Edited Text: 47 - Y Gwynt

Y Gwynt

Yr wybrwynt, helynt hylaw,
Agwrdd drwst a gerdda draw,
Gŵr eres wyd garw ei sain,
4 Drud byd heb droed heb adain.
Uthr yw mor eres y'th roed
O bantri wybr heb untroed,
A buaned y rhedy
8 Yr awr hon dros y fron fry.

   Dywaid ym, diwyd emyn,
Dy hynt, di ogleddwynt glyn.
Hydoedd y byd a hedy,
12 Hin y fron, bydd heno fry,
Och ŵr, a dos Uwch Aeron
Yn glaer deg, yn eglur dôn.
Nac aro di, nac eiriach,
16 Nac ofna er Bwa Bach,
Cyhuddgwyn wenwyn weini.
Caeth yw'r wlad a'i maeth i mi.

   Nythod ddwyn, cyd nithud ddail
20 Ni'th dditia neb, ni'th etail
Na llu rhugl, na llaw rhaglaw,
Na llafn glas na llif na glaw.
Ni'th ladd mab mam, gam gymwyll,
24 Ni'th lysg tân, ni'th lesga twyll.
Ni boddy, neu'th rybuddiwyd,
Nid ei ynglŷn, diongl wyd.
Nid rhaid march buan danad,
28 Neu bont ar aber, na bad.
Ni'th ddeil swyddog na theulu
I'th ddydd, nithydd blaenwydd blu.
Ni'th wŷl drem, noethwal dramawr,
32 Neu'th glyw mil, nyth y glaw mawr.

   Rhad Duw wyd ar hyd daear,
Rhuad blin doriad blaen dâr,
Noter wybr natur ebrwydd,
36 Neitiwr gwiw dros nawtir gŵydd,
Sych natur, creadur craff,
Seirniawg wybr, siwrnai gobraff,
Saethydd ar froydd eiry fry,
40 Seithug eisingrug songry',
Drycin yn ymefin môr,
Drythyllfab ar draethellfor,
Hyawdr awdl heod ydwyd,
44 Hëwr, dyludwr dail wyd,
Hyrddwr, breiniol chwarddwr bryn,
Hwylbrenwyllt heli bronwyn.

   Gwae fi pan roddais i serch
48 Gobrudd ar Forfudd, f'eurferch.
Rhiain a'm gwnaeth yn gaethwlad,
Rhed fry rhod a thŷ ei thad.
Cur y ddôr, par egori
52 Cyn y dydd i'm cennad i,
A chais ffordd ati, o chaid,
A chân lais fy uchenaid.
Deuy o'r sygnau diwael,
56 Dywaid hyn i'm diwyd hael:
Er hyd yn y byd y bwyf,
Corodyn cywir ydwyf.
Ys gwae fy wyneb hebddi,
60 Os gwir nad anghywir hi.
Dos fry, ti a wely wen,
Dos obry, dewis wybren.
Dos at Forfudd felenllwyd,
64 Debre'n iach, da wybren wyd.