Defnyddio'r Wefan

Cwestiynau Cyffredin:

Ble caf i fap o’r safle?
Sut af i at y cerddi?
Sut galla’i ddod o hyd i’r gerdd rwy’n edrych amdani?
Pa gymorth sydd i ddeall y cerddi?
Oes ffordd gyflym o weld darlleniadau’r llawysgrifau?
Ble mae’r lluniau o’r llawysgrifau?
Pa luniau eraill sydd ar y safle?
Sut af i at adrannau yn y Rhagymadrodd?
Ble mae gwybodaeth am ffynonellau llawysgrifol?
Sut mae argraffu tudalennau?
Alla’i symud fframiau o gwmpas a’u gwneud yn fwy?
Pwy oedd yn gyfrifol am olygu pob cerdd?
Ble mae gwybodaeth am fanylion technegol?

 

 

Ar ôl i chi ddewis eich iaith ar y sgrin gyntaf, byddwch yn cyrraedd yr hafan. O’r fan honno gallwch ddarllen ‘Am y Prosiect’ neu fynd yn syth at y Cerddi neu at y Rhagymadrodd. 

Ar ôl clicio ar ‘Y Cerddi’ fe welwch ddewislen ar waelod chwith y sgrin â’r teitl ‘Dewis…’ .  O dynnu hon i lawr gwelwch restr o’r 170 o gerddi sydd yn y golygiad. Gallwch ddewis unrhyw un o’r rhain trwy glicio ar y teitl. Fe welwch fod y ffenestr wedi ei rhannu yn ddwy ffrâm, gyda thestun golygedig y gerdd yn y ffrâm ar ochr chwith y sgrin. Trwy glicio ar unrhyw linell yn y testun gallwch weld darlleniadau’r prif gopďau llawysgrif yn y ffrâm ar y dde. 

Ar draws gwaelod de’r sgrin gwelwch res o opsiynau. Sylwch fod y ddewislen ‘Dewis…’ yn aros ar waelod ochr chwith y sgrin er mwyn eich galluogi i ddewis mynd at gerdd arall.

Mae’r rhes o opsiynau yn cynnig yr adnoddau isod. Cliciwch ar y ddolen briodol i ddewis gwahanol opsiynau – gallwch symud o unrhyw opsiwn i opsiwn arall.

 

·        trwy glicio ar ‘ffynonellau’ cewch dabl o’r gronfa ddata sy’n rhestru pob copi llawysgrif o’r gerdd;

·        trwy glicio ar ‘stema’ cewch ddeiagram sy’n egluro’r berthynas rhwng y copďau llawysgrif ar gyfer y gerdd honno (ar gonfensiynau’r stemâu gw. y Rhagymadrodd);

·        trwy glicio ar ‘aralleiriad’ cewch aralleiriad mewn Cymraeg modern yn y ffrâm ar y dde yn gyfochrog â’r testun golygedig;

·        trwy glicio ar ‘cyfieithiad’ cewch gyfieithiad Saesneg  yn y ffrâm ar y dde yn gyfochrog â’r testun golygedig;

 ·        trwy glicio ar ‘awdio’ cewch wrando ar ddarlleniad o’r gerdd. Gallwch ddilyn y testun golygedig yn y ffrâm chwith. Dylai’r awdio chwarae’n otomatig ar PC Microsoft Windows. Gall defnyddwyr PC Microsoft Windows reoli’r chwaraewr awdio yn y ffrâm ar y dde hefyd (gellir rheoli chwarae ac oedi, a lefel y sain). Dylai defnyddwyr systemau eraill, fel Apple Mac a Linux, glicio ar y ddolen yn y ffrâm ar y dde lle mae’n dweud ‘Chwarae cerdd #.mp3’ er mwyn clywed yr awdio.

·        trwy glicio ar ‘nodiadau’ cewch weld rhagarweiniad i’r gerdd (yn y ffrâm ar y dde, yn gyfochrog â’r testun golygedig), gan gynnwys lluniau (i’w gweld trwy glicio ar y gair a oleuir), ac o sgrolio i lawr gallwch ddarllen trafodaeth ar y llawysgrifau sy’n cynnwys y gerdd, ystadegau’r gynghanedd, a nodiadau ar y testun yn esbonio geirfa a chyfeiriadaeth;

·        trwy glicio ar ‘testunau llawysgrif’ cewch restr o’r testunau sydd wedi’u trawsysgrifio’n llawn; o glicio ar un ohonynt bydd testun y llawysgrif honno’n ymddangos yn y ffrâm ar y dde yn gyfochrog â’r testun golygedig Ar frig y ffrâm honno fe welwch ddewislen Dewis… sy’n eich galluogi i symud at destun llawysgrif arall. (Gweler y Rhagymadrodd am gonfensiynau trawsysgrifio)

·        trwy glicio ar ‘lluniau llawysgrif’ cewch restr o’r copďau llawysgrif y mae lluniau digidol ohonynt i’w cael; o glicio ar un ohonynt cewch drawsysgrifiad o destun y llawysgrif honno yn y  ffrâm ar y dde, gyda lluniau ewin-bawd o dudalennau’r llawysgrif; cliciwch ar un o’r rheini er mwyn gweld y llun  yn y  ffrâm ar y chwith; gallwch nesáu neu bellhau at y llun drwy ddewis canran o’r ddewislen Nesáu/Pellhau. Wrth i chi symud eich cursor uwchben y llawysgrif fe sylwch ei fod wedi newid i  siâp llaw; o ddal botwm chwith eich llygoden i lawr gallwch ‘afael’ yn y llawysgrif a’i symud y fel y mynnwch; os digwydd i’ch cursor grwydro oddi ar y llawysgrif cliciwch eto wedi i chi ddychwelyd i ‘ollwng’ y llawysgrif; gallwch hefyd weld y llun mewn ffenestr newydd o glicio ar y ddolen honno ar ben y tudalen; Ar frig y ffrâm ar y dde fe welwch ddewislen Dewis… sy’n eich galluogi i symud at lawysgrif arall sydd â lluniau ohoni

·        trwy glicio ar ‘trefn llinellau’ cewch weld beth yw trefn llinellau’r gerdd ym mhob copi llawysgrif a gynhwysir yn y golygiad;

·        trwy glicio ar ‘testun golygedig’ gallwch fynd yn ôl at sgrin sy’n dangos y testun hwnnw yn unig.

·        Yn achos dwy gerdd, rhifau 33 a 73, mae opsiwn arall i’w gael yn y rhes ar waelod y sgrin, sef ‘cynghanedd’. Trwy glicio ar y gair hwn cewch weld testun o’r gerdd a’r cynganeddion wedi’u hamlygu’n weledol yn y ffrâm ar y dde. Mae’r botwm ‘dangos / cuddio enw’r gynghanedd’ yn gadael i chi weld enwau’r cynganeddion wrth ymyl y testun. (Ceir cyflwyniad i’r gynghanedd yn y Rhagymadrodd, gw. isod.)

 

Mae’r bar sgrolio fertigol yng nghanol y ffenestr yn symud y ffrâm ar y chwith, a’r bar sgrolio ar ochr dde’r ffenestr ar gyfer y ffrâm dde.

Gellir lledu’r naill ffrâm neu’r llall  drwy hofran eich cursor dros ochr dde’r bar fertigol yn y canol, ac yna ddal botwm chwith eich llygoden i lawr i’w lusgo ar draws fel y mynnwch.

 Gellir printio cynnwys unrhyw ran o’r  ffenestr trwy glicio arni a dewis ‘print’ ar eich cyfrifiadur. Ar rai peiriannau mae printio’n haws o glicio ar yr eicon ‘fersiwn hwylus i’w argraffu’ ar y sgrin.

 

 

Mae’r wefan hefyd yn cynnwys nifer o adnoddau sy’n berthnasol i’r golygiad. Er mwyn mynd at y rhain ewch yn ôl i’r hafan (sydd ar frig y sgrin bob amser) a chliciwch ar ‘Rhagymadrodd’. Yna fe welwch ddewislen sy’n rhestru’r adrannau fel a ganlyn:

 

·        Hanes y prosiect, sy’n cyflwyno’r tîm ac yn egluro pwy oedd yn gyfrifol am bob rhan o’r gwaith

·        Diolchiadau

·        Rhestr o’r byrfoddau a ddefnyddir yn y golygiad  [botwm ar bob sgrin?]

·        Llyfryddiaeth sy’n rhestru pob cyhoeddiad yn ymwneud â Dafydd ap Gwilym

·        Rhestr o’r 170 o gerddi a gynhwysir yn y golygiad, wedi’u rhannu’n gerddi a ystyrir yn waith dilys Dafydd ap Gwilym       (rhifau 1-151) a cherddi ansicr eu hawduriaeth (rhifau 152-170); dosberthir y cerddi dilys yn ôl eu pynciau

·        Rhestr o linellau cyntaf y cerddi yn nhrefn yr wyddor

·        Rhestr o deitlau’r cerddi yn nhrefn yr wyddor

·        Mynegair, sef y rhaglen ‘Concordance’ sy’n caniatáu i chi chwilio am unrhyw air yn y testunau golygedig, a gweld pob enghraifft ohono yn ei gyd-destun

·        Y bardd (heb ei gosod eto)

·        Y cyd-destun llenyddol (heb ei gosod eto)

·        Crefft y cerddi (heb ei gosod eto)

·        Cyflwyniad i’r gynghanedd

·        Y cefndir cerddorol

·        Egwyddorion y testunau golygedig

·        Awduraeth y cerddi

·        Yr apocryffa, sef rhestr anodedig o 204 o gerddi a gam-briodolir i Ddafydd ap Gwilym mewn llawysgrifau 

·        Traddodiad y llawysgrifau

·       Rhestr gynhwysfawr o’r llawysgrifau sy’n cynnwys cerddi’r golygiad, ynghyd â manylion cryno

·        Confensiynau’r trawsysgrifiadau a’r stemâu

·        Cronfa ddata y gellir chwilio ynddi yn ôl llawysgrif ac yn ôl cerdd

·        Recordiad fideo o gyngerdd a gynhaliwyd ar 4 Ebrill 2007

·        Recordiad o lais Syr Thomas Parry yn darllen darn o ‘Y Gwynt’

 

 

Manylion Technegol

Gwelir y wefan ar ei gorau gyda’r galedwedd a’r feddalwedd ganlynol:

  

·        Monitor 17 modfedd – o leiaf

·        Cyfrifiadur gydag o leiaf 256Mb o RAM

·        Microsoft Windows 2000 neu’n ddiweddarach, Mac OS X 10.2 neu’n ddiweddarach

·        Cerdyn graffeg gydag o leiaf 16Mb o RAM wedi’i osod i ddangos ar 32bit (miloedd o liwiau)

·        Microsoft Internet Explorer 4 ac uwch, Mozilla 4 cydwedd ac uwch, Safari 2 ac uwch

Developed and Maintained by Digital Humanities at Swansea University | Hawlfraint - Prifysgol Abertawe / Copyright - Swansea University | Rhestr Cerddi / Poem List