfod ag un.
Ergyd damwain, fun feinael,
Em deg wyl, ymy dy gael.


Llongwyr pan gân' ollyngwynt,
Lle gwnân' dan hwntian dwyn hynt,
Nid oedd fodfedd, salwedd som,
O ben ystyllen dollom,
Rhwyfwyr, merinwyr anoeth,
Rhyngthyn' a'r anoddun noeth.
Ac i'r lan ar ddiwanfa
Y deuan', darogan da.


Ac am hynny, gem honnaid,
Nid drwg fy ngobaith, nid rhaid.
Ef ry aill, ddyn eiry peilliw,
Ym dy gael, wineuael wiw.
Ofer oll, ef ry allai
Na'th gawn. Gwyn ei fyd a'th gâi.


Oni'th gaf er cerdd erddrym
Ddidranc, ddyn ieuanc ddawn, ym,
Mi a'th gaf, addwyn wyneb,
Fy nyn, pryd na'th fynno neb.

88 Gwahodd Dyddgu


Dyn cannaid doniog gynneddf,
Dyddgu â'r gwallt lliwddu lleddf,
Dy wahawdd, cawddnawdd cuddnwyf,
I ddôl Mynafon ydd wyf.
Nid gwahodd gwyw a'th gydfydd,
Nid gwahodd glwth i'i fwth fydd.
Nid gorchwy elw medelwas,
Nid o yd, gloyw amyd glas.
Nid tam o ginio amaeth,
Ac nid ynyd ciglyd caeth.
Nid gofwy Sais â'i gyfaillt,
Nid neithior arf barf mab aillt.
Nid addawaf, da ddiwedd,
I'm aur ond eos a medd;

Eos gefnllwyd ysgafnllef
A bronfraith ddigrifiaith gref,
Ygus dwf, ac ystafell
O fedw ir; a fu dy well?
Tra fôm allan dan y dail
Ein ceinnerth fedw a'n cynnail.
Llofft i'r adar i chwarae,
Llwyn mwyn, llyna'r llun y mae.
Nawpren teg eu hwynepryd
Y sydd o goedwydd i gyd:
I waered yn grwm gwmpas,
I fyny yn glochdy glas.
A thanun, eiddun addef,
Meillion ir, ymellin nef.
Lle deuddyn, llu a'u diddawr,
Neu dri yn ennyd yr awr.
Lle y cyrch rhywiociyrch rhiw,
Lle cân edn, lle cain ydiw.
Lle tew lletyau mwyeilch,
Lle mygr gwydd, lle megir gweilch.
Lle newydd adeilwydd da,
Lle nwyf aml, lle nef yma.
Lle golas rwyl, lle gwyl gwg,
Lle gyr dwfr, lle goer difwg.
Lle nid hysbys, dyrys dir,
Blotai neu gawsai goesir.
Yno heno, hoen gwaneg,
Awn ni ein dau, fy nyn deg,
Awn, od awn, wyneb gwynhoyw,
Fy nyn lygad glöyn gloyw.
89 Dagrau Serch


Dyddgu liw dydd goleuaf,
Dy nawdd, er Unmab Duw Naf,
Deurudd Mair o diredd Mael,
Duon lygaid a dwyael.
Deliais, neud fal hudoliaeth
Dilyn serch, arnad, ferch faeth.
Da leddfair deulueiddferch,
Dolurus yw daly ar serch.
Deuliw barf dwfr llafarfas,
Delw glaer ar len dyli glas,
Dęl i'th fryd dalu i'th frawd
Dyfu yt wawd â'i dafawd.
Dugum yt well no deugae,
Dogn mul, da y gwn y mae.


Dyn fal corbedw yn edwi,
Deune ton, amdanad di;
Dyfed a wyr mae difyw,
Difai ddysg, a Dafydd yw.
Difraw ddysg, od af ryw ddydd,
Dwf llerw, dan defyll irwydd,
Daifn fy neigr, dwfn fynegais,
Dewr fy mhoen, hyd ar fy mhais.
Diofal, glud, a deifl glaw,
Dan ael wyf, dean wylaw.
Dy fardd mad yn anad neb,
Digroenes deigr ei wyneb.
Dyn wyf o'th serch, wenferch wawl,
Digreiad, gwyw dagreuawl,
Dydd ermoed, deuwedd eiry mân,
Diferiog bwyll, dwf eirian.


Dyddgu, f'aur anrhydeddgael,
Dyn gwiw, du eiliw dy ael,
Dawn glud, be'm rhoddud yn rhad,
Da holl Loegr, diell lygad,
Dielwyd rhin ym min Mai,
Dy olwg a'i dielwai.
Dylyaf ffawd am wawdair,
Dylyy fawl, myn delw Fair.
Didarf i'm bron yw d'adwyth,
Didaer lun o Dewdwr lwyth.
Didwf yw dadl dy gerddawr,
Didawl main ar dy dâl mawr.
Dodaist wayw llon dan fron friw,
Didost gan dy fryd ydiw.
Didawl o'th gariad ydwyf,
Da dy lun, a didal wyf,
Dieithr cael, da uthr yw cwyn,
Dylusg arnad, f'adolwyn;
Dau lygad dyn yn gwrthgrif,
Diystyr wallawyr llif.

90 Achau Hiraeth


Digwsg fűm am ail Degau,
Dig er ei mwyn yw'r deigr mau.
Deufis am lun yr unferch
Ni chysgais hun, ni chwsg serch,
Draean noswaith hyd neithwyr,
Drwm lwc, hun drymluog hwyr.


A myfi yn ymafael
â chwr fy hun, fy chwaer hael,
Gofyn a wnaeth ar gyfair,
Gafael cariad, irad air,
Gofyniaeth hiraeth hoywrwysg,
Gofyniad braisg geimiad brwysg,


'Mae bardd Dyddgu loywgu law?
Pwy dy henw? Paid â hunaw'.
Agerw fydd murn dolurnwyf.
'Egor y ddôr. Agwrdd wyf'.


'Perhôn egori, pe rhaid,
Paddiw? Neu pwy a ddywaid?'


'Mae rhai i'm galw, disalw dwys,
Amheuwr hun amhowys,
Hiraeth fab cof, fab cyngyd,
Fab gwae fy meddwl, fab gwyd,
Fab poen, fab gwenwyn, fab bâr,
Fab golwg hen, fab galar,
Fab ehudnych, fab hoednwyf,
Fab Gwawl, fab hud, fab Clud clwyf,
Fab deigr, fab digwsg ledlyth,
Fab trymfryd, fab hawddfyd fyth,
Fab anhun ddu, fab annerch,
Fab Seth fab Adda, fab serch.


Gwr bonheddig, rhyfig rhwyf,
Diledach deol ydwyf;
Poenwr dwys, eiriau glwysEigr,
Pennaeth dyledogaeth deigr;
Gweinidog wy', llugwy llu,
Gweddeiddgorff hardd, gwiw Ddyddgu,
A hefyd, meddai hoywferch,
Ysbenser ar seler serch.
A Dyddgu annwyl wylfoes
Gyda thi a'm gad i'th oes'.


Cynnwys hwn, cwynofus hwyr,
A wneuthum yno neithwyr,
Cennad Ddyddgu, leuad lwys.
Cannoch fyfi o'r cynnwys!

91 Y Gainc


Dysgais ryw baradwysgainc
â'r dwylo mau ar dâl mainc,
A'r dysgiad, diwygiad dyn,
Eurai dalm ar y delyn.
Llyma'r gainc ar y fainc fau,
O blith oed yn blethiadau
O deilyngfawl edlingferch
A brydais i â brwyd serch.


Meddai ferched y gwledydd
Amdanaf fi, o'm dawn fydd:
'Semlen yw hon naws amlwg,
A symlyn yw'r dyn a'i dwg.'


Solffeais, o'm salw ffuaint,
Salm rwydd, ys aelaw 'y mraint,
Ac erddigan gan y gainc
Garuaidd, medd gwyreainc.
Coel fuddbwnc ferw celfyddber,
Cael ym glod, neud cwlm y glęr,
Caniadlais edn caneidlon,
Cân a fyn beirdd heirdd yw hon.


Gwae fi na chlyw, mawr yw'r ainc,
Dyddgu hyn o brydyddgainc.
Os byw, hi a'i clyw uwch clwyd
Ysbyslef eos beislwyd,
O ddysg Hildr oddis cildant,
Gormodd cerdd, gwr meddw a'i cant;
Llef eurloyw fygr llafurlais,
Lleddf ddatbing llwybr sawtring Sais.
Ni wnaeth pibydd ffraeth o Ffrainc
Na phencerdd ryw siffancainc.


Poed anolo fo ei fin,
A'i gywydd a'i ddeg ewin,
A gano cerdd ogoniant,
Ni cherydd Duw, na cherdd dant,
Goleuglaer ddyn golyglon,
Ac e'n cael canu'r gainc hon.

92 Dyddgu a Morfudd


Ochan fi, drueni drum,
Eb oir, na wybuum
Garu cyn oedran gwra
Hocrell fwyn ddiell fain dda,
Gywair o ddawn, gywir, ddoeth,
Gynilgamp gu anwylgoeth,
Gair unwedd etifedd tir,
Gorwyllt foethusddyn geirwir,
Yn gron fferf, yn ddiderfysg,
Yn gyflawn o'r dawn a'r dysg,
Yn deg lân, Indeg loywnwyf,
Yn dir gwydd,—enderig wyf—
Yn gariad dianwadal,
Yn lath aur, yn loyw ei thâl,
Mal y mae, mawl ehangddeddf,
Dyddgu â'r ael liwddu leddf.


Nid felly y mae Morfudd,
Ond fal hyn, faroryn rhudd,
Yn caru rhai a'i cerydd,
Rhywyr fun, a rhyhir fydd,
Yn berchennog, barch uniawn,
Ty a gwr, yn ddyn teg iawn.


Nid anfynychach ym ffo
Am hanner nos am honno,
Rhag dyn o'i phlas dan laswydr,
No'r dydd, wyf llamhidydd hydr,
A'r gwr dygn â'r gair digall
Dan guraw y llaw 'n y llall,
Llef beunydd a rydd, rwyddchwant,
A bloedd am ddwyn mam ei blant.


Eiddilwr, am ei ddolef
I ddiawl aed; pam ydd wyl ef,
Och, gwae ef, ddolef ddylyn,
Hyd ar Dduw, o hud ar ddyn?
Llwdn hirllef llydan haerllug,
Llafur ffôl yw llyfr ei ffug.
Llwfr a rhyfedd y gwneddyw
Llefain am riain fain fyw.
Y Deau ef a'i diun
Dan ddywedud, barcud bun.
Nid dawnus, nid dianardd,
Nid teg gwarandaw, nid hardd,
Gwr yn gweiddi, gorn gwaddawd,
Ar gân fal brân am ei brawd.


Ys drwg o un anhunfloedd,
Finffug wr, am fenffyg oedd.
Be prynwn, befr ddidwn bwyll,
Wraig o'm hoedl, rhyw gam hydwyll,
Caliwr dig, er cael awr daw,
Rhan oedd, mi a'i rhown iddaw
Rhag dryced, weddw dynged wae,
Y gwr chwerw, y gwyr chwarae.


Dewis yr wyf ar ungair
Dyddgu oe charu, o chair.
93 Breichiau Morfudd


Twf y dyn tyfiad Enid,
â'r tefyll aur, a'm tyf llid;
Tâl moeledd, talm o alaw,
Tëyrnasaidd lariaidd law,
Dyn wyl dda ei dyniolaeth
A'i modd, gwell no neb ei maeth.
Ddwylaw mwnwgl dan ddeiloed
Ydd aeth i anghengaeth hoed,
Peth nid oeddwn gynefin,
A chael ymafael â'i min.
Gwanfardd addfwyndwf gwinfaeth
Oeddwn gynt iddi yn gaeth.


Amau bwyll, y mae bellach,
Dawn fu, a rhoi Duw yn fach,
Rhyw gwlm serch, cyd rhygelwyf,
Rhôm, od gwn, rhwymedig wyf.
Manodliw fraich mynudloyw
Morfudd, huan ddeurudd hoyw,
A'm daliawdd, bu hawdd bai hy,
Daldal ynghongl y deildy;
Daliad cwlm o gariad coeth,
Dau arddwrn dyn diweirddoeth.
Da fu hirwen dwf hwyrwar,
Daly i'm cylch dwylaw a'm câr.
Dogn oedd ym, o'm hylym hwyl,
Dewr goler serch dirgelwyl.
Llathr ieuo'r bardd, gem harddlun,
Llai no baich oedd befrfraich bun
Goris clust goreuwas clod,
Gorthorch, ni wnaf ei gwrthod,
Lliw'r calch, yn lle eiry cylchyn –
Llyna rodd da ar wddf dyn –
A roes bun, ac un a'i gwyr,
Am fwnwgl bardd, em feinwyr.


Hydwyll y'm rhwymodd hudawl;
Hoedl i'r fun hudolair fawl
A geidw ym, drefn erddrym draidd,
Fy mwythau yn famaethaidd.
Diofn, dilwfr, eofn dâl,
A du wyf a diofal,
A deufraich fy nyn difrad
I'm cylchyn ym medwlyn mad.
Nid serch i neb f'amherchi,
Delw haul, rhwng ei dwylaw hi.
Wedy cael ymafael mwy,
Wawr euraid – wi o'r aerwy! –
Teg oedd weled mewn rhedyn
Tegau dwf yn tagu dyn.
Meddw oeddwn, mau ddioddef,
Meddwaint rhiain groywfain gref.
Mynwyd fy myd rhag fy mâr,
Mynwyn y'm gwnaeth braich meinwar.
Mynwes gylchyniad mad maith,
Mynwair fuant ym unwaith.
94 Yr Euryches


Euryches y cae mangoed
O ryw bedwenfrig erioed,
Ennill ym fydd, goedwydd ged,
O chawn elw, ei chyniled.
Er achub crefft eurychaeth
I efail o ddail ydd aeth
Ac ennill clod ac annerch
Ac â'i llaw sawduriaw serch.
â'i neddair, fy eurgrair fwyn,
Y nyddodd fedw yn addwyn;
A'm cain euryches ni'm cawdd,
Em cenedl, a amcanawdd
Cyflunio cae o flaenion
Cadair o frig coed o'r fron:
Coedyn bach a rwym ceudawd,
Crefft hysbys rhwng bys a bawd.
Canwell yw no chae ceinwefr
Cae o wallt pen bedwen befr.
Caeog wyf o frig gwyal,
Caeau y Deau a dâl.
Cywir y ceidw ym hiroes,
Cywair wyf o'r cae a roes.


Fy nghae bedw, da y'i cedwir,
O'r coed a wnâi hoed yn hir.
Fy mudd yw, nis maddeuaf,
Fy mywyd ar hyd yr haf,
Fy mab, fy mrawd didlawdfoes,
Fy medw rhwym; fy myd a'i rhoes.
Golygawd, grefft briawd brudd,
Gem irfedw oedd gae Morfudd.
Dellt yw fy mron, rylon rus,
Dan gae bedw dyn gwybodus.
Gwaith cymen ar fedwen fad,
Gweddeiddio gwydd a wyddiad.
Gwell ei hamcan no Siannyn
Eurych, treth fynych a fyn.
Gwydd meinion a gysonai;
Gwyn ei fyd y gwan a fâi—
Eurai fy llaw ar fy lles—
Ar uchaf ei euryches.
95 Chwarae Cnau i'm Llaw


Salm i'm cof o lyfr Ofydd;
Serchog anniferiog fydd,
Heb gael cydymddaith dan llaw
I addef pob peth iddaw.
Mae un fal y damunwyf,
Brawd-ddyn ym o brydydd nwyf,
Cymhorthiad i'm cariad caeth,
Cynghorwr cangau hiraeth.
Ni bu, ddynan fechan fach,
Os mul hi, ysmalhaach,
Ni wna nemor o dwyllfreg,
No nyni'n dau, fy nyn deg.
Ac yntau a ddechreuawdd
Cynhyrchiad sain cariad cawdd.
Gwarae gau, gwyddym paham,
Er Eigr bryd a orugam.


'Cnau i'm llaw ddeau ddiwg.'


'Ym y dôn'; dyn mwyn a'u dwg.'


'Pys irgyll rhydd, gwydd gweilchwynt,
Pam y mae tau? Orddgnau ynt.'


'Eu danfon ym, rym rwymbleth.'


'Pwy yw?' heb ef, 'Er pa beth?
Edrych, er na laesych les,
Ai dyn fwyn a'u danfones.'



'Meinir unbryd â manwawn,
Morfudd deg, mawr fydd ei dawn.'


'A'th gâr di y dyn beirddglwyf?'


'Câr, od gwn; caredig wyf.
O'm câr, gad yna, em cant,
Amnifer am y nwyfiant.'



Dugum i'r cnau, golau goel,
Doniog, myn Duw a Deinioel.
Danfones y dyn feinael
Ym hyn, weldyna em hael,
Am eurgerdd ddiymeirgoll,
Hoen eiry gaen, heiniar o goll.
Esgynwas wyf ysgeinoed,
Os gwir coel, ysgwier coed.
Os celwydd, crefydd ni'm cred,
Os coel gwir, ys cael gwared,
Oed mewn irgoed, mwyn argoel,
A fydd, onid celwydd coel.


Fflacedau a phlu coedydd
I gyd, gweddaidd amyd gwydd,
Pefr fallasg tew eu cnewyll,
Penglymau cangau cyll,
Pennau bysedd pan bwysynt
Trwy fenig y goedwig gynt.
Nid anannwyl dwyn annerch
O fotymau, siamplau serch.
Nis tyr min er glythineb,
Ysgolan wyf, nis gwyl neb.
Ni thorrir, wir warafun,
â charreg befr anrheg bun.
96 Taith i Garu


A gerddodd neb er gordderch
A gerddais i, gorddwy serch,
Rhew ac eiry, rhyw garedd,
Glaw a gwynt er gloyw ei gwedd?
Ni chefais eithr nych ofwy.
Ni chafas deudroed hoed hwy
Ermoed i Gellďau'r Meirch,
Eurdrais elw, ar draws Eleirch
Yn anial dir, yn uniawn
Nos a dydd, ac nid nes dawn.
O! Dduw, ys uchel o ddyn
Ei floedd yng Nghelli Fleddyn:
Ymadrodd er ei mwyn hi,
Ymarddelw o serch bűm erddi.
Bysaleg iselgreg sôn,
Berwgau lif bergul afon,
Mynych iawn er ei mwyn hi
Y treiddiwn beunydd trwyddi.
I Fwlch yr awn yn falch rydd,
Mau boen dwfn, Meibion Dafydd,
Ac ymaith draw i'r Gamallt
Ac i'r Rhiw er gwiw ei gwallt.
Ebrwydd y cyrchwn o'r blaen
Gyfaelfwlch y Gyfylfaen
I fwrw am forwyn wisgra

Dremyn ar y dyffryn da.
Ni thry nac yma na thraw
Hebof yn lledrad heibiaw.
Ystig fűm ac anaraf
Ar hyd Pont Cwcwll yr haf
A gogylch Castell Gwgawn—
Gogwydd cyw gwydd lle câi gawn.
Rhedais heb adail Heilin
Rhediad bloesg fytheiad blin.
Sefais goris llys Ifor
Fal manach mewn cilfach côr
I geisio heb addo budd
Gyfarfod â gwiw Forfudd.
Nid oes dwyn na dwys dyno
Yn neutu glyn Nant-y-glo
Nas medrwyf o'm nwyf a'm nydd
Heb y llyfr, hoywbwyll Ofydd.



Hawdd ym wrth leisio i'm dwrn
Gwir nod helw Gwernytalwrn
Lle cefais weled, ged gu,
Llerwddyn dan fantell orddu,
Lle gwelir yn dragywydd,
Heb dwf gwellt, heb dyfu gwydd,
Llun ein gwâl dan wial da,
Lle briwddail, fal llwybr Adda.


Gwae ef, yr enaid, heb sâl
Rhag blinder, heb gwbl undal,
O thry yr unffordd achlân
Y tröes y corff truan.

97 Gofyn Cymod


Teg Forfudd, Tegau eurfalch,
Tywyn haul daer ar gaer galch,
Tâl am fy ngwawd cyn toli:
Twyll y prydyddion wyd di.


Tyfodd i'm bron gron o gred
Dolur dy anwadaled:
Rhai a'r a'th eilw 'y rhiain'
A ddywaid, fy enaid fain,
Na thrig ym, pendefig poen,
Dy gariad, deg ei goroen,
Mwy nog ewyn, gwynddyn gwiw,
Ar ôl dwfr, arial difriw.
Difawr sâl, hoen Dyfr o sud,
Deuwell y gwarandawud,
Dig ym glywed dy gymwyll,
Y dyn a ddoetai o dwyll,
Ar ei ruthr, air o athrod,
Degau glaer, no deg o glod.
Nid o'm bodd yr adroddwn
Arnad, ôd gawad, od gwn,
Dielw o serch, deuliw sęr,
Daldal, dy anwadalder.


Pe rhôn ym, pe rhin amwyll,
Mewn brwysgedd, tywylledd twyll,
â doedyd gair cellweirus
Yrhwng ynfydrwydd a rhus,
Gwybydd, er buchedd Gybi,
Ddeuliw ton, na ddl˙ud di,
Gem aur glaer, gymar y glod,
Gomedd croesan o gymod.
Gwen, gwybydd, dan freisgwydd fry,
Fy meddwl o'm gomeddy;
Ni chad o'm pen absennair.
Nid felly gwnaeth Mab maeth Mair
Am y dall, diamau dôn,
Ar ddaear, o'r Iddewon,
A'i gorug, bu chwedl girad,
Glwyfo'i fron â glaif o frad.


Swllt hoywfardd, syll di hefyd
Maint fu drugaredd, fy myd,
Morwyn wyrf, mirain ffyrf ffydd,
Merch Anna, mawr ei chynnydd,
Geinem, pan ei goganwyd
Siesu, blaid o Sioseb lwyd:
Ni wnaeth, ni bu annoethair,
Na daly gwg na dial gair.


Nid oes bechawd, fethlgnawd faith,
Marwol mwy ei oferwaith
No thrigo, mawr uthr ogan,
Mewn llid, eiliw Enid lân.
Deuliw'r haul, da loer yrhawg,
Dilidia, 'r dyn dyledawg.
Na fydd, teg yw'r crefydd tau,
Grynw´raidd dros gryn eiriau,
'Y myd, wrth dy brydydd mwy
Diledach, deoladwy.
Fy aur, cymer ddiheurad
Ac iawn lle ni aller gwad.
Cynnal faswedd i'th weddi:
Cymod, liw manod, â mi.
98 Dan y Bargod


Clo a roed ar ddrws y ty,
Claf wyf o serch, clyw fyfy.
Dyred i'th weled, wiwlun,
Er Duw hael, aro dy hun.
Geirffug ferch, pam y gorffai?
Gorffwyll, myn Mair, a bair bai.



Taro, o'm annwyd dyrys,
Tair ysbonc, torres y bys
Cloëdig, un clau ydoedd,
A'i clywewch chwi? Sain cloch oedd.
Morfudd, fy nghrair diweirbwyll,
Mamaeth tywysogaeth twyll,
Mau wâl am y wialen
â thi, rhaid ym weiddi, wen.
Tosturia fy anhunglwyf,
Tywyll yw'r nos, twyllwr nwyf.
Adnebydd flined fy nhro,
Wb o'r hin o'r wybr heno!
Aml yw'r rhëydr o'r bargawd,
Ermig nwyf, ar y mau gnawd.


Nid mwy y glaw, neud mau glwyf,
No'r ôd dano yr ydwyf.
Nid esmwyth hyn o dysmwy,
Ni bu boen ar farwgroen fwy
Nog a gefais drwy ofal,
Ym Gwr a'm gwnaeth, nid gwaeth gwâl.
Ni bu'n y Gaer yn Arfon
Geol waeth no'r heol hon.
Ni byddwn allan hyd nos,
Ni thechwn ond o'th achos.
Ni ddown i oddef, od gwn,
Beunoeth gur be na'th garwn.
Ni byddwn dan law ac ôd
Ennyd awr onid erod.
Ni faddeuwn, gwn gyni,
Y byd oll oni bai di.


Yma ydd wyf trwy annwyd,
Tau ddawn, yn y ty ydd wyd.
Amau fydd gan a'm hirglyw
Yma, fy aur, ymy fyw.
Yna y mae f'enaid glân
A'm ellyll yma allan.
Ymaith fy meddwl nid â,
Amwyll a'm peris yma.
Amod â mi a wneddwyd,
Yma ydd wyf, a mae 'dd wyd?
99 Talu Dyled


Cywyddau, twf cywiwddoeth,
Cofl hardd, amdwf cathlfardd coeth,
Ni bu ag wynt, pwynt apęl,
Un organ mor annirgel.
Maendy serch unfam undad
Yw fy mron a wnâi fy mrad.
Holl gwmpas y lleidrwas llwyd
O'r un oll yr enillwyd.


Rhoais iddi, rhyw swyddau,
Rhugl foliant o'r meddiant mau,
Gwrle telyn ac orloes,
Gormodd rhodd; gwr meddw a'i rhoes.
Heais mal oraihian
Ei chlod yng Ngwynedd achlân.
Hydwf y mae'n ehedeg
Had tew, llyna head teg.
Pybyr fu pawb ar fy ôl,
Ai 'Pwy?' oedd ym mhob heol.
Pater noster annistaw
Pawb o'r a gant llorfdant llaw
Ym mhob cyfedd, ryfedd ri,
Yw ei cherdd yn wych erddi.
Tafod a'i tyfodd canmawl,
Teg ei gwęn yw, Amęn mawl,
Cans ar ddiwedd pob gweddi,
Cof cywir, y'i henwir hi.
Chwaer ydiw, tywynlliw tes,
I ferch Wgon farchoges.


Unllais wyf yn lle safai
â'r gog, morwyn gyflog Mai.
Honno ni feidr o'i hannwyd
Eithr un llais â'i thoryn llwyd.
Ni thau y gog â'i chogor,
Crygu mae rhwng craig a môr.
Ni chân gywydd, lonydd lw,
Nac acen onid 'Gwcw!'
Gwys ym Môn mae gwas mynaich
Fűm i yn ormodd fy maich,
Yr hwn ni wna, da deutrew,
Lafur ond un, lawfron dew.


Dilonydd bwyll, ddidwyll ddadl,
Dilynais fal daly anadl.
Defnyddio i'i hurddo hi,
Defnyddiau cerdd dwfn iddi.
Yn iach bellach heb allel,
Na chudd amdanai na chęl.
Talm sydd iddi, os tolia,
Ac o dodir ar dir da:
Saith gywydd i Forfudd fain
Syth hoywgorff a saith ugain.
Adyn o'i chariad ydwyf
Aed ag wynt, dieuog wyf.
Ni ddeily cariad taladwy;
Ni ddyly hi i mi mwy.
100 Nodwyddau Serch


Dy gariad, Indeg oroen,
Dygn y sydd, huelydd hoen,
Ynof, gwas o nwyf a gwedd,
Yn fy mlino naw mlynedd.
Ni bu ar les ei dadmaeth
O hir gydmeithas was waeth.
Moethus o was, lleas llaw,
Metheddig fab maeth iddaw.


Llyna, Forfudd ddiledryw,
A gaf o dâl, gofid yw.
Py lan bynnag ydd elych,
Na Sul na gwyl, f'annwyl fych,
Caeed a wnaf, fy nyn llwyd,
Ddeuddwrn i'r lle ydd eddwyd,
Ac yno, em y genedl,
Oganus, chwarëus chwedl,
Torri fy llygaid terrwyn
Ar dy hyd, f'anwylyd fwyn.


Ef a fydd y dydd ai deg
O nydwyddau, ai deuddeg,
O'r amrant, er ymrwystr fydd,
Bugeilaeth serch, bwygilydd,
Hyd nad ymweisg, ddyn ddoethgall,
Un, aur ei llun, ar y llall.
Tra fo fy llygaid, haid hawl,
Yn agored engiriawl,
Glaw a ddaw, dyn gloyw-wedd wyd,
O sugn y fron a ysigwyd.
O ddinau'r ddeunant ar lled
Odd yno, fy eidduned,
Meddylia hyn, y feinferch,
Meddyliau o sugnau serch,
Y daw glaw yn ôl praw prudd
Hyd y farf, hydwf Forfudd.


Cyd bwyf dalm, er salm, o'r Sul
Yn y glwysgor, un glasgul,
Ni'm gwrthyd, dyfryd difreg,
Pawb o'r plwyf, er nad wyf deg.
Cyfraith serch y sy'n erchi,
Cymer dy hun yt, fun, fi.

101 Yr Uchenaid


Uchenaid wedn aflednais
A'm pair heb enni i'm pais.
Uchenaid, oer rynnaid ran,
A dorres yn bedeirran
Bron a'i deily, bryn y dolur:
Braidd na'm hyllt o'i gorwyllt gur.
O nythlwyth cofion, bron brid,
Anathlach o anoethlid,
Cyfyd rhyw dôn ohonof
Cyfyng, cawdd ethrycyng cof.
Cynnwrf mynwes, tylles twyll,
Cynnil ddiffoddwraig cannwyll,
Cawad o drowynt cywydd,
Cae nďwl hir feddwl fydd.


Pawb a debig pan ddigiwyf,
Pe bai ddysg, mae pibydd wyf.
Mae o anadl mwy ynof
Nog yng nghau meginau gof.
Uchenaid, lifaid lafur,
O'r blaen a dyr maen o'r mur.
Rhiain a'i pair, gair gorfyn,
Rhuad dig yw ar hyd dyn.
Awel glaw i grinaw'r gran,
Ef yw gwynt hydref hoedran.
Ni bu wenith na nithid
Wrth hon pan fai lon o lid.
Athrist fy swydd es blwyddyn,
Eithr Morfudd ni'm dyhudd dyn.

102 Y Galon


Oio galon bengron bach,
Ddieres chwaen ddieiriach,
A fu dryll fwy ei drallawd
No thydy, gwehydd-dy gwawd?
Palmeres, mynwes a'i maeth,
Penwyn gyhyryn hiraeth,
Cron forwyn ryderrwyn daer,
Cruglwyth meddyliau croywglaer.
Llonydd fydd, fodd difocsach,
Llenwi y bydd llun wy bach.
Hon a bair, cadair ceudawd,
Henw amddyfrwys, gwennwys gwawd,
Rhuad gwyllt, ddyn rhyod gwael
Rhyhy yn serchog rhyhael.


Ystyried windraul deulu
Y ddiod fedd, ddäed fu:
Hon a wna, anrhegfa rhawg,

Hwyl berw llif, hael byrllofiawg,
Palmer budr, pwl marw bidin,
Paeled oer heb bil y din,
A rhylew ar heolydd,
Wyneb oer, yno ni bydd
Heb ai cael, heibio ciliwyf,
Dolur, ai clau wneuthur clwyf.
Yr ail ydyw ar loywdarf
Uno dros wefl fefl ar farf.
Y trydydd, ni wybydd neb:
Troau dyn trwy odineb

Yn chwenychu, chwaen uchel,
Dwyn y dyn gwylwyn dan gęl.


Hynny yw gwraidd yr heiniau,
Henw swydd falch, honno sydd fau.
Nid mwy rhyfel dan geli
Dyn na mil, myn Duw, no mi
Yn caru, nesäu serch,
Er anfodd pawb, yr unferch,
Pobl wrthrych, llewych llywy,
Pefr feinwyr, pawb a wyr pwy,
Mygr hyloyw, magwyr hoywloer,
Morfudd deg ei deurudd, dioer,
Hoen tes pan fai huan taer
Ar fron, olyglon loywglaer,
Haelwen leddf, heilwin lwyddferch,
Heulwen a seren y serch.
103 Cystudd y Bardd


Hoywdeg riain a'm hudai,
Hael Forfudd, merch fedydd Mai.
Honno a gaiff ei hannerch,
Heinus wyf heno o'i serch.
Heodd i'm bron, hon a hyllt,
Had o gariad, hud gorwyllt.
Heiniar cur, hwn yw'r cerydd,
Hon ni ad ym, hoywne dydd.
Hudoles a dwywes deg,
Hud yw ym ei hadameg.
Hawdd y gwrendy gyhudded
Hawdd arnaf, ni chaf ei ched.
Heddwch a gawn, dawn a dysg,
Heddiw gyda'm dyn hyddysg;
Herwr glân heb alanas
Heno wyf o'i phlwyf a'i phlas.
Hihi a roes, garwloes gwr,
Hiraeth dan fron ei herwr.
Hwy trig no'r môr ar hyd traeth
Herwr gwen yn ei hiraeth.
Hualwyd fi, hoelied f'ais,
Hual gofal a gefais.
Hwyr y caf dan ei haur coeth
Heddwch gyda'm dyn hoywddoeth;
Heiniau drwg o hyn a droes,
Hwyrach ym gaffael hiroes.
Hon o Ynyr ydd henyw,
Hebddi ni byddaf fi byw.
104 Canu'n Iach


Hydr y gwddost, ail Indeg,
Hoedl i'th dâl, hudoliaeth deg,
Hoed a'm deily, hud a'm dilyn,
Hoyw dy dwf, er hudo dyn.
Gwaith pell o fewn gloywgell gled
Dy dreisio rhag dy drawsed.
Na ffo, cyfaro, forwyn,
Nid rhaid brys i'r llys o'r llwyn.
Trwyddedwraig llen bedwenni,
Trig a dyhudd, Forfudd, fi.
O doi i'r fedwgell bellach,
Fy nyn bychanigyn bach,
Nid ai drachefn, wiwdrefn wych,
Mawl a dâl, mal y delych.
Dygn na allaf dy atal,
Dy gaeth wyf, ddyn deg ei thâl;
Tost na allaf, rymaf rin,
Dy orlludd dan do eurllin.


Ni'th ddwg tynged o'th fedydd
Mal y'th ddug oed ymhlith gwydd.
Dyred o'm colled i'm cael
Lle'r addewaist, lloer dduael;
F'ewyllys ystrywus drud
A'i dialai be delud,
D'ymlid heb gael proffid prudd,
Ni chaf arfod, och Forfudd!


Dos, f'un enaid, yn gwbliach,
A Duw'n borth yt, y dyn bach.
Dos yn iach, gadarnach ged,
Dengoch fyfy o'r dynged.
Yn iach, y dyn bach, dawn byd,
Ac annerch dy hun gennyd.
105 Llw Morfudd



Gwell eniwed, fforffed ffug,
No sorri'n wladaidd sarrug.
Da fyddai Forfudd â'i dyn
O'r diwedd, hoen eiry dywyn.


Ei chred, Luned oleuni,
A roes da ei moes i mi
O drefn ei llaw fodrwyfaich
A dihewyd bryd a braich,
Y câr fi, rhi rhywiogaeth,
O châr yr âb ei mab maeth.
Ys gwiwdwng onis gwedir,
Ys gwyn fydd fy myd os gwir.
Ni feddais fudd o gwblfodd
Erioed, er pan y'm rhoed rhodd,
Cystal â chael gan hael hwn,
Od ydiw yn rhodd didwn.
Nid gem, oferedd gymwyll,

O fedw glyn, nid dillyn twyll;
Eurychwaith Mab Mair uchaf
â'i law noeth trwy olew Naf,
Salm o Dduw, a'i inseiliawdd
Yn grair o'i neddair a'i nawdd,
A dogn fu a digon fydd
O gwlm rhwng pawb a'i gilydd,
A dwfn ydd â a difyr
Yn y tân y dyn a'i tyr.


A'r fau finnau ar f'annwyl
A rois i un gwiwlun gwyl
Yn llw hydr, yn lle hydraul,
Yn ei llaw hi, unlliw haul,
Fal y rhoed ym o rym rhydd
Yn y dwfr, o enw, Dafydd,
Gyrddwayw o serch, iawnserch Iôr,
Ar garu hoen eiry goror.


Doniog fu'r gredaduniaeth,
Da gwn i, a Duw a'i gwnaeth.
Rhy wnaeth bun â llun ei llaw
Rhoi dyrnaid, a rhad arnaw,
Rheidlw perffeithdeg rhadlawn,
Rhinwedd y wirionedd iawn,
Llw i Dduw â'i llaw ddeau,
Llyna, od gwn, llw nid gau;
Llawendwf yn llaw Indeg,
Llw da ar hyd ei llaw deg.
Llyfr cariad fydd i'w hadaf,
Yn benrhaith erbyn yr haf.
Yn yr oerddwfr yr urddwyd
Y llw a roes Morfudd Llwyd.
106 Gwawd Morfudd


Da Forfudd sinoblrudd syw,
Deune'r eiry, dyn oreuryw,
Di-lwch riain dâl uchel,
Er dig i'r byd dygi'r bęl.
Deuwell wyd, ferch, o'th berchi,
Diwyd mawl, dywaid i mi,
Gorawen, gloyw eurben gwlad,
Gwawr eurnen, ai gwir arnad
Ddywedyd na fynnud, fun,
Oer chwarae, wr â chorun?


O Dduw, pam, loer ddinam lw,
Yr honnaist y gair hwnnw?
Os gwrthod, ffyrf anghlod ffydd,
Gorug rwyf, gwr o grefydd
Er gemau, aur ac owmal,
I ti, fy nyn euraid dâl,
Bodlon wyf is bedwlwyn ir,
Eto fun, yti feinir.
Os tremig, hoen llathrfrig haf,
Fy nghrair, neu ornair arnaf,
Forfudd hael, fwyarael fun,
Fu'r gair am fy aur gorun,
Rhyddwys, fy nyn rieddawg,
Y rhoist y destun y rhawg.


Oerfel ym, fy nyn erfai,
Eirian hwyl fuan haul Fai,
Erioed o gwelais yr un,
Euraid wystl, a rôi destun
Ni cheffid, meddid i mi,
Tystiwn orn, testun arni.
Am hyn yr wyf, rwymglwyf raid,
Ym mhoen, Forfudd, em honnaid.
Ddisglair haul, ddysgl o'r heli,
Ddeuliw tes, ni ddl˙ud di,
Befr enwog nwyf, burwen gnawd,
Bwrw un destun barawd,
Uthr oroen, iaith oreuryw,
I'th fardd gwynfydig i'th fyw.


Nid nes testun, fun feinael,
Ar brydydd hoyw Forfudd hael,
Er syrthio, breuddwydio brad,
Wyth gur, ei wallt o'th gariad.
Ni bydd dy Ofydd difai,
Ni bűm nofis un mis Mai;
Ni wisgais, dileais lid,
Na gwiwben gwfl nac abid;
Ni ddysgais, hoyw drais ei drin,
Ar wiw ledr air o Ladin.
Nid llwyd fy marf, arf erfai,
Nid lled fy nghorun, nid llai,
No'r nos yr oeddem, gem gu,
Einym gur, yn ymgaru.
Aethost, wi o'r gost a'r gamp,
I'th wely, bryd wyth wiwlamp,
A'th freichiau, hoen blodau haf,
Em y dynion, amdanaf,
A minnau, fy ngem annwyl,
I'th garu, ddyn aelddu wyl;
Ond nad rhydd, gynedwydd gân,
Gwir oll, honni'r gair allan.


Awr ddi-salw, eurddwys olud,
Er hyn, ferch, fy rhiain fud,
Dywaid, fy mun, a dewis
Pa un a wnai, haul Fai fis:
Ai bydd gywir, hir hoywrym,
O gariad diymwad ym,
Ai dywaid di i mi, fy mun,
Na byddi, wyneb eiddun.
Os edifar fy ngharu
Gennyd, y rhyw fyd a fu,
Cai ran tra fo cyfrinach,
Câr Dduw yn ôl, cerdda'n iach,
Ac na ddywaid, f'enaid fun,
Air chwerw am wr â chorun.
107 Siom


Cariad ar ddyn anwadal
A fwriais i heb fawr sâl.
Edifar oedd ym garu
Anghywir ferch, fy nghur fu,
Fal y cerais, ledneiswawr,
Forfudd, unne dydd, ni'm dawr.
Ni fynnai Forfudd, f'annwyl,
Ei charu hwy – och o'r hwyl!


Treuliais dalm, trwy loes dylyn,
O gerdd dda wrth garu'r ddyn.
Treuliais wrth ofer glęr glân
Fodrwyau – gwae fi druan!
Traws eirwgaen wedd tros argae,
Treuliais a gefais o gae.
Treuliais, nid fal gwr trylwyn,
Tlysau o'r mau er ei mwyn.
Treiglais, gweais yn gywir,
Defyrn gwin, Duw a farn gwir.
Treiglais hefyd, bywyd bas,
Defyrn meddgyrn gormoddgas.
Perais o iawngais angerdd
Dysgu a chanu ei cherdd
I'r glęr hyd eithaf Ceri,
Eiry mân hoen, er ei mwyn hi.


Ymddiried ym a ddaroedd;
Er hyn oll, fy rhiain oedd,
Ni chefais, eithr nych ofal,
Nid amod ym, dim o dâl,
Ond ei myned, gweithred gwall,
Deune'r eiry, dan wr arall
I'w gwneuthur, llafur nid lles,
Yn feichiog, fy nyn faches.


Py fodd bynnag, i'm coddi,
Y gwnaethpwyd, neur hudwyd hi,
Ai o gariad, i adu,
Diras farn, ai o drais fu,
Yn gwcwallt salw y'm galwant –
Wb o'r nâd! – am wedd berw nant.
Rhai a rydd rhyw arwyddion
I'm llaw, gormodd braw i'm bron,
Llysgon, oedd well eu llosgi,
O gyll ir; ni bu i'm gwall i.
Eraill a rydd, deunydd dig,
Am y tâl ym het helig.


Morfudd, ac nid o'm erfyn,
Heb awr serch a beris hyn.
Duw a ranno o'r diwedd
Barn iawn rhof a gwawn ei gwedd.
108 Rhag Hyderu ar y Byd


Mau aflwyddiant, coddiant cawdd,
Mefl iddo a'm aflwyddawdd!
Sef yw hwnnw, byw ni baidd,
Eiddig leidr, Iddew gwladaidd.
Ni adawdd, ni bydd nawdd nes,
Da i'm helw, Duw a'm holes.
Cyweithas, hoywdras, hydrum,
Cyfoethawg, rhuddfoawg fűm;
Ethwyf o wiwnwyf yn iach,
Wythlid bwyll, a thlawd bellach.
Ciried, deddf cariad diddim,
Digardd wyf, a'm dug ar ddim.


Na rodded un cun ceinsyth
Fryd ar y byd fradwr byth.
Estron was, os dyry'n wir,
Fud ellwng, ef a dwyllir.
Hud yw golud, a gelyn,
Brwydr dost yw a bradwr dyn.
Weithiau y daw, draw draha,
Weithiau yn ddiau ydd â,
Mal trai ar emylau traeth
Gwedy llanw gwyd a lluniaeth.


Chwerddid mwyalch ddichwerwddoeth
Ynghelli las, cathlblas coeth.
Nid erddir marlbridd iddi,
Nid iraidd had, nid ardd hi,
Ac nid oes, edn fergoes fach
â thruth oll, ei thrythyllach.
Llawen yw, myn Duw Llywydd,
Yn llunio gwawd mewn llwyn gwydd.
Llawenaf, breiniolaf bryd,
Yw'r bastynwyr, byst annwyd.


Wylo a wnaf, bruddaf bryn,
Em oleuddeigr am loywddyn,
Ac ni wyr Fair, glodair glud,
Ym wylo deigr am olud,
Gan nad oes, dyhunfoes deg,
Gymroaidd wlad Gymräeg
Hyd na chaffwyf, bwyf befriaith,
Durfing was, da er fy ngwaith.
Ac ni chaid o'i chyfoedi
Dan emyl haul dyn mal hi.
Am fy nghannwyll y'm twyllwyd,
Morfudd, lliw goleuddydd, Llwyd.

109
Hwsmonaeth Cariad


Caru y bűm, cyd curiwyf,
A mwy neu ddeufwy ydd wyf;
Cyfragod cariad tradof,
Crupl y cur, croyw epil cof.
Cadw a orwyf i'm ceudawd
Cariad, twyllwr, cnouml;wr cnawd.
Cynyddu, cwyn a wyddiad,
Y mae i'm bron, mam y brad,
Cynt no thyfiad, cread craff,
Corsen o blanbren blaenbraff.
Ceisio heiniar o garu
Yn briod fyth i'm bryd fu.

Gaeafar, mewn gwiw ofal,
A wneddwyf, dolurnwyf dâl.
Arddwyd y fron ddewrlon ddwys,
Onengyr ddofn, yn ungwys.
Y swch i'm calon y sydd
A chwlltr y serch uwch elltydd.
Ar y fron ddeau, glau glwyf,
Heuml;u a llyfnu llifnwyf,
Ac aradr cyweirgadr call
I frynaru'r fron arall.
A thrimis, befr ddewis bwyll,
Gwanhwyndymp, gwayw anhundwyll,
Cadeiriodd ynof ofid;
Coetgae a'm lladd, cytgam llid.
Ni chaf eithr sias o draserch,
Ni chred neb brysurdeb serch
Rhwng deiliadaeth, cawddfaeth cudd,
Y marwfis a serch Morfudd.

Calanmai rhag cael unmodd
Seguryd i'm byd o'm bodd
Caeais, hoywdrais ehudrwyf,
Yn ei gylch, dyn unig wyf.
Tra fu serch yr haelferch hon
Trefn efrydd, trwy fy nwyfron
Yn hoywdeg hydwf, ni'm dawr,
Ac yn aeddfed gynyddfawr,
Treiddiais, ni ohiriais hur,
Trefnau medelau dolur.

Trwm fu gyfrgoll yr hollyd,
Trallod yw byth trulliad byd.
Tröes y gwynt, bellynt bollt,
O ddeau'r galon ddwyollt.
A thywyllawdd, gawdd gordderch,
Yn fy mhen ddwy seren serch:
Llidiardau dagrau digrwyf,
Llygaid, nofiaduriaid nwyf.
Edrychasant, lifiant lun,
Ar Forfudd araf eurfun,
Lwferau dwfr lifeiriaint,
Lafurus annawnus naint.

Drwg fu ar sofl, gofl gofid,
Drycin o orllewin llid,
A daw prif wastadlaw prudd
O ddwyrain wybr ar ddeurudd.
Curwyd y fron hon heno
â dwfr glas, edifar glo.
Dan fy mron y mae'r gronllech,
Ni ad fy nrem seldrem sech.
Hidl ddeigr am ne Eigr ni ad,
Heiniar lwgr, hun ar lygad.
Oio gariad, had hydwyll,
Gwedy'r boen, gwae di o'r bwyll,
Na ellais, braisg oglais brad,
Dy gywain rhwng dwy gawad.
Syrthiodd y cariad mad maith;
Somed fi am osymaith.

110 Ddoe


Dyddgwaith dybech fu echdoe,
Da fu Dduw â Dafydd ddoe.
Nid oedd unrhyw, deddf anrheg,
Y dydd echdoe â doe deg.
Drwg oedd fod, rhywnod rhynoeth,
Echdoe yn frawd i ddoe ddoeth.
O Fair wychdeg fawr echdoe,
A fydd y rhyw ddydd oedd ddoe?
O Dduw erfai ddiweirfoes,
A ddaw i mi ddoe i'm oes?
Rhoddi, yn drech nog echdoe,
Ydd wyf gan hawddfyd i ddoe.


Doe dialawdd, cawdd cuddnwyf,
Dafydd hen o newydd nwyf.
Gwedy fy nghlwyf, ydd wyf ddall,
Gwydn wyf fal gwden afall
A blyg yn hawdd, gawdd gyhwrdd,
Ac ni thyr yn ôl gyr gwrdd.
Mae ynof, gwangof gwyngen,
Enaid cath anwydog hen;
Briwer, curer corf lwydwydd,
Bo a fo arnai, byw fydd.
Pedestr hwyr wyf, cawddnwyf call,
Ar hyd erw lle rhed arall,
A meistrawl ar wawl wiwgamp,
Er gwst, lle bo gorau'r gamp.


Gwell ymhell, ger gwayw llifnwyf,
Pwyll nog aur, pellennig wyf.
O Dduw, ai grym ym amwyll?
A wddant hwy pwy yw Pwyll?
Trech llafur, nofiadur nwyf,

No direidi, dewr ydwyf.
Da y gwnâi Forfudd â'i dyn
O'r diwedd, hoen eiry dywyn.
Iawn y gwneuthum ei chanmawl,
On'd oedd iawn, f'enaid i ddiawl!
Nos da i'r ferch anerchglaer,
A dydd da am nad oedd daer.
Hi a orfuum haeach,
Aha! wraig y Bwa Bach!


111 Morfudd fel yr Haul


Gorllwyn ydd wyf ddyn geirllaes,
Gorlliw eiry mân marian maes.
Gwyl, Dduw, mae golau o ddyn,
Goleuach nog ael ewyn.
Goleudon lafarfron liw,
Goleudaer ddyn, gwyl ydiw.
Gwyr obryn serch gerdd o'm pen,
Goreubryd haul ger wybren,
Gwawr y bobl, gwiwra bebyll,
Gwyr hi gwatwaru gwr hyll,
Gwiw Forfudd, gwae oferfardd
Gwan a'i câr, Gwenhwyfar hardd.
Gwe aur, llun y dyn, gwae ef
Gwiw ei ddelw yn gwaeddolef.


Mawr yw ei thwyll a'i hystryw,
Mwy no dim, a'm enaid yw.
Y naill wers yr ymddengys
Fy nyn gan rhwng llan a llys,
A'r llall, ddyn falchgall fylchgaer,
Yr ymgudd gloyw Forfudd glaer,
Mal haul ymylau hoywles,
Mamaeth tywysogaeth tes,
Moliannus yw ei syw swydd,
Maeleres Mai oleurwydd,
Mawr ddisgwyl Morfudd ddisglair,
Mygrglaer ddrych mireinwych Mair.


Hyd y llawr, dirfawr derfyn,
Haul a ddaw mal hyloyw ddyn
Yn deg o fewn corff un dydd,
Bugeiles wybr bwygilydd.
Pan fo, poen fawr a wyddem,
Raid wrth yr haul a draul drem,
Gwedy dęl, prif ryfel praff,
Dros ei phen wybren obraff
Y diainc ymron duaw,
Naws poen ddig, y nos pan ddaw.
Dylawn fydd yr wybr dulas,
Delw Eluned, blaned blas.
Pell i neb wybod yna,
Pęl yw i Dduw, pa le'dd â.
Ni chaiff llaw yrthiaw wrthi,
Nac ymafael â'i hael hi.
Trannoeth y dyrchaif hefyd,
Ennyn o bell nen y byd.


Nid annhebig, ddig ddogni,
Ymachludd Morfudd â mi:
Gwedy dęl o'r awyr fry,
Ar hyd wybr y rhed obry,
Yr ymachludd teg ei gwg
Dan orddrws y dyn oerddrwg.


Emlynais nwyf am lannerch
Y Penrhyn, eisyddyn serch.
Peunydd y gwelir yno
Pefrddyn doeth, a pheunoeth ffo.
Nid nes cael ar lawr neuadd
Daro llaw, deryw fy lladd,
Nog fydd, ddyn gwawdrydd gwiwdraul,
I ddwylo rhai ddaly yr haul.
Nid oes rhagorbryd pefrlon
Gan yr haul gynne ar hon.
Os tecaf un eleni,
Tecaf, hil naf, yw'n haul ni.


Paham, eiddungam ddangos,
Na ddeaill y naill y nos,
A'r llall yn des ysblennydd,
Olau da, i liwio dydd?
Bei ymddangosai'r ddeubryd
O gylch i bedwar bylch byd,
Rhyfeddod llyfr dalensyth
Yn oes bun dyfod nos byth.

112 Trech a Gais nag a Geidw


Ceisio yn lew heb dewi,
Beunydd fyth, bun ydd wyf i.
Cadw y mae Eiddig hydwyll
Ei hoywddyn bach hyddawn bwyll.
Traws y gwyl, treisig olwg;
Trech a gais, trwy awch a gwg,
Nog a geidw rhag direidwas
Ei ddyn gwyn ar ael glyn glas.


Nid hawdd cadw cymen wen wych
Rhag lleidr yn rhygall edrych.
Un orchwyl pan ddisgwyliwyf,
Yn llywio drem â lleidr wyf.
Gwydn y mae ef, addef oedd,
Yn ei chadw, anwych ydoedd;
Gwydnach yr wyf, trymglwyf trais,
Yn amgylch bun yn ymgais.
Serchog, o'i radd gyfaddef,
O chais a gâr, ni chwsg ef.
Hoed gwyliwr, pylgeinwr pwl,
Hynag fydd hunog feddwl.


Tebig iawn, o fawrddawn fudd,
Em fawrfalch, wyf am Forfudd,
I'r march a wyl o'i warchae
Y ceirch ac ni wyl y cae.
Minnau heb ochel gelyn
A welaf ddiweiriaf ddyn
Ac ni welaf, hyaf hawl,
Ei du gymar, deg emawl.
Ni welo Duw'r dyn geirsyth,
Ni wyl yntau finnau fyth.
Mwy blyg ni bydd mablygad
Ym mhen gwledig, unben gwlad.


Trech, lle'r ymddrychaif glaif glas,
Wyf nog ef, ofn a gafas.
Tramwyaf, lwyraf loywryw,
Trefi fy aur tra fwyf fyw.
Oerfel ym o gochelaf
Eirian oroen, huan haf,
Arfog swydd o ryfig sâl,
Er a'i ceidw, eurog hoywdal.

113 Yr Het Fedw


Yr het fedw, da y'th gedwir,
Ys gwae Eiddig os gwir,
Ysbail gwydd, cynnydd cannoed,
Ysgythrlen frig cangen coed.
Os dewr wyf, ys diryfedd,
Ystyriawl i'th fawl a'th fedd,
Ystofiad coed, ys difai,
Ysgîn ddail mân wiail Mai.
Ys da adail y'th eiliwyd,
Ystôr gwrteisrym ym wyd.
Duw a'th fawl, hawdd ganmawl hir,
Adeildo o fedw doldir.



Gerland a roes dyn geirloyw,
Cwmpas o'r fedwen las loyw.
Call a difradw y'th gadwaf,
Coron rhag tra hinon haf.
Culwas a'i dwg cyd ciliai,
Cwfl ddiell o fantell Fai;
Cydfaeth dyffryn, glyn gloywlas,
Coedfedw gwiw yn cydfod gwas;
Gwrygiant serch eurferch erfai,
Gwyrthiau a ffrwyth mwynllwyth Mai;
Pwyll rhag anghof a gofal,
Pebyll uwch didywyll dâl;
Mawl dyfiant, gwiw foliant gwydd,
Mynwair o dewfrig manwydd;
Gwawdau dâl gwiwdo deil-lwyn,
Gwyrdd gylch a ddiylch ei ddwyn;
Gwawr gelfydd serch, gwir goelfain,
Gwregys gwallt o'r goedallt gain;
Gwiw adail heb adfeiliaw,
Gwaith wyd Morfudd Llwyd a'i llaw.

114 Gwallt Morfudd


Dodes Duw, da a dyst wyf,
Dwybleth i hudo deublwyf,
O radau serch, aur ydyn',
Aerwyau teg ar iad dyn
O ffrwyth golau iadlwyth gwyl,
Eurdyrch a chynnyrch annwyl,
Llwyth gwr, llyweth o gariad,
Llathr a raff uwch llethr yr iad,
Llwyr ei gwyr, ddifeiwyr fath,
Llwyn eurlliw, llyna iarllath,
Llonaid teg o fewn llinyn,
Llaes dwf yn lleasu dyn,
Llin merch oreuserch rasawl,
Llwyn aur mâl, llinynnau'r mawl.


Balch y dwg, ferch ddiwg fain,
Banadl ysgub, bun dlosgain,
Yn grwn walc, yn goron wiw
Wyldlos, blethedig oldliw,
Yn gwnsallt, fanwallt fynwaur,
Yn gangog frigerog aur,
Eirian rhodd, arwain rhuddaur
Ar ei phen o raffau aur
I hudo beirdd penceirddryw;
Oedd hyfryd i'r byd ei byw.


Bun a gafas urddasreg;
Bu ragor dawn briger deg
Cannaid rhag Cynwrig Cinnin,
Fab y pengrych, flawrfrych flin,
Llwdn anghenfil gwegilgrach,
Llwm yw ei iad lle mae iach,
Lledweddw, rheidus, anlladfegr,
Lletben chwysigen chwys egr.
Annhebig, eiddig addef,
Fulwyllt, oedd ei foelwallt ef,
Llariaidd ddifeth y'i plethwyd,
I'r llwyn ar ben Morfudd Llwyd.

115 Llychwino Pryd y Ferch


Y ferch a alwn f'eurchwaer
A'm annwyl eglurwyl glaer,
Mae i'm bryd, enbyd iawnbwyll,
Trwy nerth Duw troi i wrth dwyll,
Bod i'm cof, byd a'm cyfeirch,
Beidio â hi, bedw a'i heirch.
Ba dâ l y'm bu o'i dilyn?
Boed awr dda beidio â'r ddyn.


Llygru a wnaeth, gaeth gerydd,
Lliw'r dyn er ys llawer dydd.
Ni allaf, nerth ni pherthyn,
Ni ellir da â lliw'r dyn.
Meddylio'r wyf mau ddolur,
Myfi a'i gwn, mwyfwy gur,
Y chwaen gyda'r ychwaneg
A ludd ei deurudd yn deg.
Enid leddf, anadl Eiddig
O'i enau du a wna dig,
Gwedy's gellyngo, tro trwch,
Y gw r dygn, bu Eigr degwch,
Anadl fal mwg banhadlen
Yn ei chylch – pam nas gylch gwen?
Gofal yw fal rhwym gefyn
Gadu'r delff i gyd â'r dyn.


Delw o bren gwern dan fernais,
Dogn benrhaith o saerwaith Sais,
Drwg gawad, dygiad agwyr,
Llugorn llon a'i llwgr yn llwyr.
Y pân Seisnig da ddigawn
A fydd drwg ym mwg y mawn.
Nďwl a ddwg yn awyr
Gan yr haul wiw ei lliw'n llwyr.
Cadeirgainc dderw, coed argor,
A fydd crin ym min y mô r.


Tramwyais, hoywdrais hydreg,
Trefi y dyn tra fu deg.
Ystiwardiaeth, gaeth gariad,
Ond tra fo teg, nid tref tad.
Da gwyr beri digaru
Ei phryd, fy anwylyd fu.
Gorau gan Eiddig oeryn,
Dogn du, na bai deg y dyn.
Llychwinodd llwch o'i enau
Lliw'r dynyn mireinwyn mau.
Rho Duw a Chadfan, rhaid oedd
Rhad a geidw; rhydeg ydoedd.

116 I Ddymuno Lladd y Gwr Eiddig


Ef aeth heddiw yn ddiwael
Gyda Rhys i gadw yr hael
O frodyr ffydd a rhai maeth
A cheraint, mau awch hiraeth,
Ymy, i ymwrdd â Ffrainc
O'r Deau, Mair a'u diainc,
Brehyrllin weilch beilch bylchgrwydr,
Breinolion, brodorion brwydr.


Mab gogan, mae begegyr
Gyda chwi, o gedwch, wyr,
Yn elyn dianwylyd
I fardd bun ac i feirdd byd.
Un llygad, cymyniad cawdd,
Ac unclust yw ar ganclawdd,
A chorn celwydd-dwyll pwyll pwl,
A chosbwr bun a'i cheisbwl.
Y sawl waith rhag trymlaith trwch
Y ffoais gynt, coffëwch,
Rhagddaw'r cawell ysgaw cau,
A'i dylwyth fal medelau.
Bid iddaw yn ei law lwyth
O faw diawl, ef a'i dylwyth.


Od â â'i enaid, baid banw,
I'r lwydlong wyllt ar lidlanw,
Llonydd ni hir gydfydd hi,
Llun ei hwyl yn llawn heli.
Gwisg ei phen fo'r ffrwd wen wawl,
Gwasgwynes y gwaisg ganawl.
Ni cherdda, ni hwylia hi,
Trychwanddyn, a'r trwch ynddi.
Gythier efo, gwthr afanc,
Dros y bwrdd ar draws y banc.
Y don hael, adain heli,
Y tâl a ddlywn i ti,
Nith mordraeth, anoeth mawrdrefn,
N'ad y trwch uriad drachefn.
Saethffrwd aig, trywanwraig trai,
Saig nawton, a'i sugn atai.


O don-i-don, edn sugndraeth,
Od â i Ffrainc y du ffraeth,
Y sawl anghenfagl y sydd,
Hoenyn fo ei ddihenydd.
Meddyliwch, brysiwch broses,
Am ei ladd, gwnewch ymy les,
Ac na edwch y cwch cau
I'm deol am em Deau.


Tithau'r albrasiwr, tuthia,
Teflidydd defnyddwydd da,
A thafl â'r pren gwarthaflfyr
A saeth, be'th ddorost o syrr?
Brath y lleidr yn ei neidrwydd,
Bid trwch y breuddwyd, boed rhwydd.
Trywana, na fetha fath,
Traidd o'r albrs trwyddo'r eilbrath.
Adnebydd, saethydd sytharf,
Ei sythion flew fyrion farf.


Diddan ynn ei drigian draw,
Deuddeg anhawddfyd iddaw!
Diddestl farf ffanugl gruglwyn,
Dydd a ddaw, da oedd ei ddwyn.
Diddaly bardd, a hardd yw hyn,
Diddel adref i'w dyddyn.
Ffroen Eiddig, wenwynig nod,
Ffriw ddifwyn, o phraw ddyfod,
Wrth wyn ysgar, lafar lef,
Y du leidr, y dęl adref.
117 Amau ar Gam


'Morfudd weddaidd anghywir,
Gofwy gwawd, gwae fi, ai gwir,
Eto o nwyf, iti, fy nyn,
Diofrydu dy frawdyn,
Yr hwn, ni wn ei enni,
Nith Eigr deg, ni'th ddigar di,
A gadael, i gael galar,
O'th gof y truan a'th gâr,
O serch ar ormodd o sôn,
ďau neidr, ai anudon?'


'Na wir, tyngu ni weryd,
Ni bu ambrydu i'm bryd.
Myn y Gwr mewn cyflwr cawdd,
Ddafydd, a ddioddefawdd,
Mwy caraf ôl mewn dolgoed,
Dibrudd drum, dy ebrwydd droed
No'm godlawd wr priawd prudd
Neu a ddeiryd i'w ddeurudd.
Ef a ddaw byd, bryd brydu,
Ar wr dig gwedy'r eiry du.'


'Dugost lid a gwrid i'm grudd,
Dyn fawrfalch, da iawn, Forfudd!
Ni rygeisiwn argyswr,
Na chydfydd i'th ddydd â'th wr.
Na phâr i Eiddig ddig ddu,
Lin hwyad, lawenhäu.
Ni chaffwyf dda gan Dduw fry
O chai 'modd, o chymyddy.'
118 Y Cariad a Wrthodwyd


Drud yr adwaenwn dy dro,
Gwen gynhinen, gyn heno.
Mae i'm bryd, ennyd ynni,
Aml ei thwyll, ymliw â thi,
Morfudd ferch Fadawg Lawgam,
Myn y Pab, mi a wn pam
Y'm gadewaist ar feiston
Yn weddw hyll yn y wedd hon.


Tra ellais, ni wydiais wawd,
Dirprwyo dy wr priawd,
Caredd hawl, caruaidd hud,
Cerydd fi, oni'm carud?
Bellach myfi a ballawdd,
O glwyf blin wyf heb le nawdd.
Ar dy fryd, cedernyd cur,
Ai da y sigl y du segur?


Symudaist fi, som ydiw,
Seren oleuwen o liw,
Megis y gwr, gyflwr gau,
Ac iddo dan y gweddau
Deubar o ychen diball
Wrth yr un aradr cadr call.
Od ardd 'y ngran graeanfylch,
Dalar gwydd, ef deily ar gylch
Heddiw y naill, hoywdduw Naf,
Yfory'r llall oferaf,
Mal y gwnair, gurair gerydd,
Chwarae â phęl, fy chwaer ffydd:
Hoff wyd, dilynwyd dy lun
O-law-i-law, loyw eilun.
Hir ddoniau, bryd hardd annwyl,
Hyn yw dy fryd, hoen Dyfr wyl.


Ysgwďer gwyw ei ddwywisg,
A'r rhain cyn dynned â'r rhisg,
Nofies o'r blaen yn nwyfwydn
Heb dâl, gyfnewidial wydn.
A wnęl y da dan fedwgoed,
O myn y dyn, i mewn doed,
Ac a'i gwnaeth, brodoriaeth braw,
Aed allan wedi'i dwyllaw.


Bid edifar dy garu,
Bwriaist fi, byr o wst fu.
Ys gwir y bwrir baril,
Ysgwd, pan fo gwag, is gil.

119 Edifeirwch


Prid o swydd, prydais iddi,
Prydydd i Forfudd wyf fi.
Myn y Gwr a fedd heddiw,
Mae gwayw i'm pen am wen wiw,
Ac i'm tâl mae gofalglwyf.
Am aur o ddyn marw ydd wyf.


Pan ddęl i osgel esgyrn
Angau a'i chwarelau chwyrn,
Dirfawr fydd hoedl ar derfyn,
Darfod a wna tafod dyn.


Y Drindod rhag cydfod cwyn
A mawr ferw, a Mair Forwyn,
A faddeuo 'nghamdramwy.
Amen, ac ni chanaf mwy.

120 Dewis un o Bedair


Ei serch a roes merch i mi,
Seren cylch Nantyseri,
Morwyn wych, nid ym marn au,
Morfudd wyl, mawr feddyliau.
Cyd collwyf o wiwnwyf uthr
Fy anrhaith a fu iawnrhuthr,
Cyd bu brid ein newid ni,
Prid oedd i'r priod eiddi.
Eithr rhag anfodd, uthr geinfyw,
Duw fry, diedifar yw,
Gwedy i'i chariad brad fu'r braw,
Lloer byd, rhoi llw ar beidiaw.


O cherais wraig mewn meigoel
Wrth lyn y porthmonyn moel,
Gwragennus esgus osgordd,
Gwraig, rhyw benaig, Robin Nordd,
Elen chwannog i olud,
Fy anrhaith â'r lediaith lud,
Brenhines, arglwyddes gwlân,
Brethyndai bro eithindan,
Dyn serchog oedd raid yno.
Gwae hi nad myfi fai fo!
Ni chymer hon, wiwdon wedd,
Gerdd yn rhad, gwrdd anrhydedd.
Hawdd oedd gael, gafael gyfa',
Haws no dim, hosanau da.
Ac os caf liw gwynnaf gwawn,
O fedlai y'm gwnâi'n fodlawn.


Nid ydwyf, nwyf anofal,
Rho Duw, heb gaffael rhyw dâl
Ai ar eiriau arwyrain
Ai ar feddwl cerddgar cain,
Ai â'r aur, cyd diheurwyf,
Ai ar ryw beth. Arab wyf.
Hefyd cyd bo fy nhafawd
I Ddyddgu yn gwëu gwawd,
Nid oes ym, myn Duw, o swydd
Ond olrhain anwadalrhwydd.


Gwawr brenhiniaeth, maeth â'i medd,
Y byd wyr, yw'r bedwaredd.
Ni chaiff o'm pen cymen call,
Hoen geirw, na hi nac arall
Na'i henw na'r wlad yr hanoedd,
Hoff iawn yw, na pha un oedd.
Nid oes na gwraig, benaig nwyf,
Na gwr cimin a garwyf
â'r forwyn glaer galchgaer gylch.
Nos da iddi nis diylch.
Cair gair o garu'n ddiffrwyth.
Caf, nid arbedaf fi, bwyth.


Be gwypai, gobaith undyn,
Mae amdani hi fai hyn,
Bai cynddrwg, geinwen rudd-deg,
Genthi â'i chrogi wych reg.
Mwy lawnbwys mau elynboen,
Moli a wnaf hi, Nyf hoen,
Hoyw ei llun, a holl Wynedd
A'i mawl. Gwyn ei fyd a'i medd!

121 Angof


Efa fonheddig ddigawn,
Arglwyddes, dwywes y dawn,
Nid dir, pryd eiry cyn Ystwyll,
Ymliw â thi, aml ei thwyll,
Ond na ddlyud ddilëu
Y rhwym fyth yrhôm a fu.
Tebyg yw, f'enaid dibwyll,
Na'm adwaenost, tost yw twyll.
Och, ai meddw, wych em, oeddud
Erllynedd, gyhydedd hud?
Bun ry haerllug fuddugawl,
Bid i'th farn a'r byd a'th fawl:
O bu, ymannerch serchbryd,

Un gair rhom, unne geirw rhyd,
Ac o bu gynt, tremynt tro,
Bai ditiwr, mawl, bid eto.
Na fyn ogan fal anael
Ac na fydd adwerydd wael.
Angof ni wna dda i ddyn,
Anghlod yn awdl neu englyn.
Terfyn angof yw gofal;
Twr dy dy, taro dy dal
Goldwallt dan aur gwnsallt da;
Galw dy gof, gwyldeg Efa:
Nid taeredd a wnaut erof,
Nid da, deg Efa, dy gof.
Na fydd anghywir hirynt,
N'ad tros gof ein wtres gynt.

122 Caer Rhag Cenfigen


Cynghorfynt, wan Frytaniaid,
Cenedl Susar, blaengar blaid,
A'i plaodd, o chwplëir,
Ac a'i rhywnaeth, gwaeth no gwir,
Rhwym o gynfigen a rhus,
Ac anian gynfigennus
Yw gwarafun yn unnod
I ddyn glân ei ddawn a'i glod.
Mae arnaf o warafun,
Myn y grog, mwy nog ar un,
Rhus hydr o ryw was ydwyf,
Gan bobl oer, gwn o ba blwyf.
Rhai grym, rhywiog arymes,
Rhoddant, amlhaant ym les,
A'r bawheion a soniant,
Och am nerth! a cham a wnânt.


Ef a roes Duw, nawddfoes nawd,
Gaer i'm cadw, gwiwrym ceudawd,
Cystal, rhag ofn dial dyn,
â'r Galais rhag ei elyn,
Cilio ni lwydd, calon lân,
Caerdroea, caru druan,
Di-isel ddirgel ddurgoly,
Dilon Dwr Babilon boly.


Ungwr, dieiddil angerdd,
A gadwai gastell, cell cerdd,
Rhag y dynion a sonia,
Tra fai ystôr trwy foes da,
A gofynag yn fagwyr
O gariad Angharad hwyr,
A maen blif o ddigrifwch
Rhag na dirmyg na phlyg fflwch,
A llurug, ddiblyg ddybliad,
Gorddyfn hedd, Gwirdduw fy Nhad,
Neur gaiff flinder, Duw Nęr nen,
Gan fygwth o gynfigen.
Golwg ruddell yw'r gwyliwr
Ar feilch teg ar fwlch y twr,
Ladmer a adrodder draw
Yw'r hoywglust ar y rhaglaw,
A'r porthawr, ni'm dawr i'm dydd,
Yw'r tafod o rad Dofydd;
Adail oddieithr ydynt
Dwylo a thraed, dilithr ynt.

Duw Dad, Tydi a'i piau,
Dod fwyllwr yn y twr tau;
Na ad yn wag fynagwael
O fewn gwr rhag ofn ei gael;
Cais ei gadw rhag anfadwyr,
Côr bro saint cer wybr a syr.
Bygythia, gymanfa gas,
Bygythwyr y byw gaethwas,
Ni a wddam ar dramwy,
Peiriaint oer, pa rai ynt hwy.


Be delai'r môr angorwaisg
Drwy din Edwart Frenin fraisg,
Bardd i fun loywhardd lawhir,
Byw ydyw ef, a bid wir.

123 Rhagoriaeth y Bardd ar Arall


Y feinferch, hwde f'anfodd,
Gwedy'r haf, gwae di o'r rhodd,
Gofaniaeth ddygn, gwae finnau,
Riain deg, o'i roi yn dau.
Gwae ddyn a fai'n dilyn dig
A geryddai'r gwr eiddig;
Gwae a wyr, wayw fflamgwyr wedd,
Glas ei ddeigr, gloes eiddigedd.


Prydu i'th wedd a wneddwyf,
Prid yw'r swydd, pryderus wyf.
Mwy yw 'ngofal, dial dyn,
No gofal gwr mewn gefyn
Yng nghlwyd o faen, anghlyd fur,
A laddai'r Pab o'i loywddur,
Rhag cael arnad, gwad gwydngroyw,
Chwedl gwir, forwyn lawir loyw.


Y mae, modd rhywae, medd rhai,
Mab dewrfalch, mebyd erfai,
Wyth affaith nwyf, i'th hoffi
I'th ddydd, er ymlwgr â thi.
Cyd boed gwych, cydwybod gwawl,
A bonheddfalch baun haeddfawl,
Dęl cyn no'i gymryd, pyd pell,
Yn dy gof, Indeg efell,
Na oddef ef, wyf ddicllawn,
O law na gwynt, loywne gwawn,
A oddefais i'th geisiaw,
Amnoeth rwysg, yma na thraw.



Nid â yn niwanfa, wen,
Y nos erod, ne seren,
Ar draws aerwyau drysi,
Mul ddyn wyl, mal ydd awn i,
Y sawl waith, lewdaith lud,
Ydd eddwyf hyd lle'dd oeddud.
Ni thrig allan, ledwan lif,
Dan ddagrau to dyn ddigrif
I mewn cof ac ym min cais,
Mula' treigl, mal y trigais.
Ni ddyry ar ei ddeurudd
O ddwfr brwd, o ddifri brudd,
Gymaint lifnaint eleni,
Eigr y serch, ag a rois i.
Ni chân yng ngwydd arglwyddi
O wawd hyd dyddbrawd i ti
Ganfed ran, liw eiry ban bais,
O ganon cerdd a genais.


Gwydn wyd yn gwadu'n oedau,
Gwirion yw'r atebion tau.
Os tithau a fydd euawg
O arall rhygall yrhawg,
Beirddion Cred a ddywedant
Wrthyd, ne caregryd nant:


'Deugrwydr arnad, ddyn digrif,
Pan wnelych, lliw distrych llif,
F'enaid glwys fynudiau glân,
Farchwriaeth ddrwg, ferch eirian,
Am dy fardd, liw berw hardd bas,
A'th ogyfoed a'th gafas.'
124 Campau Merch


Y ferch borffor ei thorun,
Hir nid addefir i ddyn.
Anodd ym gysgu unhun
Pe canai Dduw huw ei hun.
Aeth ulw dros frig wyth aelwyd,
Oio, Gysgu ddu! Mae'dd wyd?
Anhunog wyf, clwyf yw'r clo,
Anhunedd a wn heno.
Mi a ddeily swrn meddyliau,
Byth neud mul, am beth nid mau,
Gwayw llid, er nas caf rhag llaw,
Gosyml oedd ym ei geisiaw,
Nid amgen, gwen a'm gweeirdd,
Eilwydd â bun a ladd beirdd.


Dibwyll i fardd hardd heirddryw,
Dybio ei chael; dibech yw.
Hael yn nhref am heilwin rhwydd,
Hoen gwylan, hynag eilwydd.
Gwyr luddias gwr i lwyddoed,
Gwrm ei hael, goryw ym hoed.
Rhwydd am aur o'i goreurwyl,
Afrwydd am eilwydd, em wyl.
Ufyddgamp leddf i feddgell,
Diog i oed pwyllog pell.
Mul yn chwarae â chlaear,
Diful wrth y cul a'i câr.
Hael am y parch nis archwyf,
Cybyddes am neges nwyf.
Dilaes y deily heb ystryw
Olwg ar wr, ail Eigr yw.
Digollwawd bardd digellwair,
Da ei chlod, diuchel air ;
Dyfr o bryd, a'm byd o'm barn,
Difawr ei brys i dafarn;
Dihoffedd bryd a gwedd gwyr,
Dihustyng, da ei hystyr;
Diddig yn cynnig ciniaw,
Dig wrth ei llatai o daw;
Dyddig ei phendefigwalch
Wrth wyr y byd, bywyd balch.
Ni bu, nid oes i'n oes ni,
Ni bydd tebig neb iddi.
Nid mor ddiareb nebun
I'n gwlad ni â hi ei hun:
Yn hael iawn, yn hil ynad,
Yn heilio gwledd, yn haul gwlad,
Yn fonheddig, yn ddigardd,
Yn fain ei hael, yn fun hardd,
Yn ennill clod, yn annwyl,
Yn dda ei thwf, yn ddoeth wyl,
Yn rhy ddiwair ei heirioes,
Yn ddyn mwyn, dda iawn ei moes.


Tyfodd ym frad lleuad llu,
Twf coeth tawelddoeth aelddu.
Tegau iesin ddoethineb,
Tegach oedd honno no neb.
125 Y Bardd yn Onest


Cerddais yn gynt, helynt hir,
No mellten ddeunaw milltir.
Ni chyhyrddawdd, mau gawddnwyf,
Neithiwyr ym, taranrhuthr wyf,
Blaen fy nhroed, blin yw fy nhranc,
â'r ddaear, arwydd ieuanc.
Unfryd wyf yn y fro deg
â Thrystan uthr ar osteg.
Ni thyr crinbren, dien dwyll,
Dan droed ym, dyn drud amwyll.
Ni throais, anoeth reol,
Fy wyneb, er neb, yn ôl.
Euthum yn gynt no gwynt gwyllt
I lys y fun, ail Esyllt.
Rhoddais, ac ni henwais hi,
Aing roddiad, gyngor iddi.


'Na fydd salw, ferch syndalwisg,
Ar dy fryd, hoen eiry di-frisg,
Yn ôl yr hir, feinir fwyn,
Ymaros o fraint morwyn.
Na fyn, dros ymofyn Mai,
Fawddyn, drwg y'th gydfyddai.
Cenhedlog rywiog riain,
Câr di a'th gâr, dyn doeth gain.'


'Ys gwaeth, medd y famaeth fau,
Ym weithian am fy moethau.
Gwelais lawer, fab Gwilym,
Gael gwr a wnelai gelg ym.'



'Nid celgwr gwr a garo,
Ni thrig mewn gweniaith na thro.
Ni mynnwn, bei gallwn gael,
Dy dwyllo, du dy ellael.
Nid oeddwn wr, gloywdwr glân,
I'th dwyllo o'th dy allan.
Ni'th dwyll dyn byw, nawddryw nęr,
Yn lle bwyf, enllib ofer.
Dianair yw dy wyneb,
Dillyn ym, ni'th dwyllo neb.'

126 Cyfeddach


Gildiais fal gildiwr ar fin
Gildio'n lud, golden ladin.
Gildiais yn ddinidr ddidrist,
Gild cryf, myn goleuad Crist,
Gildiad, nid chwitafad hallt,
Gildwin er fy nyn goldwallt.
Gwych y medrais, haeddais hedd,
Gwaith da rhwyddfaith diryfedd,
Gwiw ddysgnwyf, roi gweddusgnwd
Gwinwydd Ffrainc er gwenwedd ffrwd.


Petem Ddyw Pasg yng Ngasgwyn,
Buan fydd, mi a bun fwyn,
Didlawd oedd pai'n diawdlyn
Er claer dwf o'r clared ynn.
Herwydd barn y tafarnwas,
Hir y'm câr a hwyr y'm cas,
Y pedwerydd mydrddydd mad
Fu heddiw, fau wahoddiad.
Meddwn innau, gau gerydd,
'Truan nid oedd traean dydd'.
Ef a bair, ddyn gywair ged,
Fy nwyforc i fun yfed.
Gwelid er gwen ar ben bwrdd
Gwanegu gwin yn agwrdd.
Hir yw'r cylch, cylchwy didryf,
A hy yw'r cariad a'i hyf.
Hawdd yfaf, dibrinnaf bryn,
Hawdd yf a wyl ei hoywddyn.
127 Gwayw Serch


Y ferch yn yr aur llathrloyw
A welais, hoen geirwfais hoyw,
Yn aur o'r pen bwy gilydd,
Yn rhiain wiw, deuliw dydd,
Yn gwarando salm balchnoe
Yng nghôr Deinioel Bangor doe.


Digon i'r byd o degwch;
Deugur, bryd Fflur, i'i brawd fflwch
Weled y wenferch wiwlwys,
Wi o'r dydd! mau wewyr dwys.
â seithochr wayw y'm saethawdd
A sythdod, cymhendod cawdd;
Gwenwyn awch, gwn fy nychu,
Gwyn eiddigion gwlad Fôn fu.
Nis tyn dyn dan wybr sygnau,
I mewn y galon y mae.
Nis gorug gof ei guraw,
Nis gwnaeth llifedigaeth llaw,
Ni wys na lliw, gwiw gwawdradd,
Na llun y dost arf a'm lladd.
Gorwyf o'm gwiwnwyf a'm gwedd,
Gorffwyll am gannwyll Gwynedd.
Gwae fyfi, gwayw a'm hirbair
Gwyn fy myd, ail gwiwne Mair.
Gwydn ynof gwayw deunownych,
Gwas prudd a wnâi'r grudd yn grych.
Gwynia'n dost, gwenwyn a dâl,
Gwayw llifaid, gwäell ofal.
Esyllt bryd ai dyd er dig,
Aseth cledr dwyfron ysig.
Trwm yw ynof ei hirgadw,
Trwyddew fy mron friwdon fradw,
Trefnloes fynawyd cariad,
Triawch saeth fydd brawdfaeth brad.
128 Erfyn am ei Fywyd


Y fun glaer fwnwgl euraid
O Fôn gynt yn fwyn a gaid,
Nid oes ym obaith weithion
O'th wlad di, ddyn wythliw ton,
Ym Deinioel sant, trachwant trwch,
Ym dir rhydd am dor heddwch.
Ys diriaid nad ystyriais:
No'th gael, ni bu anoeth gais,
Ni bu anrheg na neges,
Eithr fy lladd, waeth ar fy lles.


Trist fűm na'th gawn, ddawn dduael;
Tristach, wyth gulach, o'th gael.
Gwae fi a wnaethost, gost gwyl:
Fy mynnu pan fűm annwyl.
Nid oeddud gall na phallud;
Ni bu dda ym dy rym drud.
Peraist annog fy nghrogi;
Pe'm carud, ni fynnud fi.
Rhyfalch oedd i Bab Rhufain
Fod gennyd, gwyn fy myd main.


Cymer dan gęl a welych,
Cymod am hyn, ddyn gwyn gwych,
A dod, feinir, ym ddirwy,
A phaid â'th gwyn, ddyn mwyn, mwy.
Chwarëus fuam, gam gae;
Chwerw fu ddiwedd y chwarae.


O buost, riain feinir,
Fodlon ym dan fedwlwyn ir,
Na phar, ddyn deg waneg wedd,
Grogi dillyn y gwragedd
Dros beri, ddyweddi ddig,
Dienyddu dyn eiddig.


Ym Mynyw, rwyf Wenhwyfar,
Ym Môn yr haeddaist fy mâr.
Fy mun, mi a fűm ynod;
Geri fu i mi fy mod.
129 Pererindod Merch


Gwawr ddyhuddiant y cantref,
Lleian aeth er llu o nef
Ac er Non, calon a'i cęl,
Ac er Dewi, Eigr dawel,
O Fôn deg, poed rhwydd, rhegddi
I Fynyw dir, f'enaid i,
I geisio, blodeuo'r blaid,
Maddeuaint, am a ddywaid,
Am ladd ei gwas dulas dig,
Penydiwr cul poenedig.
O alanas gwas gwawdferw
Yr aeth, oer hiraeth, ar herw.


Greddf fföes gruddiau ffion.
Gadewis fy newis Fôn.
Crist Arglwydd, boed rhwydd, bid trai,
Gas, a chymwynas, Menai.
Llifnant, geirw luddiant guraw,
Llyfni, bo hawdd drwyddi draw.
Y Traeth Mawr, cludfawr air clod,
Treia, gad fyned trwod.
Y Bychan Draeth, gaeth gerrynt,
Gad i'm dyn gwyn hyn o hynt.
Darfu'r gweddďau dirfawr:
Digyffro fo Ertro fawr.
Talwn fferm porth Abermaw
Ar don drai er ei dwyn draw.
Gydne gwin, gad, naw gwaneg
Dysynni, i dir Dewi deg.
A dwfn yw tonnau Dyfi,
Dwr rhyn, yn ei herbyn hi.
Rheidol, gad er d'anrhydedd
Heol i fun hael o fedd.
Ystwyth, ym mhwyth, gad ym hon,
Dreistew ddwfr, dros dy ddwyfron.
Aeron, ferw hyson hoywserch,
Gad trwod fyfyrglod ferch.
Teifi deg, tyfiad eigiawn,
Gad i'r dyn gadeirio'r dawn.
Durfing drwy'r afon derfyn
Yr ęl ac y dęl y dyn.


Mau hirffawd, mae ym mhorffor,
Os byw, rhwng Mynyw a môr.
Os hi a'm lladdodd, oes hir,
Herw hylithr, hwyr yr holir.
Maddeuaint Mair, neddair nawdd,
I'm lleddf wylan a'm lladdawdd.
Diau, a mi a'i diaur,
Minnau a'i maddau i'm aur.

130 Merch Ragorol


Tair gwragedd â'u gwedd fal gwawn
A gafas yn gwbl gyfiawn
Pryd cain, pan fu'r damwain da,
A roes Duw Nef ar Efa.
Cyntaf o'r tair disgleirloyw
A'i cafas, ehudras hoyw,
Policsena ferch Bria',
Gwaisg o grair yn gwisgo gra.
Yr ail fu Ddiodemaf,
Gwiwbryd goleudraul haul haf.
Trydedd fun, ail Rhun yrhawg,
Fu Elen feinwen Fannawg,
Yr hon a beris cyffro
A thrin rhwng Gröeg a Thro.


Pedwaredd, ddisalwedd serch,
Y gain eglurfain glaerferch
Yn dyfod yn deg ddiseml,
Llywy aur dydmwy, i'r deml,
A lluoedd arni'n edrych
Ar lawr, ddisgleirfawr wawr wych.
A myfy, doeth ym ofeg
Ymofyn pwy'r dynyn deg.



'Chwaer yw hon, lon oleuloer,
Undad â'r lleuad, i'r lloer,
A nith i des ysblennydd,
A'i mam oedd wawr ddinam ddydd,
Ac o Wynedd pan henyw,

Ac wyr i haul awyr yw.


Nid gwen gwraig ar a adwaen,
Nid gwyn calch ar siambr falch faen,
Nid gwen gwelwdon anghyfuwch,
Nid gwyn ewyn llyn na lluwch,
Nid gwyn pryd dilis disglair
Wrth bryd gwyn fy myd, myn Mair!
Cyngwystl a wnawn cyn cyngor,
Lliw ton geirw pan feirw ar fôr,
Nad byw'r Cristion crededun
A gâi le bai ar liw bun,
Onid ei bod yn glodgamp,
Duw'n fach, yn loywach no'r lamp.
Na fid rhyfedd gan Gymro
Alw bun o'r eiliw y bo.


Poed â'r gyllell hirbell hon
Y cordder gwâl ei galon
A'i cymerai yn hyfryd
Maddau bun a meddu byd.
Po mwyaf fai fy nghyfoeth
A'm canmawl cynhwynawl coeth,
Fwy fwy y clwyfai ar naid,
Cof ynof, cyfyw f'enaid.
Pa les i minnau, wyrda,
Maddau'r dyn a meddu'r da?
Nid oes obaith eleni
I'r dyn a fo hyn no hi.

131 Yr Adarwr


Adarwr o rew dwyrain
Neu heod, eiry gawod gain,
Ym mrisg y dyd ymwaisg, dioer,
Ym mron, wiwlon aeafloer.
O daw gwrthlys melgawad
Ganthaw, a'u rhwydaw yn rhad,
Glud wiail a glydwyan'
Glannau gloyw ffynhonnau glân.
Pan ddęl edn, poen ddeiliadaeth,
I Fôn gyfagos dros draeth,
Yr ednebydd, drarydd dro,
Dirionwch dyfrdir yno.
Disgyn a wna od ysgyg,
Ei blu mewn dyfrlud a blyg,
Yny ddęl, cof rhyfel cawdd,
Llaw'r hwyliwr a'i llwyr heliawdd.


Felly gwnaeth, dwyfoliaeth dad,
Da y'm cur, Duw â'm cariad.
Mal eiry y rhiw, lliw llywy,
Wyneb bun; mi a wn pwy.
Ffynhonnau difas glasteigr,
Yw gloywon olygon Eigr,
Aeron glân, dirperan' glod:
Eurychiaeth Mab Mair uchod.
Cannoch fi (pan y'm cenynt),
Caeau Duw, nad caead ynt!
Glynodd serch a goleunwyf,
Rhwym y glud, yrhôm o glwyf.
Drud ofeg, diriaid afael,
Nid â i ar fynud ael,
Pefrlys pen cytgamus pwyll,
Medd-dod y llygaid modd-dwyll,
Mwy nog edn, mynawg ydiw,
O'r glud llaes; mawrglod ei lliw.


Hir gariad, dybrydiad bryd,
Pwyll dirgel, pell yw d'ergyd.
Ei meinion dduon ddwyael
Yw'r gwiail glud, golud gael.
Mwy ar ddyn ael blu mwyalch
No llinyn saer ar gaer galch.
Breinawlwedd wybren eilun,
Hydraul bwyll, hyd ar ael bun,
Hualwyd, cadwynwyd cof,
Haul y dawn, hoelied ynof.

132 Y Drych


Ni thybiais, ddewrdrais ddirdra,
Na bai deg f'wyneb a da,
Yni syniais yn amlwg
Yn y drych; llyna un drwg!
Yna dywod o'r diwedd
Y drych nad wyf wych o wedd.


Melynu am ail Luned
Y mae'r croen, mawr yw na'm cred.
Gwydr yw'r grudd gwedy'r griddfan,
A chlais melynlliw achlân.
Odid na ellid ellyn
O'r trwyn hir; truan yw hyn.
Pand diriaid bod llygaid llon
Yn dyllau terydr deillion?
A'r ffluwch bengrech ledechwyrth
Bob dyrnaid o'i said a syrth.


Mawr arnaf, naid direidi:
Y mae'r naill, ar fy marn i,
Ai 'mod yn gwufr arddufrych,
Natur drwg, ai nad da'r drych.
Os arnaf, gwn naws hirnwyf,
Y mae'r bai, poed marw y bwyf!
Os ar y drych brych o bryd
Y bu'r bai, wb o'r bywyd!


Lleuad las gron, gwmpas graen,
Llawn o hud, llun ehedfaen,
Hadlyd liw, hudol o dlws,
Hudolion a'i hadeilws.
Breuddwyd o'r modd ebrwydda',
Bradwr oer a brawd i'r ia,
Ffalstaf, gwir ddifwynaf gwas,
Fflam fo'r drych mingam iawngas!


Ni'm gwnaeth neb yn wynebgrych
Os gwiw coeliaw draw i'r drych,
Onid y ferch o Wynedd;
Yno y gwys difwyno gwedd.

133 Y Serch Lladrad


Dysgais ddwyn cariad esgud,
Diwladaidd, lledradaidd, drud.
Gorau modd o'r geiriau mad
Gael adrodd serch goledrad.
Cyfryw nych cyfrinachwr,
Lledrad gorau gariad gwr.


Tra fuom mewn tyrfaau,
Fi a'r ddyn, ofer o ddau,
Heb neb, ddigasineb sôn,
Yn tybiaid ein atebion,
Cael herwydd ein coel hirynt
A wnaetham ogytgam gynt;
Bellach modd caethach y cair
Cyfran, drwy ogan, drigair.
Difa ar un drwgdafod
Drwy gwlm o nych, dryglam nod,
Yn lle bwrw enllib eiriau
Arnam, enw dinam, ein dau.
Trabalch oedd o chaid rhybudd
Tra gaem gyfrinach trwy gudd.


Credais, addolais i ddail
Tref f'eurddyn tra fu irddail.
Digrif ynn, fun, un ennyd
Dwyn dan un bedwlwyn ein byd.
Cydlwynach, difyrrach fu,
Coed olochwyd, cydlechu,
Cydfwhwman marian môr,
Cydaros mewn coed oror,
Cydblannu bedw, gwaith dedwydd,
Cydblethu gweddeiddblu gwydd,
Cydadrodd serch â'r ferch fain,
Cydedrych caeau didrain.
Crefft ddigrif rydd fydd i ferch
Cydgerdded coed â gordderch.
Cadw wyneb, cydowenu,
Cydchwerthin finfin a fu,
Cyd-ddigwyddaw gerllaw'r llwyn,
Cydochel pobl, cydachwyn,
Cydfod mwyn, cydyfed medd,
Cydarwain serch, cydorwedd,
Cyd-ddaly cariad celadwy
Cywir, ni manegir mwy!

134 Garlant o Blu Paun


Boreddydd, bu wawr eiddun,
Y bu ym gyfarfod â bun,
Yn ungof serch, iawn angerdd,
Yn ael coed yn eilio cerdd.
Erchais i'm bun o'm unoed
Blethu cainc o blith y coed,
Yn gyrn heirdd, yn goron hoyw,
Yn erlant ym, yn irloyw.
Bid ogylch serch, be digardd,
A bun atebodd oe bardd:


"Pur yw dy lais, parod lef,
Pa na wyddud, paun addef,
Mae truan, anniddan oedd,
Noethi bedw'n eithaf bydoedd.
Nid oes ar fedw, nid edwyn,
O'r dail a fai wiw eu dwyn.
Ni weaf innau wiail,
Nid gwiw o'r llwyn dwyn y dail."


Ym y rhoes yn lliosawg
Y rhodd a gadwaf y rhawg,
Gerlant cystal ag eurlen,
O wisg paun i wasgu pen.
Blaen talaith, bliant hyloyw,
Blodau hardd o blu da hoyw.
Glân wead gloywon wiail,
Glo˙nnau Duw, gleiniau dail,
Te˙rnaidd waith, twrn oedd wiw,
Tyrrau, troellau fal trilliw.
Llugyrn clyr, llygaid gwyr gwynt,
Lluniau lleuadau ydynt.
Da yw o chair, dioer na chyll,
Drychau o ffeiriau Fferyll.
Gwn ras hir, gwen a roes hon,
Gerlant oe phrydydd geirlon.
Hoff loywgamp oedd ei phlygu,
A'i phleth o esgyll a phlu.
Rhodd serch meinferch oe mwynfardd,
Rhoes Duw ar hon, rhestri hardd,
Bob gwaith a mwyniaith manaur,
Bob lliw fal ar bebyll aur.

135 Telynores Twyll


Caeau, silltaerynnau serch,
A gwawd y tafawd, hoywferch,
Ac aur, gwn dy ddiheuraw,
I'th lys a roddais i'th law.
Anun, wych loywfun, a chlwyf,
A deigrnych, drem adegrnwyf,
Fy ngelynion, holion hy,
Fedel aml, fu dâl ymy.
A gwe deg, liw'r gawad ôd,
O sirig a rois erod;
Gweywyr serch gwaeth no gwyr saint
A gefais drwy ddigofaint.
Yn iarlles eiry un orlliw
Y'th alwn, gwedd memrwn gwiw;
Yn herlod salw y'm galwud
I'm gwydd drwy waradwydd drud.


Gwiwddyn wyd, Gwaeddan ydwyf,
Gwaethwaeth newidwriaeth nwyf.
Gyrraist fi yn un gerrynt
Gwaeddan am ei gapan gynt,
O hud a rhyw symud rhus
A lledrith yn dwyllodrus.
O ddyad twyll ydd wyd di,
Anfoes aml, yn fy somi;
Dyn gannaid, doniog annwyd,
Ddifai dwf o Ddyfed wyd.
Nid un ysgol hudoliaeth
Na gwarae twyll, cymwyll caeth,
Na hud Menw, na hoed mynych,
Na brad ar wyr, na brwydr wych,
Uthr afael, wyth arofun,
Eithr dy hud a'th air dy hun.
Anaml y cedwy unoed,
Ail rhyfel Llwyd fab Cel Coed.


Tri milwr, try ym olud,
A wyddyn' cyn no hyn hud:
Cad brofiad, ceidw ei brifenw,
Cyntaf, addfwynaf oedd Fenw;
A'r ail fydd, dydd da ddyall,
Eiddilig Gor, Wyddel call;
Trydydd oedd, ger muroedd Môn,
Math, rhwy eurfath, rhi Arfon.
Cerddaist ti ar benceirddiaeth
Cyfnod gwyl, cyfnewid gaeth;
Da dlyy, wen gymhenbwyll,
Delyn ariant, tant y twyll.
Henw yt fydd, tra fo dydd dyn:
Hudoles yr Hoyw Delyn;
Enwog y'th wnair, gair gyrddbwyll,
Armes, telynores twyll.


Y delyn a adeilwyd
O radd nwyf, aur o ddyn wyd;
Mae erni nadd o radd rus
Ac ysgwthr celg ac esgus;
Ei chwr y sydd, nid gwydd gwyll,
O ffyrf gelfyddyd Fferyll;
Ei llorf a'm pair yn llwyrfarw
O hud gwir ac o hoed garw;
Twyll yw ebillion honno
A thruth a gweniaith a thro.
Deulafn o aur a dalant
Y dwylo tau yn daly tant;
Wi o'r wengerdd, wawr wingoeth,
A fedry di o fydr doeth!


Trech yw crefft, meddir, hir hud,
Ne gwylan befr, no golud.
Cymer, brad nifer, bryd Nyf,
Gannwyll gwlad Gamber, gennyf,
Lawrodd ffawd, lariaidd ei pharch,
Le yr wyl, liw yr alarch.

136 Merch o Is Aeron


Celennig yw cael annerch
Calon Is Aeron a'i serch.
Gwan y bardd sythardd, seithug,
Gwawn Geredigiawn a'i dug.


Gwae a fwrw, gwiw oferedd,
Ei serch, meirionesferch medd,
Llary bryd, hi yw lloer ei bro,
Lluniaeth ocr, lle ni thycio.
Gwae a wyl â gwyw olwg
Ar fun aur ddiaerfen wg,
Ni ddiddyr faint ei ddeuddeigr
O'i chariad, diwygiad Eigr.
Gwae a oerddeily gwayw erddi
Oddi fewn, mal ydd wyf i,
Yn drysor bun, yn drasyth,
Yn ddadl fawr, yn ddidal fyth.
Gwae a wnęl rhag rhyfel rhew
Dy ar draeth, daear drathew,
Bydd anniogel wely,
Byr y trig a'r berw a'i try.
Gwae a gâr, gwiw y gorwyf,
Gwen drais, gwenifiais gwayw nwyf,
Gwynllathr ei gwedd, gweunllethr gwawn,
Gwynlliw'r geirw, gwenlloer Garawn.


Erfai leddf, oerfel iddi,
Ar fy hoen neur orfu hi.
Eirian liw, oroen lawir,
Euren deg o Aeron dir,
Aerau len, eiry oleuni,
Ar ei hyd a eura hi.

137 Merched Llanbadarn


Plygu rhag llid yr ydwyf,
Pla ar holl ferched y plwyf!
Am na chefais, drais drawsoed,
Ohonun yr un erioed,
Na morwyn, fwyn ofynaig,
Na merch fach na gwrach na gwraig.
Pa rusiant, pa ddireidi,
Pa fethiant na fynnant fi?
Pa ddrwg i riain feinael
Yng nghoed tywylldew fy nghael?
Nid oedd gywilydd iddi
Yng ngwâl dail fy ngweled i.


Ni bu amser na charwn —
Ni bu mor lud hud â hwn —
Anad gwyr annwyd Garwy,
Yn y dydd ai un ai dwy,
Ac er hynny nid oedd nes
Ym gael un no'm gelynes.
Ni bu Sul yn Llanbadarn
Na bewn, ac eraill a'i barn,
A'm wyneb at y ferch goeth
A'm gwegil at Dduw gwiwgoeth.
A chwedy'r hir edrychwyf
Dros fy mhlu ar draws fy mhlwyf,
Syganai y fun befrgroyw
Wrth y llall hylwyddgall, hoyw:


'Godinabus fydd golwg —
Gwyr ei ddrem gelu ei ddrwg —
Y mab llwyd wyneb mursen
A gwallt ei chwaer ar ei ben.'


'Ai'n rhith hynny yw ganthaw?'
Yw gair y llall geir ei llaw,
'Ateb nis caiff tra fo byd,
Wtied i ddiawl, beth ynfyd!'


Talmithr ym rheg y loywferch,
Tâl bychan am syfrdan serch.
Rhaid oedd ym fedru peidiaw
â'r foes hon, breuddwydion braw.
Gorau ym fyned fal gwr
Yn feudwy, swydd anfadwr.
O dra disgwyl, dysgiad certh,
Drach 'y nghefn, drych anghyfnerth,
Neur dderyw ym, gerddrym gâr,
Bengamu heb un gymar.

138 Merch yn Ymbincio


Rhai o ferched y gwledydd,
Se'i gwnân ar ffair, ddinan ddydd,
Rhoi perls a rhubi purloyw
Ar eu tâl yn euraid hoyw,
A gwisgo rhudd, mwyfudd merch,
A gwyrdd, gwae ni fedd gordderch.
Ni welir braich, goflfaich gael,
Na mwnwgl un dyn meinael
Heb yn ei gylch, taerwylch tes,
Baderau, bywyd eres.


Ai rhaid i'r haul, draul dramwy,
O'r lle mae geisio lliw mwy?
Nid rheidiach i'm byd rhydeg
Rhoi rhactal am y tâl teg
Nac edrych draw'n y gwydryn;
Da iawn yw gwedd y dyn gwyn.


Y bwa yw ni bo iach,
Rhier dau hanner haeach,
I gyfranc, ddidranc ddodrefn,
Ag aur y lliwir ei gefn;
Ac er mawrwerth y gwerthir
Y bwa hwn, gwn mae gwir.
Ni thebygir, gwir gofiad,
Mewn peth teg fod breg na brad.


Mair! ai gwaeth bod y mur gwyn
Dan y calch, doniog cylchyn,
No phe rhoddid, geubrid gwr,
Punt er dyfod i'r peintiwr
I beintio'n hardd bwyntiau'n hoyw,
Lle arloes â lliw eurloyw
A lliwiau glân ychwaneg,
A lluniau tarianau teg?


Dilys, fy nghorff, lle delwyf,
Deuliw'r sęr, dolurus wyf.
Dithau, difrodiau dy frawd,
Dynyn danheddwyn haeddwawd,
Gwell wyd mewn pais wenllwyd wiw
Nog iarlles mewn gwisg eurlliw.

139 Gwahanu


Fal yr oeddwn ymannos,
Druan iawn, am draean nos
Yn rhodio, rhydaer ddisgwyl,
Rhy addwyn oedd, rhyw ddyn wyl,
Ger llys Eiddig a'i briod,
Gwaeddai i'm ôl pe gwyddai 'mod,
Edrychais, drychaf drymfryd,
Tew gaer, gylch y ty i gyd.
Cannwyf drwy ffenestr wydrlen,
Gwynfyd gwyr oedd ganfod gwen,
Llyna ganfod o'm ystryw
Yr un fun orau yn fyw.
Llariaidd oedd llun bun bennwyr
A'i lliw fal Bronwen merch Llyr.
Nid oedd lun dydd oleuni
Na haul wybr loywach no hi.
Mawr yw miragl ei gwynbryd.
Mor deg yw rhag dyn byw o'r byd.
Mynnais gyfarch gwell iddi.
Modd hawdd ymatebawdd hi.
Doethom hyd am y terfyn
Ein dau. Ni wybu un dyn.
Ni bu rhyngom uwch trigair.
O bu ni wybu neb air.
Ni cheisiais wall ar f'anrhaith.
Pe ceisiwn, ni chawswn 'chwaith.
Dwy uchenaid a roesom
A dorrai'r rhwym dur yrhôm.
Ar hynny cenais 'Yn iach,
Feinir'. Ni bu neb fwynach.
Un peth a wnaf yn fy myw:
Peidio â dwedyd pwy ydyw.

140 Y Llw


Caru'r wyf, gwaith hynwyf gwyllt,
Eneth ddiseml, nith Esyllt,
Lliwydden wylltwen walltaur.
Llawn yw o serch, llinos aur,
Cyfliw Fflur ac eglurwawn,
Cangen gethinwen goeth iawn.


Meddai rai ym, rym rwymserch,
'Gwra y mae gorau merch
Eleni, ail Eluned,
Oroen crair, oeryn a'i cred'.
Ni feiddiaf, anhy feddwl,
(Gwae'r bardd a fai gywir bwl!)
Deune'r haf, dwyn y rhiain
I drais, unlliw blodau'r drain.
Ei chenedl feilch, gweilch Gwynedd,
Gorau'n gwlad, gwerin ei gwledd,
A'm lladdai am ei lluddias
I briodi'r gwr, brwydr gas!


Oni chaf, araf eurair,
Hon i mi, liw hoywne Mair,
Nid oes, mau einioes annudd,
I'm bryd o gwbl ddifri brudd,
Myn delw Gadfan – ai dilyth? –
A'r grog fyw, fynnu gwraig fyth.

141 Llw Gau


Y ferch anllad a'm gwadawdd,
Orlliw haul, ar ei llw hawdd,
Cam iawn wedy'r cymwynas,
â'r geiriau glud i'r grog las,
Wych eurddyn, o chyhyrddawdd
Ymi â hi, amau hawdd,
Eiliw Enid, lw anoeth,
Elid yn ôl, aelod noeth.


Do do law, da deuluwas,
Dawn i'i bardd, do enau bas;
Do ddwyfron dan fedwfron fad,
Do ddeufraich, nid oedd afrad;
Do bob cyfryw byw o beth,
Digri sôn, do groesaneth.
Deddyw o'i phen lw diddim,
Do do – o gwyr Duw ado dim.

142 Bargeinio


Ni chwsg bun gyda'i hunben,
Ni chaiff arall wall ar wen.
Ni chwsg yn amgylch ei chaer
A warcheidw fy niweirchwaer.
Ni mynnai lai, ni wnâi les,
No chwephunt, ar ei chyffes.
Minnau, da gwyddwn fasnach,
A roddwn bunt i'r ddyn bach;
Ond na rown bunt ar untu
I'm dyn drwyadl geinddadl gu.
Chweugain, o châi feichiogi,
I'r ddyn aur a roddwn i,
A'r chweugain ar oed chwegwaith
A roddwn, deuwn i'r daith.
O'r chweugain, mirain eu maint,
Y trigwn ar roi trugaint.
O'r trugain hyn, ni fyn fi,
Digon oedd deugain iddi.
A hefyd, freuddwyd fryd fraint,
O dygai gwbl o'm deugaint,
Gormodd yw gwerth bun gerth gain,
Aros agos i ugain.
Deuddeg ceiniog dan ddormach,
Neu wyth dan bwyth i'm dyn bach.
Chwe cheiniog yw'r llog yn llaw,
Pedair a rown rhag peidiaw.
O bedair i dair dirwy,
Ac o dair ydd air i ddwy.
Och am arian yn echwyn,
Ceiniog y caid f'enaid fwyn.
Ni allaf, ond f'ewyllys,
Arian i wen ar ben bys.


'O mynny, nef i'm enaid,
Y corff, dros y corff y'i caid,
A llw gwas dan ddail glasberth
Nad hagr, gwen, ond teg yw'r gwerth.'


Oerfel iddo os myfy,
Oni fyn hyn, fy nyn hy,
Nid er nas talai'r forwyn,
A ry mwy fyth er ei mwyn.

143 Merch Gyndyn


Fal yr oeddwn yn myned
Dros fynydd, gwyr crefydd Cred,
A'm hen dudded amdanaf
Fal amaeth mewn hiraeth haf,
Nacha geingen ar y rhos
O forwyn i'm cyfaros.
Cyfarch, meddwl alarch mwyn,
Gwell iddi, ddyn gall addwyn;
Ateb a wnaeth ei phrydydd,
Ateb serch o'm tyb y sydd.


Cydgerdded fal merched Mai,
Ag oerddyn ni chydgerddai;
Gosyml fűm am forwyn lân,
Gosyml ni bu am gusan;
Canmol ei llygaid gloywon,
Canmolid prifeirdd heirdd hon;
Gofyn, cyn dęl rhyfeloedd,
A fynnai fi, fy nef oedd.


'Ni chai, fab o ael y fro,
Un ateb, na wn eto.
Down i Lanbadarn dduw Sul
Neu i'r dafarn, wr diful,
Ac yno yn yr argoed
Neu'n y nef ni a wnawn oed.
Ni fynnwn rhag cael gogan
Wybod 'y mod mewn bedw mân.'


'Llwfr iawn y'm bernir o'th serch
A dewrddyn yw dy ordderch.
Nac eiriach, diledach do,
Er cynnen y wraig honno.
Mi a wn blas o lasgoed
A'r ail nis gwybu erioed,
Ac nis gwybydd dyn eiddig
Tra fo llen ar bren a brig.
Cymryd fy ngheniad, forwyn,
Ceidwades, lladrones llwyn.'

144 Merch Fileinaidd


Hoed cas, er hyd y ceisiwyf,
Hudol serch, ehudlas wyf,
Herwydd maint yw'r awydd mau,
Hely a diol haul Deau,
Hoen ewyngaen ar faen fainc,
Hoyw dduael, hi a ddiainc.
Ni chaf fi hi o'i hanfodd
A bun ni'm cymer o'i bodd.
Ni thawaf, od af heb dâl,
Mwy nog eos mewn gwial.


Mair a Duw a Mordëyrn,
Y rhai a wyl fy chwyl chwyrn,
A wnęl, hwn yw rhyfelnwyf,
Ymy y naill, am fy nwyf,
Ai buan farw heb ohir
Ai cael bun hael a byw'n hir.


Rhydebig, medd rhai dibwyll,
Na wn (panid hwn yw twyll?)
Prydu gair, pryd a garwyf,
Eithr i'r un, athro oer wyf.
O ganmol bun hun heirddryw
O gerdd dda, ac arwydd yw,
Ni rôi ryw borthmon llon llwyd
Er ugeinpunt a ganpwyd.
Ni roed ym, nawrad amwyll,
Gwerth hyn, ond gwarae a thwyll.
Mul anrheg oedd, mal unrhyw
O bai wr â bwa yw
Yn saethu, lle sathr angor,
Gwylan gair marian y môr,
Heb goel budd, heb gael y byllt,
Na'r edn ewinwedn wenwyllt.
Gwydn wyf, bwrw gwawd yn ofer,
Gwaeth no bwrw â saeth y sęr.

145 Esgeuluso'r Bardd


Traserch ar wenferch winfaeth
A rois i, fal yr âi saeth.
Mi a euraf bob morwyn
O eiriau mawl er ei mwyn.
Och fi, drwg yw ei chof draw
Amdanaf, mae'm diwynaw.
Bűm gynt, ger wyneb em gain,
Anwylfardd i wen aelfain,
A phellach, er na phallwyf
Is gil serch, ysgeulus wyf.
Gorweddais ar gwr addail
Gyda'r ddyn dan goed ar ddail.
Bűm grair, er na bai im grefft,
Groengroen â'r ddyn gywreingrefft.
Ni fyn fy mun, er fy mod,
Fyd annibech, f'adnabod.
Ni chaf mwy, eithr drwy drais,
Wraig iefanc ar a gefais.
Ni fyn merch, er ei pherchi,
'Ngolud oedd, fy ngweled i
Mwy no phei rhoid mewn ffair haf
Barf a chyrn byrfwch arnaf.

146 Disgwyl yn Ofer


Deg nithiad, doe y gwneuthum,
Duw Llun, oed â bun, y bűm.
Lle gwelais hoen geirw, trais trai,
DduwSul, y hi addawsai
Ddyfod i eilwydd ofyn
Lle ni ddoeth llawen o ddyn.


Llawer golwg, ddyn llawen,
Llariaidd a gweddaidd yw gwen,
O frys haf a fwriais i
I fry parth â'r fro eiddi,
Tawel fryd, uwch y tywyn
Tua lle'dd oedd. Twyllai ddyn.
Morwyn yw, mirain awen,
A mefl i minnau–Amen!–
O rhof, yn rhad y'm gwadawdd,
I dwyll hon, ac nid dull hawdd.


O'r borau, ddyn goleuwefr,
Hyd anterth dan y berth befr,
O anterth, pridwerth prydydd,
Hyd hanner dau amser dydd,
O hanner dydd a honnir
Hyd byrnhawn a bery'n hir,
O byrnhawn, sôn digawn syml,
Hyd y nos, hoed annisyml,
Hirwyl yw ym ei haros,
Eurwawr hardd, ar war y rhos.
Pe bawn, myn y Pab annwyl,
Yn y llwyn, anneall hwyl,
Cyd y bu'r gwr, cyflwr cail,
Ebwch gwae, wrth y baich gwiail,
Gwyn ac addwyn ei hwyneb,
–Gwae fi!–ni welwn i neb.

147 Cyngor gan Frawd Bregethwr


Doe ym mherigl y ciglef
Ynglyn aur angel o nef,
Ac adrodd pynciau godrist
Ac adail gron ac awdl Grist.
Disgybl Mab Mair a'm dysgawdd —
Fal hyn y dywad, fawl hawdd:


'Dafydd o beth difeddw bwyll,
Digymar gerdd, da gymwyll,
Dod ar awen dy enau
Nawdd Duw, ac na ddywaid au.

Nid oes o goed, trioed trwch,
Na dail ond anwadalwch.
Paid â bod gan rianedd,
Cais er Mair casäu'r medd.
Ni thalai ffaen gwyrddflaen gwydd
Na thafarn, eithr iaith Ddofydd.'


'Myn y Gwr a fedd heddiw,
Mae gwayw i'm pen am wen wiw,
Ac i'm tâl mae gofalglwyf
Am aur o ddyn, a marw 'dd wyf.'

148 Y Bardd a'r Brawd Llwyd


Gwae fi na wyr y forwyn
Glodfrys, a'i llys yn y llwyn,
Ymddiddan y brawd llygliw
Amdanai y dydd heddiw.


Mi a euthum at y Brawd
I gyffesu fy mhechawd.
Iddo 'dd addefais, od gwn,
Mae eilun prydydd oeddwn,
A'm bod erioed yn caru
Rhiain wynebwen aelddu,
Ac na bu ym o'm llawrudd
Les am unbennes na budd,
Ond ei charu'n hir wastad
A churio'n fawr o'i chariad,
A dwyn ei chlod drwy Gymru
A bod hebddi er hynny,
A damuno ei chlywed
I'm gwely rhof a'r pared.


Heb y Brawd wrthyf yna,
'Mi a rown yt gyngor da.
O cheraist eiliw ewyn,
Lliw papir, oed hir hyd hyn,
Llaesa boen y dydd a ddaw,
Lles yw i'th enaid beidiaw,
A thewi â'r cywyddau
Ac arfer o'th baderau.
Nid er cywydd nac englyn
Y prynodd Duw enaid dyn.
Nid oes o'ch cerdd chwi, y glęr,
Ond truth a lleisiau ofer,
Ac annog gwyr a gwragedd
I bechod ac anwiredd.
Nid da'r moliant corfforawl
A ddyco'r enaid i ddiawl'.


Minnau atebais i'r Brawd
Am bob gair ar a ddywawd.
'Nid ydyw Duw mor greulon
Ag y dywaid hen ddynion.
Ni chyll Duw enaid gwr mwyn
Er caru gwraig na morwyn.
Tripheth a gerir trwy'r byd:
Gwraig a hinon ac iechyd.
Merch sydd decaf blodeuyn
Yn y nef ond Duw ei hun.
O wraig y ganed pob dyn
O'r holl bobloedd ond tridyn.
Ac am hynny nid rhyfedd
Caru merched a gwragedd.


O'r nef y cad pob digrifwch
Ac o uffern bob tristwch.
Cerdd a bair yn llawenach
Hen ac ieuanc, claf ac iach.
Cyn rheitied i mi brydu
Ag i tithau bregethu,
A chyn iawned ym glera
Ag i tithau gardota.
Pand englynion ac odlau
Yw'r hymner a'r segwensiau,
A chywyddau i Dduw lwyd
Yw llaswyr Dafydd Broffwyd?


Nid â'r un bwyd ac enllyn
Y mae Duw'n porthi pob dyn.
Amser a osoded i fwyd
Ac amser i olochwyd,
Ac amser i bregethu
Ac amser i gyfanheddu.
Cerdd a genir ym mhob gwledd
I ddiddanu rhianedd,
A phader yn yr eglwys
I geisio tir Paradwys.


Gwir a ddywad Ystudfach
Gyda'i feirdd yn cyfeddach,
'Wyneb llawen llawn ei dy,
Wyneb trist drwg a ery'.
Cyd caro rhai sancteiddrwydd
Eraill a gâr gyfanheddrwydd.
Anaml a wyr gywydd pęr
A phawb a wyr ei bader.
Ac am hynny, 'r deddfol Frawd,
Nid cerdd sydd fwyaf pechawd.


Pan fo cystal gan bob dyn
Glywed pader gan delyn
â chan forynion Gwynedd
Glywed cywydd o faswedd
Mi a ganaf, myn fy llaw,
Y pader fyth heb beidiaw.
Hyd hynny mefl i Ddafydd
O chân bader ond cywydd'.

149 Rhybudd y Brawd Du


Modd elw ydd wy'n meddyliaw
Amarch y padrďarch draw.
Duw a wyr, synnwyr â sôn,
Deall y brodyr duon.
A'r rhain y sydd, ffydd ffalsddull,
Ar hyd yr hollfyd yn rhull,
Pwl gwfaint, pobl ogyfoed,
Bob ddau dan yr iau erioed.


Yna y cefais druth atgas
Gan y brawd â'r genau bras
Yn ceisio, nid cyswllt rhwydd,
Fy llygru â'i haerllugrwydd.
Llyma fal y cynghores
Y brawd â'r prudd dafawd pres:


'Ystyr pan welych y dyn
Ebrwydded yr â'n briddyn.
Yn ddilys yr â i ddelw
Yn y ddaear yn ddielw'.


'Cyd ęl i dywarchen ffloch,
Yn bryd hagr, y brawd dugoch,
Nid â llewyrchgnawd mirain,
Pryd balch, ond unlliw'r calch cain'.


'Dy serch ar y ferch feinloyw,
Aur gwnsallt ar hirwallt hoyw,
Hynny a'th bair i'r pair poethgroen,
A byth ni'th gair o'r pair poen'.


Yna y dwedais wrthaw,
'Y brawd du, ie, bry, taw!
Twrn yw annheilwng i ti
Tristäu dyn tros dewi.
Er dy lud a'th anudon
A'th eiriau certh a'th serth sôn,
Mefl ym o gwrthyd Dafydd
O'r rhai teg deg yn un dydd'.

150 Morfudd yn Hen



Rhöed Duw hoedl, rhad didlawd,
Rhinllais frân, i'r rhawnllaes frawd.
A geblynt, ni haeddynt hedd,
Y brawd o gysgawd gosgedd
Nęr a rifer o Rufain,
Noeth droed, wr unwallt nyth drain.
Rhwyd yw'r bais yn rhodio'r byd,
Rhyw drawsbren, rhad yr ysbryd,
Periglor gerddor geirddoeth,
Barcutan, da y cân, Duw coeth.
Mawr yw braint siartr ei gartref,
Maharen o nen y nef.
Huawdl o'i ben gymhennair,
Hoedl oe fin, hudol i Fair.
Ef a ddywawd, wawd wydnbwyll,
Am liw'r dyn nid aml ar dwyll:


'Cymer dy hun, ben cun cant,
Grysan o'r combr a'r grisiant;
Gwisg, na ddiosg wythnosgwaith,
Gwasgawd mwythus lyfngnawd maith.'
– Dirdrais fu ym, chwedl ail Dirdri –
'Duach fydd' – a dwyoch fi!


Foel-llwyd ddeheuwawd frawd-ddyn,
Felly'r brawd du am bryd dyn.
Ni pheidiwn, pe byddwn Bab,
â Morfudd tra fűm oerfab.
Weithion, cyhuddeidion cawdd,
Y Creawdr a'i hacraawdd,
Hyd nad oes o iawnfoes iach
Un lyweth las anloywach,
Nid â fal aur da liw'r dyn,
Brad arlwy, ar bryd erlyn.


Brenhines bro anhunedd,
Brad y gwyr o bryd a gwedd,
Braisg oedd, un anun einioes,
Breuddwyd yw; ebrwydded oes!
Ysgubell ar briddell brag,
Ysgawen lwydwen ledwag.
Hudolaidd y'i hadeilwyd,
Hudoles ladrones lwyd.
Henllath mangnel Gwyddeleg,
Hafod oer; hi a fu deg.

151 Yr Adfail


'Tydi, y bwth tinrhwth twn
Rhwng y gweundir a'r gwyndwn,
Gwae a'th weles, dygesynt,
Yn gyfannedd gyntedd gynt,
Ac a'th wyl heddiw'n friw frig,
Dan dy ais yn dy ysig.
A hefyd ger dy hoywfur
Ef a fu ddydd, cerydd cur,
Ynod ydd oedd ddiddanach
Nog yr wyd, y gronglwyd grach,
Pan welais, pefr gludais glod,
Yn dy gongl, un deg yngod,
Forwyn, foneddigfwyn fu,
Hoywdwf yn ymgyhydu,
A braich pob un, cof un fydd,
Yn gwlm amgylch ei gilydd:
Braich meinir, briw awch manod,
Goris clust goreuwas clod,
A'm braich innau, somau syml,
Dan glust aswy dyn glwys disyml.
Hawddfyd gan fasw i'th fraswydd,
A heddiw nid ydiw'r dydd'.


'Ys mau gwyn, gwirswyn gwersyllt,
Am hynt a wnaeth y gwynt gwyllt.
Ystorm o fynwes dwyrain
A wnaeth cur hyd y mur main.
Uchenaid gwynt, gerrynt gawdd,
Y deau a'm didyawdd'.


'Ai'r gwynt a wnaeth helynt hwyr?
Da nithiodd dy do neithwyr.
Hagr y torres dy esyth.
Hudol enbyd yw'r byd byth.
Dy gongl, mau ddeongl ddwyoch,
Gwely ym oedd, nid gwâl moch.
Doe'r oeddud mewn gradd addwyn
Yn glyd uwchben fy myd mwyn.
Hawdd o ddadl, heddiw 'dd ydwyd,
Myn Pedr, heb na chledr na chlwyd.
Amryw bwnc ymwnc amwyll.
Ai hwn yw'r bwth twn bath twyll?'

152 Awdl i Iesu Grist


Oesbraff wyd, Iesu, Ysbryd,—gwiw Ddofydd,
Goddefaist fawr benyd:
Archoll arf, erchyll wryd,
Ar bren croes dros bumoes byd.


Y byd a glybu dy wybodus—gael
O riain feinael ddiwar˙us.
Gwedy d'eni di, Deus,—yn fore
Y'th alwant o'r lle', 'Dom'ne, Dom'nus'.
Diddan dri brenin anrhydeddus—coeth
A ddoeth i'r cyfoeth yn wyr cofus.
Dugon dair anrheg, diwgus—roddi,
O rym, Mair a thi, aur, myrr a thus.
Gwir Dad a Mab Rhad prydus—ac Ysbryd,
Gwir llyw iechyd â gwawr llewychus,
Gwae fi, Dduw Tri, ond trahäus—i neb
Gwerthu dy wyneb, gwyrth daionus?
Ynfydrwydd, Suddas, bu anfedrus—iawn,
Dy roi i estrawn, dirwy astrus;
Gormodd gwaith a rodd o'i rus—amodau:
Gwyro d'aelodau, gwawr dyledus.
I eistedd arnad, ustus—cardotai
O fab y blotai, fu Bilatus.

Doeth i'th gylch yn noeth drwy wenieithus—dôn
Iddewon, lladron rhy dwyllodrus.
Aeth naw i'th rwymaw o'th rymus—lendyd
I brynu penyd ar bren pinus.
Pan welom drosom dy rasus—basiwn
Pa nad ystyriwn poen dosturus?
Dy draed yn llawn gwaed, nid gwydus—dy gof,
Dy ddwylo erof, Duw ddolurus;
Arwyddion angau i'th arweddus—dâl,
A gloes ar wyal, glasu'r wëus;
A'th rwymiad creulon yn orthrymus—gaeth,
Mawr lefain a wnaeth Mair wylofus.
Eisoes ar y groes, grasus—fu'r diwedd,

Dy ddianc o'r bedd medd Mathëus.
Ac wedy hynny o'th glwyf heinus—trwm
Y dyly sentwm dy alw Santus.
O'th gawdd, pwynt anawdd, pand dawnus—fuom
Dy ddyfod atom, Duw ddioddefus?
Gwedy d'angau di, nid gwydus—dros neb,
Da fu i Sioseb dy fyw, Siesus.

153 Credo


Credaf i Naf o nefoedd,
Credo gwych, caredig oedd,
Dôr a'm ceidw rhag direidwaen,
Dawn y blaid, a Duw 'n y blaen.
Rhodded yn faith, berffaith Bôr,
Rhag angen ym rhyw gyngor
I foliannu'n gu gywair
Iesu, a moliannu Mair.
Iawn i bawb, enw heb awgrim,
Moliannu Duw ymlaen dim.


Da fu Iesu dewisiad
A da oedd ei fam a'i dad.
Gorau tad, llathr diathrist,
O dadau Cred fu dad Crist.
Gwerin nef a'n cartrefo!
Gorau mam oedd ei fam fo.
Gwarant fydd i bob gwirair.
Gorau un mab yw Mab Mair.
Gorau merch dan aur goron,
Tecaf a haelaf yw hon.
Da oedd ddwyn, deddf ddaioni,
Gwr o nef yn gâr i ni.
Hwn a addewis i'r Israel.
Hen fu ac ifanc a hael.
Ganed o'i fodd er goddef
Yn ddyn aur ac yn Dduw nef.


Gwnaeth Iesu Nęr o'i geraint
Swrn yn ebystl a saint.
Gwnaeth bader ac offeren,
Gwnaeth oriau a llyfrau llęn.
Rhoes gred i'r bobl gyffredin,
Rhoes i'w plith gwenith a gwin.
Rhoes ei gorff heb ddim fforffed
Ar bren croes i brynu Cred.
Deugeinawr, deg ogonedd,
Hael Iesu y bu mewn bedd.
Gwedi cyfodi o'n câr
I gyrchu pawb o garchar,
Ar ôl yr holl ferth'rolaeth,
I nef fry fy Naf yr aeth
Lle doter, medd Sain Sieron,
Croes Duw a henwi Crist Iôn.
Ni ddaw, heb ddiffrydiaw ffrwyth,
Na diawl nac un o'i dylwyth,
Gwir fab Mair, gair o gariad,
I oresgyn tyddyn y Tad.


Gair lles yw dwedyd Iesu
A gorau gair gan Fair fu.
Gair cariad yw o'r gadair
A'r Mab Rhad a gad o'r Gair.
Duw yw'r Gair, di-wyr gariad,
A'r Gair yw Duw ein gwir Dad.
Duw fo'n porth a'n cymhorthwy,
Amen, nid addunwn mwy.

154 Yr Eos a'r Frân


Gwae fi, o gariad gwiw fun,
Nad ytwyf yng Nghoed Eutun,
Lles nifer, ger llys nefawl
Lle y mae galluau mawl.
Ysgyndwr maen dan gaen galch,
Ysgynfa eos geinfalch,
Ys gwyr hi, hydr yw'n gormail,
Ysgwn daith dan ysgîn dail.
Main y cân, brif organ brudd,
Męn a threbl, mwyn ei thrabludd.
Croyw iawn fydd yn nydd a nos
Cref ddiledlef dda loywdlos,
Cathl wynfyd coeth lawenferch,
Canghenddring cainc sawtring serch.
Prid yw ei chof gan Ofydd,
Prydyddes, gwehyddes gwydd.
Agwyddor gain fireinfyw
O gôr dail i gariad yw.


Fal yr oeddwn heb ormail,
Yng nghwpl da yng nghapel dail,
Yn gwarandaw yn ddifreg
Efferen dan ddeilen deg
Gan laswyrwraig y cariad,
Gyneddfau mygr leisiau mad,
Nacha'r frân anwych ar frig,
Lafar, ysgyflgar, goflgig,
Yn dwyn rhuthr dan dinrhythu
I blas yr edn geinlas gu.
Glew dryphwng, nid gloyw drafferth,
'Glaw! Glaw!' meddai'r baw o'r berth.
Sef gwnaeth, deuluwriaeth dail,
Yr eos fygr ar wyail,
Cynhewi a thristäu
Gan bres yr Iddewes ddu.
Llesteiriodd ym ddigrifwch,
Llaes ei phlu, â'r lleisiau fflwch.


Doeth yn ddianoeth ynof,
Duw a'i gwyr, nid â o gof,
Dychymig, bonheddig bwyll,
Rhag irdang, bu ragordwyll:


'Ffull goluddion heb dôn deg,
Ffollach wegilgrach gulgreg,
Edn Eiddig, wyd anaddwyn,
Adref, ddrwg ei llef, o'r llwyn,
Cerdda at Eiddig, dy gâr,
Cyfliw mwsgl, cofl ymysgar.
Marw fu! Pan glywych weiddi
Yr ych dwn, nac eiriach di,
Na saf, yr edn gylfingrwn,
Na sor, gwna ar ei dor dwn.'


Credodd fy mod ar y gwir,
Crwydr arnai, gicai gecir.
Cefais gan lathr ei hasgell,
Loywswydd wiw, leisiau oedd well.

155 Yr Eos


DAFYDD AP GWILYM
Madog ap Gruffudd wyddaer,
Medry aur glod, mydrarf glaer,
Cynnydd Morda' neu Rydderch,
Canwyr y synnwyr a'r serch,
Cywirach oeddud no neb,
Cyweirdant y cywirdeb.
Ti a ddaethost at Ddafydd
Ap Gwilym â gwawd rym rydd.
Ai cof oll ein cyfeillach
A'n cwyn am y bedwlwyn bach?
Amau'r wyf fi ei ddiosg
Heb ymladd, heb ladd, heb losg
O Eiddig—oerfel iddaw!—
â'i gaib—wb o'i raib!—a'i raw.


MADOG BENFRAS
Afraid yw yt ddaly trymfryd
Am bren na bedwen o'r byd
Tra atai Dduw y celyn.
Nis llysg ac nis diysg dyn,
Ac er a ddęl a ddrycin
Ni bydd llwm na chrwm na chrin.


DAFYDD AP GWILYM
Ti a gwynud, dioer, yn llwyr
Be darffai yt, byd orffwyr,
A ddarfu ym, mau lym lid,
Nod mwy ofn, neud mau ofid.
Nid oedd ym o ddiddanwch
Na dyhuddiant, trachwant trwch,
Na cherdd ar fedwen wen wiw
Ond eos loywdlos lwydliw.
Ef a beris gwr o'm gwlad
Ei thitio ond aeth atad.
Synia arnei os gwely,
Ystofwraig mydr gaer hydr hy.
Serchog y cân dan y dail
Salm wiw is helm o wiail.
Deholwraig, arfynaig fwyn,
Da ffithlen mewn diffeithlwyn,
Cloch aberth y serchogion,
Claer, chweg a theg yw ei thôn.
Bangaw fydd ei hunbengerdd
Ar flaen y wialen werdd,
Borewraig serch, ferch firain,
Burddu drem uwch byrddau drain;
Chwaer Guhelyn, befrddyn bach,
Chwibanogl chwe buanach,
Meistres organau Maestran,
No chant, o'r cildant y cân.


Ni adewis yng Ngwynedd
Er pan aeth—ond waethwaeth wedd?—
Lladrones bach llwyd ronell,
Llatai; ni weddai un well.


MADOG BENFRAS
Poed ar ddôr y pilori,
—Amen!—fyth y mynnaf fi,
Y doter gynifer un
A'i ditiodd yng Nghoed Eutun.


DAFYDD AP GWILYM
Yn y fro, tra fynno trig,
Yno deil y Nadolig.
Bydd serchocaf lle y bo.
Da gutorn, Duw a'i gato!

156 Penwisg Merch


Heddiw y gwelaf, Ddafydd,
Hawdd fyd i heddiw a fydd,
Rhwng gwallt a'm gwylltiai yn chwyrn
A dwyael, merch i dëyrn
Rhoi gwerth canpunt ar untal
O gaeau main ac aur mâl.
Weldyna weled anawdd!
Wi o'r tâl dan we aur tawdd!
Myn Croes Naid o fro'r Eidial
A gwaed dyn, gwiw yw y tâl.
Owmal y wlad, leiddiad Lyr,
Yw penwisg fy nyn poenwyr
Ac asur ar gyswllt ia
Yn gwasgu, combr yw'r gwisgiad
Hoen Fflur yw'r dyn a'm curia,
Hual ar dâl o aur da.
Mau lwyr gwyn, Maelor gannwyll,
Mae ar ei thâl, mawr ei thwyll
Fflwch ractal, mau benial boen,
Fflwring aur, ffloyw reng oroen.
Da lun ar ddail fflwr-dy-lis
Ac aur bwrw o gaer Baris.
Gem yw ar y ddau gymwd,
Ac aur Ffrainc, unne geirw ffrwd,
Awr loywbrim, eiry oleubryd,
Anrhydedd beilch wragedd byd.
Gwae fi, Fab Mair ddiwair dda
Ei theced, ac na thycia!


157 Y Fun o Eithinfynydd


Y fun o Eithinfynydd,
F'enaid teg, ni fyn oed dydd.
Feinion aeliau, fwyn olwg,
Fanwallt aur, fuanwyllt wg,
Fy ngwynfyd rhag trymfryd tranc,
Fy nuwies addwyn ieuanc,
Fy nrych, llewych mewn lliwaur,
Fy rhan yw, fy rhiain aur,
Fy swllt dan fynwes elltydd,
Fy serch ar hon fwyfwy sydd.
Fy nillyn mwynwyn manwallt,
Fy nghrair ni chair yn uwch allt.
Ni chyrch hon goed y fron fry,
Ni châr a'i câr, ni chwery.
Ni chair Morfudd i chwarae:
Nych air, caru Mair y mae
A charu'r saint gwych hoywrym
A charu Duw. Ni chred ym.
Ni wyr gwen, anoriog wyf,
Nid edwyn mo'r oed ydwyf.
Ni adwaeniad odineb,
Ni fynnai 'nyn fi na neb.
Ni fynnwn innau, f'anwyl,
Fyw oni chawn fun wych wyl.
Am hynny darfu 'mhoeni.
Morfudd fwyn, marw fyddaf fi.

158 Y Garreg Ateb


Ychydig o'r cerrig gerw
Un arfer, widdon oerferw,
â'r garreg hwnt gyriog gau,
Gystoges drosgl gystegau.
Mwy y dywaid heb beidiaw
Ar ael y glyn ar ôl glaw
No Merddin sonfawr mawrddig
Fab Saith Gudyn, y dyn dig.


Agos ym, ac i'm siomi
Yn eryl o'i hymyl hi,
Yn aros merch goris maes
Dan goedlwyn dinag adlaes,
Hyhi i'm ceisio i'n wyl,
Minnau'n ceisio gem annwyl
Fal y ddau Ychen hen hy
Fannog. 'Pa beth a fynny?',
Galw pob un ei gilydd.
Ymgael i gyd—da fyd fydd.


Mewn glasgyll tywyll tawel
Ydd oeddym, da gwyddym gęl,
Mi a'r fun, mau ofynaig,
Yng nghysgod maen graen y graig.
Eresyn doeth, er ised
Yr ymddiddenym, grym gred,
Ateb a gwrtheb yn gau
Yn ei hiaith a wnâi hithau.
Diliwio'r ferch, delw aur fain,
Daly ofn rhag y dolefain,
Ffionaidd rudd, ffo yna.
A phwy o ddyn ni ffôi'n dda?


Artaith oer, dioer, dairdyblyg
Ar freuant y creignant cryg,
Curnen a fref fal cornawr,
Carnedd foel fal caer nadd fawr!
Mae naill i mewn ai ellyll
Ynddi, hen almari hyll,
Ai cwn yn y garreg gau
Sy'n cogor, ai sain cawgiau;
Gwaedd unllef lladd gwydd henllom,
Gwaslef gast gref dan gist grom;
Gwiddon groch yn gweiddi'n greg
Er gyrru ofn o'r garreg.


Llidfawr rwyf, llad warafun,
Lluddiodd fi lle 'dd oedd y fun.
Llesteiriodd wahodd i was.
Mefl iddi am ei luddias!

159 Mawl i'r Ceiliog Bronfraith


Y ceiliog, serchog ei sôn,
Bronfraith, dilediaith loywdon,
Deg loywiaith, doe a glywais,
Dawn fad lon, dan fedw ei lais.
Ba ryw ddim a fai berach
Blethiad na'i chwibaniad bach?


Plygain y darllain deirllith,
Plu yw ei gasul i'n plith.
Pell y clywir uwch tiroedd
Ei lef o lwyn a'i loyw floedd,
Proffwyd rhiw, praff awdur hoed,
Pencerdd gloyw angerdd glyngoed.
Pob llais diwael yn ael nant
A gân ef o gu nwyfiant,
Pob caniad mad mydr angerdd,
Pob cainc o'r organ, pob cerdd,
Pob cwlm addwyn er mwyn merch,
Ymryson am oreuserch.
Pregethwr a llywiwr llęn,
Pęr ewybr, pur ei awen,
Prydydd cerdd Ofydd ddifai,
Prif urddas, prim-y-mas Mai.


Adwaen ef o'i fedw nwyfoed,
Awdur cerdd adar y coed,
Adlais lon o dlos lannerch,
Odlau a mesurau serch,
Edn diddan a gân ar gyll
Yng nglwysgoed, angel esgyll.
Odid ydoedd i adar
Paradwys, cyfrwys a'i câr,
O dro iawngof drwy angerdd
Adrodd a ganodd o gerdd.

160 Y Brithyll


O frithyll, fyfyr ieithydd,
A thyst yt fyddaf i'th ddydd,
Pasg adeilyn, pysg dilwfr,
Pefr frithyll o defyll dwfr,
Mab maeth, taer arfaeth terfysg,
Llyn Tegid lle pesgid pysg.


Rhed o ddawn, er hyd ydd wyf,
Eginyn pysg, o Gonwyf,
Nid oes gennad geladwy
Na chyngor i'r faenor fwy,
Tew frwysg, oleulan Taf fry,
Tadwys i ddwfr, ond tydy.


Dur ni'th ladd, dewredd gladd glan,
Dwfr ni'th fawdd, Deifr ni'th feiddian'.
Ni'th glyw neb yn gohebu,
Ni'th wyl llwfr dan y dwfr du.
Nid rhaid iti, 'm Duw a'r crair,
Nac annwyd nac ofn genwair.


Cred ar fardd, croyw awdr o Fôn,
Crair ar ddwfr croywrudd afon,
Pysg o drychanffrwd, ffrwd ffraeth,
Pellferw o ddwfr, pe pyllfaeth,
Penáig hoyw ar ddwfr croyw Cred,
Pwrcas arweddawdr perced.


Tro hyd pan dorro dwyrwyd,
Tewfyr, creadur cryf wyd.
Duw Ręn Arglwydd rhagod rhwydd,
Ac erof fi dwg arwydd;
Insel cariad, brofiad braw
O air orn, a roir arnaw.


Nofia gyfair llys Greirwy,
Nwyf ym wyd, na nofia mwy.
Diddwylaw ar naw' i'r nef,
A didroed y doi adref.
Brysia, na hir rodia ryd,
Dwg ynn chwedl da i gennyd.

161 Y Sęr


Rho Duw, 'y mun, rhaid i mi
Olwynau Mai eleni
Rhag cerdded gwared, nid gwiw,
A gelltydd, fy nyn gwalltwiw;
Cynyfed llyn ar fryn fry,
Gweled dan fedw ein gwely.
Drud yw'r serch: mau drydar sôn.
Drudaniaeth a dry dynion.


Dugum—ai gefyn digawn?—
Draean nos hynt druan iawn
Ar oddef cael, hael heulfodd,
Cusan bun. Cawswn ei bodd.
Dros ffordd gyfraith yr eithum.
Dall y nos ar foelrhos fűm
Neithwyr, hirffordd gam orddu,
Fal Trystan am feingan fu.
Llawer trefn, agen gefnir,
A gerddais i, gwrddwas hir.
Cerddais ar draws naw cardden
Ac ar hyd moelgaerau hen;
Oddi yno i ddinas
Ellyllon, cyfeillion cas.
Cyrchais o'r dinas glasfawr
Corsydd ar ael mynydd mawr.
Tywyllawdd, ni bu hawdd hyn,
Y morben du i'm erbyn
Fel petwn, frwydr dalgrwn frad,
Yng nghanol geol gaead.


Ymgroesais, afledneisfloedd,
A rhywyr oll, rhy oer oedd.
Dysgais, oerais yn aruthr,
Gywydd i gyweithydd uthr,
Cannog risg mewn aur wisg-gaen,
A fu yn y gerwyn faen.
Minnau yw'r ail am annawn
Yn y gors wenwynig iawn.


Addo myned, ged gydfach,
Landdwyn er fy nwyn yn iach.
Ni chwsg Mab, grair arab gred,
Mair Wyry pan ro mawr wared.
Gweles faint poen bardd gwiwlym.
Gwyl fu Dduw. Goleuodd ym,
Canhwyllau cecs, deuddegsygn,
Cafod deg rhag gofid dygn,
Syber fuan ymddangos,
Sęr i ni, sirian y nos.
Gwyl loyw fu eu goleuaint,
Gwreichion goddaith saith o'r saint;
Eirin fflam oer anoff loer,
Aeron rhylon y rhewloer;
Cilchwyrn lleuad celadwy,
Cynhwyllion hinon yn' 'nhwy;
Llewych gorddgnau y lleuad,
Lliw bron tes, llwybrau ein Tad;
Arwydd cyffredin hindda,
Eryr pob ardymyr da;
Drych callestr, haul goleulawr,
Drychau dimeiau Duw mawr;
Glwys ruddaur glasrew oddef,
Gemau crwper nifer nef.
Cywraint bob ddwy y'u pwywyd,
Cadgamlan wybr lydan lwyd;
Heulwen i ni hoelion ais
Hyd y nef, oed anofais.



Nis dymchwel awel ewybr
O'u pill dyllau ebill wybr.
Maith eu gogylch, nis gylch gwynt,
Marwydos wybr mawr ydynt.
Gwerin ffristiol a tholbwrdd,
Claer eu gwaith, clawr awyr gwrdd.
Nodwyddau, mi a'u diddawr,
Gwisg pen y ffurfafen fawr.
Hyd neithiwyr, bellwyr balloed,
Grymsi ni wybűm i ermoed.
Mawl goleulwys, mâl gloywlwybr,
Meillion ar wynebion wybr.


Gwnaethant les o'u hanes hwyr,
Gild y rhew, goldwir awyr,
Canhwyllau cwyr can hallawr
Ar ober maith yr wybr mawr.
Da y gwyl baderau Duw gwyn
Ar ei lanastr heb linyn.
Dangosasant bant o bwyll
A bryn ym obry'n amwyll,
Y ffyrdd i Fôn a'r ffordd fau.
Fy meddwl oll, Duw, maddau.


Deuthum cyn huno hunyn,
Gwawr ddydd, i lys gorau ddyn.
Ni focsachaf o'm trafael
Eithr hyn, ddyn uthr hael:
Taro'r fwyall gyfallwy
Yn ochr y maen ni chair mwy.

162 Y Ceiliog Du


Cydag ieir cai dy garu,
Y ceiliog dewr â'r clog du,
Cwrelael yn caroli,
Cyfliw ei bais cwfl y bi;
Cydwr fry coedieir y fron,
Cwbl ei amod, cyw blowmon;
Castellwr, diddanwr dyn,
Casulwydr edn ceseilwyn;
Ysgutull yn cynnull cad,
Esgud wybr, ysgod abad;
Ysgwl du ym mlaen osgl dâr,
Esgoblun mewn ysgablar;
Delw eglwyswr dail gleision,
Deilwr, brawd bregethwr bron.
Dy lifrai o'r mwrrai main:
Dwy lawes dew o liain.
Dwbled yt, o blu y dôn',
Dwyael dy fentyll duon.
Crefyddwisg yt a wisgwyd
Crefydd serch, crefyddus wyd.
Ni mynny, ben-ymwanwr,
Bwyd y dydd ond bedw a dwr–
Bwyd o frig coed bedw y fron,
Bwyd ieir fydd mewn bedw irion.
Dy waith yw dwywaith bob dydd
Er eu mwyn, ieir y mynydd,
Yn ael coed cynnal cadoedd
â rhif gwyr, tra rhyfyg oedd.


Gwyddost gyfran ar lannerch
Holl geinciau mesurau serch.
Beiddiwr aer, bydd yr awron
Latai ym at eiliw ton.
Cyfeiria acw yfory
Y dwyrain dan doryn du
Oni ddelych i ddolydd
Dyffryn gwaisg addwyn a gwydd,
A phrif afon, ffyrf ofwy,
A ran y ddôl wair yn ddwy,
A dail yn lled, eilio'n llawn,
Ac adar gogyfoediawn.
Disgyn, edn, dos, genhadwr,
O lwyn dail i lan y dwr.
Gwyl o'r coed, gwylia, wr cain,
Hael dewr, am haul y dwyrain.
Degle'n nes, dwg i liw nyf
Ddeg annerch oddi gennyf.
Dan arwydd ddoe, dawn i'r ddyn,
Arch ym, y mau orchymyn,
Yn y llan ei charu dan llaw
Ac o beth ei gobeithiaw.
Dywaid i wen liw 'sblennydd
Deled i oed, eiliw dydd.
Os daw hi, nos da i'w hwyneb,
I fynydd, ni wybydd neb.

163 Y Frân


Y frân dreigl ymwan draw,
Ylfingorn ddiwyl fangaw,
Dwygoes gadr, digwsg ydwyd,
Da ei modd, edn du, ym wyd
Dra fych ar bren gwyrennig
Fry yn eithafion ei frig.
Wedy cael, afael ufudd,
Gwâl o'r dail, da gwely'r dydd,
Ni'm caiff Eiddig, ddig ddeugwyn,
Yng nghyd â gwyn fy myd mwyn,
Trwsa hydr traws ehedeg,
Tra fych di, trofa wych deg
Yng nghefn coed bedw yn ddedwydd,
Fy mrân, yn darogan dydd.
Cwyn is teml, cenaist ymy
Cyn y dydd rhag cwyn o dy,
Ac erchi drwy naw gorchest
Ym ffo i wrth f'eurddyn yn ffest.


Nawdd Fair arnad i'th adu,
A'th blas, cywair wyd, i'th blu
Rhag brwydr, rhag ynni llwydrew,
Rhag llam cocsud, rhag glud glew,
Rhag magl o linyn tragloyw
Yrhawg am yr esgair hoyw,
Rhag pell affaith pwyll offol,
Rhag pen bollt bedwarollt bôl,
Rhag gwenwyn wybr gorwybrbleth,
Rhag pwyo poen, rhag pob peth.


Ni cheisud pan fynnud fudd,
Goeg na chęl, gig na choludd.
Haws gennyd drwy naws gynnydd
Ar dasg bob amser o'r dydd
Pigo'r gwenith cyn rhithiaw
I drais oddi ar y cae draw.

164 Y Gog


'Dydd da yt, y gog serchogfwyn
Ei llais ar ganghenfrig llwyn,
Cloc y dail, clicied aelaw,
Cloch aberth y drawsberth draw.
P'le buost, edn diwednlais?
Pa wlad bell? Plu yw dy bais.'


'Bűm ynglyn megis dyn dall
Bedeiroes mewn byd arall.
Claf fűm a gwan o anun,
Collais fy harddlais fy hun.
Sefyll dan yr irgyll 'rwyd,
Myn Pedr, ni wn pwy ydwyd.'


'Myfi yw'r bardd digrifair
Mawrserch fryd, myn mawlbryd Mair,
A'th yrrodd, ni'm gwahoddes,
Wtla o'r tir, at eiliw'r tes.'


'Henwa, ddyn ffraeth hiraethnych,
Henw'r Gymraes walltlaes wych.'


'Hawdd y medrwn, gwn ganclwyf,
Henwi gwen, dihunog wyf:
Es ac Ef a llythr hefyd,
En ac A, dwg hynny i gyd.'


'Erchis gwen, eurchwys ei gwallt,
D'annerch dan frig bedwenallt.'


'Moes arwydd — drwg y'm llwyddwyd,
Madws oedd, ai mudes wyd? —
Y ddyn, llawer annerch a ddwg,
Fain oedd wyl, fwynaidd olwg.'


'Hir y byddwn, gwn gellwair,
Ar frig llwyn yn gorllwyn gair,
Oni ddoeth, byd hagrnoeth hyll,
Od tew a gaeaf tywyll.
Euthum gan oerwynt trumnoeth
Gyda'r dail, gwiw awdur doeth.'


'Mae'r arwydd o'r mawr arail,
Y gog adeiniog o'r dail?'


'Cyffylog anserchogfwyn,
Coch westai, addawsai'i ddwyn
Pan oedd — och arwain pín iâ! —
Du y dom, yn dywod yma.'


'Pa bryd y doeth, gyw noethfrych?'


'Gwyl y Grog i gil y gwrych.'


'Ynfyd fu â'i anfad fęr,
Ysgeulus edn ysgeler.
Gwn ei ladd, llid ergydnerth,
Gwr â bollt dan gwr y berth.
Dwg hediad, deg ei hadain,
Dos eilwaith at f'anrhaith fain.
Dwg hi dan frig coedwig cyll,
Disgyn dan ledu d'esgyll.
Lateies, dwg gae Esyllt,
Loywlais wawd, ferch liwlas wyllt.
Dyro, a hed ar fedwlwyn,
Lythr i'r ferch lathrair fwyn.
Dywaid erchi, f'enaid ferch,
Ohonof fi ei hannerch.
Swn cloc mewn perth, ni'th werthir,
Swyddoges gwydd hafddydd hir.
Anwybod wyd, gog lwydfain,
A neawdr wyd yn y drain.
Hed o fedwen ganghenlas
Ar bren plan garbron y plas.
Mwyn o drebl, myn di rybudd
I'r eurloer deg ar liw'r dydd,
A dwg wen eurwallt bennoeth
Allan i 'mddiddan, em ddoeth.
O berth i berth anferthol
Minnau a ddo' hyd yno'n d'ôl.
Drwy dy nerth di a'r Rhiain,
Dygwn y ferch deg wen fain.'

165 Y Draenllwyn


'Y draenllwyn glas urddasawl,
Llety mwyn lle y tyf mawl,
Mewn dail a rhisg y'th wisgwyd.
Mab lledrithiog, arfog wyd.
Mynych y symud maner.
Maith dy sud, anwylyd Nęr.
Mwyn yw dy gofl ym Mai,
Manod liw, gwell no mwnai.
Dioer eurfodd, dwr arfau,
Teg fotleiaeth yw'r dur tau.


Gweli rhyfel gan d'elyn.
Gwae fi! Ple'r wyt ti? On'd tyn?
Nid oes yma dy hanner
Na'th draean, liw sirian sęr.

Torres, fy nghrair, d'esgeiriau,
Twrn ffyrnig, a'r tewfrig tau.
Dywaid, liw cafod ewyn,
Poen a'th ddug, pwy a wnaeth hyn'.


'Ni wn i achos, gwan wyf,
Dig a briwedig ydwyf,
Ond y carn-filain, anoeth
Ymy ddoe, yma a ddoeth
â bwyall droedafall draw
O'm cwr i'm lladd a'm curaw,
A llusgo fy naill esgair
Gydag ef,—gwae finne, Fair!—
A dwyn fy siop a'm topiau
A'r pigau cain a'r main mau'.


'Tyfu cwrel y'th welais.
Tegach dy dop no siop Sais.
Tau ofalon, taw, filwr,
Ti a gai iawn teg i wr:
Lladd y taeog, a'i grogi,
â cherdd cyn farwed â chi'.

166 Yn y Winllan


Digiais am na chawn Degau:
Dihun, hael fun, yw'r hwyl fau;
Dyfod dan wyrddion defyll—
Bid ei chael—dail bedw a chyll,
Can hawddfyd, ar hyd y rhiw
I winllan bun ewynlliw;
Tuchan yn daer wrth gaer galch
A griddfan am Eigr ruddfalch.


Pan glybu bun, harddlun hyd,
Gwynfan Trystan rhag tristyd,
Llariaidd y rhoes drwy foes fwyn
Llef aur ar ei llawforwyn,
'Y mae draw mewn anghyflwr
Yn y winllan gwynfan gwr.
Myfy a af, mwy ofal,
Morwyn deg â mirain dal,
Drwy wydrin draw i edrych—
Truan oer mewn tro a nych—
Pa drychiolaeth, gaeth geithiw,
Y sydd yn y gwinwydd gwiw.'


'Un diriaid, Enid oroen,
Enaid, em honnaid, ym mhoen.'


'Pa un wyd yn penydiaw
Dy glwyf i mewn ôd a glaw?'


'Dy fardd poenedig digus,
Dewrfawr wyf mewn dirfa rus.'


'Dos ymaith rhag dy siomi,
Dilwydd daith, neu dy ladd di!'


'Oernos a welych arnaf,
'Y myd aur, i mi od af,
Oni wypwy', clydwy clod,
Pwy drechaf, myn Pedr uchod,
Ai ti ai mi o 'mafael,
Ai mi ai ti, fy myd hael.
Glân oedd i'm enaid, o glod
Fy aur eirian, farw erod.
Dillwng dy fardd a dwyllwyd
I mewn, ddyn, i'r man ydd wyd
Neu ddyred, och! neur dderwyf,
Yman, ddyn, i'r man ydd wyf.'


'Ni wnaf, ddyn truan annoeth,
Yr un o'r ddau, mau rin ddoeth.
Pa beth a gais gwr o bell,
Geirfas dwf, ger fy 'stafell?'


'Ceisio heb gur drwy'r mur maen
Dy weled, loywged liwgaen.'


'Pa ddysged neu pa ddisgwyl
Ydd wyd, y gwas gwiwlas gwyl?'


'Dwysgall dyall a'm diaur,
Disgwyl llun dyn dwysgall aur.'


'Pa ryw orllwyn mewn llwyni
Yn y dail yna wnai di?'


'Gorllwyn dyn mwyn, dawn im wyd,
Nid gorllwyn gwraig y garllwyd!'

167 I Fam Ifor Hael



Hawdd fyd, wawn wryd wen eirian—yng nghaer,
Angharad ferch Forgan,
Lliw rhudd aur, llawrodd arian,
Llwyr orau merch, lliw'r eiry mân.

168 Ffyddlondeb



Ni pheidia' â Morfudd, hoff adain—serchog,
Bes archai Bab Rhufain,
Hoywliw ddeurudd haul ddwyrain,
Oni ddęl y męl o'r main.

169 I Forfudd



Tawyf tra tawyf, tywyn gwynias—haul,
Hael Forfudd gyweithas,
Nis gwyr Duw i'th deuluwas
Awr daw ond wylaw glaw glas.

170 Ceirw'n Cydio



Doe gwelais cyd â gwialen—o gorn
Ac arno naw cangen;
Gwr balch ac og ar ei ben,
A gwraig foel o'r graig felen.


Made with Concordance